Neidio i'r prif gynnwy

Bydd rheoli ac adenwyddu mawndiroedd Cymru, sy’n bwysig yn amgylcheddol – gan helpu gydag ymateb y wlad i’r argyfwng hinsawdd – yn cael ei amlinellu o dan raglen newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 27).

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn sicrhau bod y polisïau presennol ar fawndiroedd sy’n cael eu llunio gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cyflawni ledled Cymru, sy’n cynnig un gyfres o ganllawiau a chyngor i bartneriaid a rheolwyr tir. 

Mae mawn yn cynnwys carbon organig sydd wedi ei ddal yn y ddaear dros filoedd o flynyddoedd, ac mae’n chwarae rhan hollbwysig wrth ddal a chadw carbon yn naturiol. 

Gall mawn ond cloi carbon tra y bydd yn tyfu, a dim ond mewn cynefinoedd iach y gall y twf hwnnw ddigwydd – tra y bydd mawndiroedd wedi’u difrodi yn rhyddhau carbon deuocsid yn ôl i’r atmosffer, gan olygu ei fod yn bwysicach byth eu bod yn cael eu rheoli’n iawn. 

Dim ond oddeutu pedwar y cant o arwynebedd tir Cymru sy’n fawndiroedd, ac maent angen amodau penodol iawn i dyfu. 

Er bod nifer o’n mawndiroedd yn cael eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu da byw, maent hefyd yn chwarae rhan hanfodol mewn meysydd eraill – gan gynnwys rheoli’r risg o lifogydd drwy arafu afonydd, a chynnig cynefinoedd ar gyfer amrywiol rywogaethau. 

Bydd y rhaglen newydd yn helpu i reoli mawndiroedd sy’n bodoli eisoes, ac yn adfer nifer i’w cyflwr blaenorol – yn ogystal â helpu i arafu’r broses o’u colli. 

Cafodd y rhaglen ei lansio gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. 

Meddai’r Gweinidog:

“Dwi’n falch iawn o lansio ein Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, fydd yn cynnig un gyfres gydlynnol o gyngor a chanllawiau i’n partneriaid rheoli tir ledled Cymru.   

“Wrth inni edrych ymlaen at gyflawni ein hamcanion datgarboneiddio, mae angen inni wneud defnydd da o bob dull sydd gennym o ddal a storio carbon – ac mae mawndiroedd yn hynod dda am wneud hyn, gan gynnig dull cynaliadwy o storio carbon am ganrifoedd. 

“Yn anffodus, oherwydd materion megis draenio, coedwigaeth, erydu a rheoli dwys – ac wrth i effaith yr argyfwng hinsawdd barhau, bydd eu cael yn ôl a chreu mawndiroedd newydd yn dod yn fwyfwy anodd. 

“Oherwydd hynny, mae angen un pwynt cyd-lynnu ar gyfer rheolwyr tir ledled Cymru i sicrhau bod ein mawndiroedd yn cael eu rheoli yn gynaliadwy – ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda partneriaid ar eu hadfer.”   

Meddai Syr David Henshaw, Cadeirydd CNC: 

“Ni ellir gor-bwysleisio pwysigrwydd rheoli mawndiroedd mewn dull gynaliadwy.  Mewn cyflwr da, maent yn storio symiau enfawr o garbon ac yn cynnwys amrywiol blanhigion a bywyd gwyllt prin.   

“Mae mawndiroedd hefyd yn helpu i storio dŵr allai leihau y risg o lifogydd mewn ardaloedd is.  Maent yn helpu i buro ein cyflenwadau dŵr ac yn cyfrannu at gynhyrchu bwyd trwy bori. 

“Mae gwaith gwych yn cael ei wneud ar gadwraeth mawndiroedd yn ddiweddar.  Ond mae llawer i’w wneud o hyd.  Ac mae’n fater o frys; rydym yn gwybod bod newid hinsawdd – gyda’r rhagolygon y bydd hafau sychach a gaeafau gwlypach – yn golygu y bydd y broses o adfer ein mawndiroedd sydd wedi eu haddasu fwyaf yn fwy heriol gydag amser.   

“Mae’r rhaglen hon yn rhoi’r strwythur a’r cyllid inni adfer mawndiroedd ar raddfa fwy ac yn gyflymach, mewn partneriaeth â pherchnogion tir a sefydliadau cadwraeth eraill.  Mae gweithredu nawr yn fuddsoddiad gwirioneddol yn ein llesiant yn y dyfodol.”