Neidio i'r prif gynnwy

Ar ddechrau Pythefnos Gofal Maeth 2023, mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi cyhoeddi mai Llywodraeth Cymru yw’r llywodraeth lawn gyntaf yn y DU i ennill statws Cyfeillgar i Faethu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi’i chroesawu i’r cynllun gan y Rhwydwaith Maethu, sef prif elusen faethu'r DU, i gydnabod y gefnogaeth y mae’n ei rhoi i staff sy’n darparu gofal maeth i blant.

Dywedodd y Rhwydwaith Maethu fod Llywodraeth Cymru wedi dangos ymrwymiad i’w gwneud yn haws i bobl ystyried maethu, ochr yn ochr â chynnig cymorth i’r rhai sy’n gwneud hynny, gan eu galluogi i gydbwyso cyflogaeth â gofalu am y plant sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae hyn yn cynnwys absenoldeb â thâl i groesawu a setlo plentyn i’w cartref.

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

Mae’n anrhydedd bod Llywodraeth Cymru wedi cael gwobr mor bwysig gan y Rhwydwaith Maethu.

Drwy ddod yn gyflogwr sy’n Gyfeillgar i Faethu, rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn annog cwmnïau a busnesau lleol eraill yng Nghymru i ystyried sut y gallai ymuno â’r cynllun fod o fudd i’w gweithlu hwythau ac ar yr un pryd rhoi rhywbeth yn ôl i’w cymuned.

Dywedodd Sarah Thomas, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Maethu Cymru:

Mae sefydliadau sy’n dewis dod yn gyflogwyr sy’n Gyfeillgar i Faethu yn arbennig iawn ac maent yn haeddu cael eu dathlu am ennill y statws yma.

Drwy ymuno â’r cynllun, mae’n dangos gwir ymrwymiad i werthfawrogi a pharchu gweithwyr sy’n ofalwyr maeth, y rhai sy’n mynd drwy’r broses ymgeisio ac wrth gwrs, plant a phobl ifanc yn y gymuned.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cynsail i eraill ei ddilyn, ac rydyn ni’n falch o’i chroesawu fel cyflogwr sy’n Gyfeillgar i Faethu.

I nodi dechrau Pythefnos Gofal Maeth 2023, bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, Albert Heaney, yn cwrdd â theuluoedd maethu yn y Senedd heddiw (dydd Llun 15 Mai 2023).

Dywedodd Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru:

Mae’r rôl hanfodol y mae teuluoedd maeth yn ei chwarae ym mywydau’r plant y maent yn gofalu amdanynt i’w chanmol yn fawr. Y cynhesrwydd, y sefydlogrwydd a’r gefnogaeth y mae’r teuluoedd hyn yn eu darparu a fydd yn galluogi plentyn i ddatblygu a ffynnu, ac yn y pen draw trosglwyddo’n llwyddiannus i fod yn oedolyn.

Rwy’n falch iawn o groesawu nifer o ofalwyr maeth gwirioneddol ragorol i’r Senedd a dathlu eu hymrwymiad a’r gwahaniaeth y maent yn ei wneud i fywydau plant, yn ystod Pythefnos Gofal Maeth eleni.

Mae nifer o’r rhai a wahoddir i’r Senedd yn ofalwyr maeth i awdurdod lleol. Yn 2021, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, ymunodd pob un o’r 22 o wasanaethau maethu cynghorau Cymru gyda’i gilydd i ffurfio Maethu Cymru.

Mae’r rhwydwaith unedig hwn wedi’i gwneud yn bosibl recriwtio a chadw gofalwyr maeth gydag arbenigedd a chysylltiadau lleol, gan gynnwys cymeradwyo 192 o ofalwyr maeth newydd.

Mae hyn yn golygu bod mwy o blant Cymru sydd angen gofal maeth yn gallu cadw cysylltiad â’u cymunedau yma yng Nghymru, yn hytrach na chael eu hanfon filltiroedd i ffwrdd i leoliadau anghyfarwydd ar adeg sydd eisoes yn anodd.

Ymhlith y rhai a fydd yn bresennol yn y Senedd fydd Karen a Danny Sherwood, o Bowys.

Mae’r cwpl wedi bod yn ofalwyr maeth rhagorol ers dros 25 mlynedd, ac mae eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad hefyd wedi ysbrydoli eu merch a’u hwyres, gyda’r ddwy ohonynt bellach yn ofalwyr maeth.

Bydd Chad a’i bartner Bradley, a gafodd eu cymeradwyo drwy Maethu Cymru Abertawe yn 2022, hefyd yn bresennol yn y Senedd.

Dywedodd:

Does dim byd yn rhoi mwy o foddhad na maethu. Os yw rhywun yn ystyried maethu, mae’n deimlad gwerth chweil.

Nid yw’n hawdd drwy’r amser, ond gallwch helpu i greu sefyllfa bositif i blentyn a chael effaith ar weddill ei fywyd.

Mae’r cymorth a gawsom gan ein gweithiwr cymdeithasol a Maethu Cymru wedi bod yn anhygoel.

Mae mwy o blant yng Nghymru yn cael gofal gan ofalwyr maeth awdurdodau lleol, gan gadw cysylltiad â’r cymunedau sy’n golygu cymaint iddynt. Yn ogystal â hyn, mae Maethu Cymru wrthi’n gweithredu ei weledigaeth bod holl ofalwyr maeth awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael lefelau cyson o gefnogaeth, manteision, cyfleoedd dysgu a buddion ychwanegol drwy ei Ymrwymiad Cenedlaethol.

Dywedodd pennaeth Maethu Cymru, Alastair Cope:

Rwy’n falch iawn o weld ein gofalwyr maeth yn bresennol yn y Senedd heddiw, i gael eu cydnabod am eu hymroddiad i’n plant.

Mae Maethu Cymru, sy’n cynrychioli pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, wedi ymrwymo i wella ein cynnig i holl ofalwyr maeth awdurdodau lleol yng Nghymru, gan sicrhau cysondeb, ac adeiladu ar y blynyddoedd o brofiad a chymorth ardderchog sydd eisoes yn cael eu cynnig gan ein timau yn yr awdurdodau lleol.

Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gydag awdurdodau lleol a chyflogwyr yng Nghymru i gefnogi polisïau ac arferion Cyfeillgar i Faethu. Rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am arwain drwy esiampl, gan gynnig absenoldeb gwerthfawr, â thâl, i weithwyr sydd hefyd yn dewis maethu.

Mae Maethu Cymru wedi ymrwymo i sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl ifanc, ac rydyn ni’n gwybod bod gallu aros yn agos i lefydd sy’n gyfarwydd iddynt, ac at bobl sy’n bwysig iddynt, yn rhan enfawr o hyn. Dim ond drwy faethu i’ch awdurdod lleol y gallwch ein helpu i gyflawni hyn, a dyna pam ein bod yn hynod o falch o gael cefnogaeth Llywodraeth Cymru.