Neidio i'r prif gynnwy

Mae Comisiynwyr yn cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru i oruchwylio Awdurdod Tân ac Achub De Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae eu penodiad yn dilyn cyhoeddi adroddiad annibynnol 'damniol' a oedd wedi amlygu diwylliant o ragfarn ar sail rhyw a chasineb at ferched, gan gynnwys methiannau ehangach o ran rheolaeth ac arweinyddiaeth yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, nad oedd ganddi hyder bod gan y Gwasanaeth y gallu mewnol sydd ei angen i oruchwylio ei adferiad ei hun, a bod y rheolaeth ar bob lefel yn gysylltiedig â'r methiannau a amlygwyd gan yr adolygiad dan arweiniad Cwnsler y Brenin (CB).

Ychwanegodd gan mai Awdurdod Tân ac Achub De Cymru oedd y broblem, nad oedd modd iddynt fod yn rhan o'r ateb.

Wrth gyhoeddi ei phenderfyniad i benodi comisiynwyr mewn datganiad i'r Senedd y prynhawn yma, dywedodd nad oedd bwriad y Prif Swyddog Tân i ymddeol yn ddigonol i ysgogi'r newid mewn prosesau, gwerthoedd a diwylliant a fydd eu hangen ar raddfa eang i fynd i'r afael â'r problemau diwylliannol difrifol yn y gwasanaeth.

Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dileu holl swyddogaethau Awdurdod Tân ac Achub De Cymru a'u rhoi i bedwar Comisiynydd. 

Mae'r rhain fel a ganlyn:

  • Y Farwnes Wilcox, cyn-Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd;
  • Kirsty Williams, cyn-Aelod o'r Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed;
  • Vij Randeniya, cyn-Brif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân Gorllewin Canolbarth Lloegr; a
  • Carl Jason Foulkes, cyn-Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru.

Bydd gan y comisiynwyr bwerau i ailstrwythuro a diwygio'r gwaith o reoli'r Gwasanaeth ac i feithrin diwylliant cadarnhaol ac anwahaniaethol. Byddant yn aros yn eu swydd hyd nes y bydd y gwaith wedi'i orffen, a byddant yn adrodd yn rheolaidd i'r Dirprwy Weinidog ar y cynnydd.

Roedd yr adroddiad annibynnol gan Fenella Morris CB ar Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn feirniadol iawn o'r ymddygiadau a'r agweddau gwahaniaethol ar bob lefel yn y gwasanaeth, yn ogystal â methiannau rheolwyr i fynd i'r afael â nhw.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog nad yw cynigion Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ei hun i weithredu argymhellion yr adroddiad yn rhoi unrhyw sicrwydd y bydd modd mynd i'r afael â'r problemau sylfaenol.

Roedd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru wedi cynnig sefydlu Pwyllgor Gweithredu i Adolygu Diwylliant i oruchwylio'r gwaith o weithredu argymhellion yr adroddiad. Ond dywedodd y Dirprwy Weinidog nad oedd ganddi hyder y byddai hyn yn mynd i'r afael â'r gwendidau sylfaenol o ran llywodraethu, a bod angen ymyrraeth gryfach.

Dywododd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: "Mae'n anodd gweld sut y byddai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gallu gwneud y newidiadau sydd eu hangen. Yn enwedig o ystyried bod y rhai sydd yn y swydd ar hyn o bryd yn rhan o'r broblem, ac felly allan nhw ddim hefyd fod yn rhan o'r ateb.

"Oni bai bod camau'n cael eu cymryd nawr, mae risg y gallai'r methiannau hyn hefyd effeithio ar y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu, a rhoi bywydau mewn perygl."

"Does gen i ddim ffydd yn y tebygolrwydd y bydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn adfer safon dderbyniol o reoli, nac ychwaith y bydd yn mynd i'r afael â'r risgiau ehangach i'r gwasanaeth y mae'n ei ddarparu i ddiogelu diffoddwyr tân a’r cyhoedd.

"Rwy'n credu bod hynny'n creu achos cymhellol dros ymyrraeth Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau adferiad cyflym a chynaliadwy."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog fod tystiolaeth o sut mae'r methiannau rheoli wedi effeithio'n uniongyrchol ac yn ddifrifol ar wasanaethau craidd. Mae hyn yn cynnwys bod y gwasanaeth tân wedi gwrthod argymhellion gan y Prif Gynghorydd Tân ac Achub i wella safonau gwasanaeth a diogelwch diffoddwyr tân.

Ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi methu â dilyn cyngor blaenorol gan Fframwaith Cenedlaethol Gwasanaethau Tân ac Achub 2016 i leihau eu hymatebion i alwadau tân diangen. Mae eu hymatebion i alwadau tân diangen wedi codi'n gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae bellach yn agos at y lefel uchaf a gofnodwyd.