Mae cymorth i deuluoedd sydd wedi wynebu'r profiad torcalonnus o golli babi yn cael ei ymestyn.
I nodi dechrau Wythnos Ymwybyddiaeth o Golli Babi, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cefnogaeth yn cael ei ymestyn i ofal profedigaeth ar ôl colli babi, sy'n cynnwys:
- camesgoriad
- terfynu beichiogrwydd yn sgil anomaleddau ffetws
- marw-enedigaeth
- marwolaeth newyddanedigion
- marwolaeth annisgwyl sydyn yn ystod babandod
Bydd llwybrau yn cael eu datblygu i gefnogi mynediad at gwnsela, cyfleoedd creu atgofion fel creu olion dwylo, lluniau ac eitemau i'w cadw, llyfrynnau gwybodaeth ac adnoddau ar-lein wedi'u teilwra i wahanol fathau o golled, ac atgyfeirio at elusennau a sefydliadau cymorth ar gyfer gofal parhaus.
Bydd y buddsoddiad gwerth £35,000 yn galluogi SANDS, yr elusen beichiogrwydd a cholli babanod, i barhau i gefnogi'r gwaith o ddarparu'r gofal hanfodol hwn. Mae'n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu gofal i deuluoedd mewn profedigaeth yn ystod eu cyfnodau anoddaf, gan sicrhau bod cymorth tosturiol, cyson ar gael i bob rhiant mewn profedigaeth yng Nghymru, pan fydd ei angen fwyaf.
Bydd safonau newydd mewn gofal profedigaeth ar gyfer beichiogrwydd a cholli babanod, a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â rhieni mewn profedigaeth a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, hefyd yn cael eu cyhoeddi'n fuan. Bydd y rhain yn sail i ofal profedigaeth cynhwysfawr ledled GIG Cymru.
Mae SANDS wedi bod yn gweithio'n agos gyda rhwydwaith MatNeo i ddatblygu'r cymorth hwn. Mae'r elusen wedi cael ei chomisiynu i ymgysylltu â theuluoedd a darparu hyfforddiant hanfodol i staff gofal iechyd i sicrhau gweithredu'r safonau newydd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles:
Ni ddylai unrhyw deulu wynebu'r profiad torcalonnus o golli babi heb gymorth priodol a gofal tosturiol.
Mae'r cyllid hwn yn sicrhau y bydd teuluoedd mewn profedigaeth ledled Cymru yn parhau i gael y gofal profedigaeth o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu yn ystod eu cyfnodau anoddaf.
Mae hyn yn arwydd o'n hymrwymiad i roi cymorth i deuluoedd yn ystod beichiogrwydd a cholli babanod gyda'r urddas, dealltwriaeth a'r gofal gorau posibl.
