Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adnodd cyntaf ar gyfer trafod rhoi organau gyda disgyblion ysgol wedi cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru yn Ysgol Gyfun Penyrheol yn Abertawe.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r adnodd hwn, a gafodd ei dreialu gyda'r disgyblion yno, yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion cyfnodau allweddol 3 a 4 ddysgu ynghylch rhoi organau, gan eu hannog i drafod y pwnc gyda'u cyfeillion a'u teuluoedd.

Cafodd y pecyn ei lunio  wedi i Lywodraeth Cymru gydweithio â Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG, ac mae'n cynnwys cynllun gwers, gweithgareddau, ffilmiau astudiaethau achos byr, a chanllawiau i athrawon.  

Ei nod yw sicrhau bod disgyblion yn deall:

  • Sut mae rhoi organau yn arbed bywydau ac yn eu gwella;
  • Rhai o'r rhesymau pam mae pobl yn penderfynu bod yn rhoddwyr organau a meinwe;
  • Pam mae'n bwysig ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Organau y Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
  • Sut i siarad â phobl ynghylch rhoi organau a meinwe;
  • Pa opsiynau rhoi organau y mae'n rhaid eu hystyried o dan y system yng Nghymru;
  • Pwysigrwydd cofio mai eu penderfyniad nhw fel unigolion yw rhoi organau ai peidio, a phwysigrwydd rhannu'r penderfyniad hwnnw ag eraill.



Yn 2015, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno system feddal o optio allan ar gyfer cydsynio i roi organau. Dengys yr ystadegau diweddaraf mai 72% yw’r gyfradd gydsynio, gyda thua 24.3 o roddwyr fesul miliwn o'r boblogaeth, sy'n gosod Cymru ar frig y rhestr yn y DU. 

Dengys yr ystadegau hefyd fod 39% o boblogaeth Cymru wedi cofrestru i optio i mewn i roi organau wedi iddynt farw. Fodd bynnag, os nad yw’r unigolyn yn trafod ei benderfyniad i roi organau â'i anwyliaid, mae perygl y bydd y teulu yn peidio ag anrhydeddu ei benderfyniad ac yn anwybyddu'r gofrestr rhoddwyr organau neu wrthwynebu cydsyniad tybiedig.

Yn 2016-17, roedd data a gyhoeddwyd gan Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG yn dangos bod 21 o achosion yng Nghymru lle'r oedd teuluoedd naill ai wedi mynd yn groes i benderfyniad eu perthynas i roi organau, neu wedi gwrthod derbyn y cydsyniad tybiedig.

O ystyried y cafodd 3.1 o organau eu rhoi ar gyfartaledd gan bob rhoddwr yng Nghymru yn 2016-17, gallai'r achosion hynny fod wedi golygu cynifer â 65 o drawsblaniadau eraill. 

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru,  Dr Frank Atherton: 

"Mae annog pobl i drafod rhoi organau yn agored ac yn onest yn allweddol i sicrhau bod mwy o bobl yn cydsynio i roi eu horganau, ac yn bwysicach fyth, bod eu teuluoedd yn deall ac yn parchu eu dymuniad.

"Mae'n bwysig bod plant a phobl ifanc yn cael cymaint o wybodaeth â phosibl, mewn modd sensitif sy'n ennyn eu diddordeb, er mwyn iddyn nhw allu gwneud penderfyniad sy’n seiliedig ar y ffeithiau ynghylch rhoi organau a thrafod y penderfyniad hwnnw â'u teuluoedd."  

Er mwyn gwneud yn siŵr bod y pecyn yn ymarferol, cyn ei gyflwyno'n ehangach, cafodd ei dreialu yn Ysgol Gyfun Penyrheol gan y Cydgysylltydd Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Hayley Steel. Dywedodd Hayley Steel:

"Roedd yn fraint enfawr cael y cyfle i dreialu rhywbeth mor bwysig â'r pecyn ysgol ar gyfer trafod rhoi organau. Mae wedi bod yn dda gweld yr adborth o'n sesiwn ni yn helpu i lunio'r pecyn fel ag y mae heddiw. 

"Roedd ymateb y disgyblion i'r gweithgareddau mor dda; mae'n bwysig peidio ag anghofio bod pobl ifanc yn gallu deall a thrafod cwestiynau mawr bywyd. Dw i'n credu y bydd y pecyn yn helpu ysgolion eraill ledled Cymru i oresgyn yr amharodrwydd i drafod rhoi organau yn agored."


Mae Nadine Marshall, a gollodd ei mab Conner mewn amgylchiadau trasig ar ôl i rywun ymosod arno yn 2015,  yn ymddangos yn un o’r ffilmiau astudiaeth achos. Dywedodd Nadine:  

“Rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn bod llais pobl ifanc yn cael ei glywed a’u bod nhw’n cael cyfle i siarad am roi organau yn yr ysgol a’r coleg. Mae’n bwysig hefyd bod unigolion yn siarad â’r rheini sydd agosaf atyn nhw fel bod eu teuluoedd yn ymwybodol o’u penderfyniad os byddan nhw’n cael eu rhoi mewn sefyllfa anodd iawn fel hon.   

“Dim ond 16 oed oedd Conner pan benderfynodd ef fod yn rhoddwr organau a dw i’n ddiolchgar ein bod ni wedi siarad am ei benderfyniad a’n bod ni’n gwybod pa mor gryf roedd e’n teimlo am fod yn rhoddwr organau. 

“Mae ef wedi rhoi rhodd werthfawr ac roedden ni wedi gallu gwireddu dymuniad Conner drwy gefnogi ei benderfyniad.”