Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi dod i’r adwy drwy brynu eiddo masnachol yn Llanfyllin ym Mhowys. A hynny, er mwyn paratoi'r ffordd i'r gwneuthurwr rhannau modurol Marrill Group Ltd gymryd yr awenau. Mae’r fenter yn sicrhau 102 o swyddi a chyfleoedd i ehangu'r safle yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r cwmni hefyd wedi sicrhau cyfleuster benthyca saith ffigur gan Fanc Datblygu Cymru a chynnig o £700,000 o gyllid nad yw’n ad-daladwy gan Lywodraeth Cymru tuag at fuddsoddiad cyfalaf arfaethedig mewn peiriannau a pheiriannau newydd. A bydd hynny’n cefnogi creu rhagor o swyddi newydd yn y cyfleuster.

Mae'r trefniant rhwng Llywodraeth Cymru a Marrill hefyd yn cynnig opsiwn i brynu'r adeilad a'r iard ymhen 5 mlynedd.

Cafodd y safle ei werthu gan Stadco Limited, sydd wedi penderfynu sefydlogi eu gweithrediadau mewn rhannau eraill o'r DU.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o helpu i greu swyddi o ansawdd uchel ledled Cymru, ac felly rwy'n falch ein bod ni wedi gallu camu i mewn a helpu i sicrhau 102 o swyddi o ansawdd uchel yn Llanfyllin.

“Byddai colli'r cyfleuster hwn wedi cael effaith andwyol nid yn unig ar y dref ei hun ond hefyd ar gadwyni cyflenwi lleol a chymunedau gwledig cyfagos. Cyn gynted ag y daethon ni i wybod am fwriad Stadco i gau'r safle, buon ni'n chwilio am ateb a fyddai'n helpu i gadw'r swyddi hyn yn y dref.

“Mae Marrill yn gwneud buddsoddiad cyfalaf sylweddol i gaffael y busnes ac i fuddsoddi yn y fenter yn Llanfyllin. Rwy'n falch iawn o ddweud y bydd Llywodraeth Cymru a'r Banc Datblygu yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ehangu gweithrediadau, er mwyn helpu i greu mwy o swyddi newydd.

"Rwy hefyd yn cymeradwyo hanes y cwmni o ran rhoi ystyriaeth i'r amgylchedd. Mae offer gwasgu newydd 2,500t yn cael eu gosod ar safle Llanfyllin. A bydd hynny’n caniatáu i’r cwmni'n wneud gwaith o'r cyfandir ar y glannau.

Dywedodd Jason Phillips, Rheolwr Gyfarwyddwr Marrill Group Ltd:

“Mae wedi cymryd 18 mis o waith caled a thrafodaethau i gwblhau'r broses o gaffael y ffatri. O ganlyniad i gydymdrechion a chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru, rydyn ni wrth ein bodd gyda'r canlyniad terfynol. Byddwn ni'n buddsoddi yn y ffatri ac yn disgwyl i'r fenter busnes hon gynyddu ein gwerthiannau i tua £35 miliwn. Mae'n gyflawniad aruthrol, yn enwedig o ystyried sut mae'r pandemig wedi rhoi straen ar yr economi weithgynhyrchu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Mae'r gweithlu'n frwdfrydig, mae'r rhagolygon o ran gwerthiannau'n argoeli'n dda iawn, ac rydyn ni'n teimlo'n gyffrous o ran y buddsoddiadau sydd yn yr arfaeth a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau.

Dywedodd Rhodri Evans, Dirprwy Reolwr Cronfeydd,Banc Datblygu Cymru:

“Mae Marrill Group Ltd yn fusnes sefydledig, ac mae gan y cwmni dîm rheoli profiadol iawn sydd wedi ymrwymo i dyfu'r busnes o'r safle newydd ym Mhowys.

“Rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i sicrhau'r buddsoddiad pwysig hwn ar gyfer canolbarth Cymru; gan ddarparu'r cyllid i helpu i brynu'r busnes, buddsoddi mewn offer newydd, diogelu swyddi a chreu cyfle ar gyfer twf yn y dyfodol.