Neidio i'r prif gynnwy

Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi yng Nghymru, yn ymweld â Birmingham, Alabama i nodi 60 mlynedd ers bomio hiliol Eglwys y Bedyddwyr 16th Street a laddodd bedair merch fach, ac i ailddatgan y berthynas hanesyddol rhwng Cymru a Birmingham trwy Gytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn y bomio, a oedd yn foment allweddol yn Mudiad Hawliau Sifil yr Unol Daleithiau, ariannodd pobl Cymru ffenestr gwydr lliw newydd yn darlunio Crist du ar y groes fel arwydd symbolaidd o undod. Wedi'i ddylunio gan yr artist Cymreig John Petts a'i gefnogi gan ymgyrch gan y Western Mail, rhoddwyd 'Ffenestr Cymru' i Eglwys y Bedyddwyr 16th Street.

Bydd y Gweinidog Vaughan Gething, y gweinidog du cyntaf yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban, yn cynnig sylwadau yn Niwrnod Coffa Eglwys y Bedyddwyr 16th Street ar y 15fed o Fedi, ochr yn ochr â'r fenyw ddu gyntaf yng Ngoruchaf Lys yr UDA, yr Ustus Ketanji Brown Jackson. 

I nodi'r achlysur ac er anrhydedd i'r berthynas hanesyddol rhwng Cymru a Birmingham, bydd Gweinidog yr Economi a Maer Birmingham Randall Woodfin yn llofnodi Cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol, gan gadarnhau ymrwymiad i gydweithio ar yr economi, addysg, y celfyddydau a diwylliant.  Yn dilyn yr arwyddo, bydd dadorchuddio plac coffa a chyflwyno pedair coeden ym Mharc Kelly Ingram er cof am y bedair ferch.

Yn ogystal â nodi'r datblygiadau hanesyddol a wnaed ers y 1960au, bydd y Gweinidog yn pwysleisio’r  angen i weithredu yng ngwyneb 'grymoedd pwerus heddiw sy'n ffynnu ar raniadau'.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

Fe wnaeth hiliaeth ddwyn dyfodol pedair merch a ddylai fod wedi bod yn rhydd i fyw bywydau hir, cyflawn. Mae'n destun balchder mawr i'n cenedl, 60 mlynedd yn ddiweddarach, bod Ffenestr Cymru yn parhau i fod yn ffynhonnell nerth i gymuned sydd wedi gwneud cymaint i droi dioddefaint yn obaith i bobl ledled y byd.

"Bydd yna bobl yng Nghymru fydd yn cofio rhoi yr ychydig oedd ganddyn nhw i helpu i greu'r mynegiant unigryw yma o undod Cymreig. Dewison nhw weithredu ar y reddf deilwng honno a gwneud rhywbeth i helpu pobl dros 4,000 o filltiroedd i ffwrdd. Mae'r penderfyniad i weithredu ar y reddf honno yn bwerus ac yn rheswm i bob un ohonom deimlo'n obeithiol am ein gallu i herio hiliaeth lle bynnag y mae'n bygwth cynnydd. 

"Er gwaethaf y datblygiadau rydym yn eu dathlu, gwyddom nad yw cyfiawnder a chynnydd yn anochel. Mae grymoedd pwerus heddiw sy'n ffynnu ar raniad a chasineb. Wrth i ni anrhydeddu'r gorffennol, mae gennym  ddyled i'r rhai a ddaeth a newid i rym ac i gydnabod y camau sydd eu hangen heddiw i greu gwell yfory.   

"Rwy’n falch iawn o arwyddo Cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol Birmingham – Cymru gyda Maer Randall Woodfin.   Mae'r cytundeb yn arwydd o'n bwriad i adeiladu ar y cysylltiadau presennol a meithrin cydweithrediad a chydweithio diwylliannol ac economaidd parhaus."

Wrth groesawu Mr Gething i Birmingham, dywedodd y Maer Randall Woodfin: 

Bydd yr enwau Denise McNair, Cynthia Morris Wesley, Carole Robertson, ac Addie Mae Collins yn rhan annatod o hanes hawliau sifil.  Er y bydd achlysur coffáu y merched ifanc hyn yn gyfnod o alaru a myfyrio difrifol, mae hefyd yn gyfnod o undod. Dyna pam mae'n anrhydedd i Ddinas Birmingham groesawu'r Gweinidog Vaughan Gething i rannu yn yr achlysur cysegredig hwn wrth inni adeiladu cysylltiadau cyfeillgarwch a chydweithio."

Bydd yr ymweliad hefyd yn cynnwys trafodaeth banel ar hawliau sifil a sesiwn coginio diwylliannol gyda rhanddeiliaid a gynhelir gan Birmingham Sister Cities, ac amryw fyrddau busnes a chyfarfodydd gan gynnwys ymweliad â phencadlys Moneypenny yn yr Unol Daleithiau yn Atlanta.