Aeth Cymru â'i hachos yn uniongyrchol at weinidogion y DU a'r gweinidogion datganoledig yng nghyfarfod cyntaf Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol y Llywodraeth newydd hon, a gynhaliwyd yn Belfast yr wythnos hon.
- Gweinidog yn herio Llywodraeth y DU ar Fil Cymru a bwlch cyllido HS2
- Angen setliad cyllido teg, sy'n seiliedig ar anghenion i roi terfyn ar danariannu hanesyddol
- Ymweliad yn dilyn datganiad i'r Senedd, sy'n nodi blaenoriaethau gweinidogol llawn
Aeth Cymru â'i hachos yn uniongyrchol at weinidogion y DU a'r gweinidogion datganoledig yng nghyfarfod cyntaf Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol y Llywodraeth newydd hon, a gynhaliwyd yn Belfast yr wythnos hon.
Pwysleisiodd y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydweithredu â Llywodraethau y DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon, tra'n pwyso’r achos dros Fil Cymru newydd i roi pwerau i Gymru ar yr un lefel â'r Alban, a galw am gyllid teg i Gymru. Roedd y ddau ymrwymiad yn ganolog i gynllun 100 diwrnod y Llywodraeth newydd.
Croesawodd y Gweinidog gydnabyddiaeth gyhoeddus Llywodraeth y DU bod seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru wedi ei danariannu yn hanesyddol a galwodd am amserlen a rhaglen gyflawni y cytunwyd arnynt i sicrhau ymrwymiad buddsoddi Network Rail gwerth £14 biliwn.
Cynhaliodd y Gweinidog gyfres o gyfarfodydd gyda chymheiriaid mewn llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU, gan ganolbwyntio ar weithio gyda'i gilydd i gefnogi pobl sy'n cael trafferth gyda chostau byw, gofal plant a chodi plant allan o dlodi.
Wrth siarad o Stormont, dywedodd y gweinidog:
"Mae Cymru'n haeddu cael ei thrin yn deg. Nid yw disodli fformiwlâu cyllido hen ffasiwn a sicrhau pwerau newydd yn geisiadau haniaethol; mae'n ymwneud â chael yr adnoddau i wneud y gwaith yn iawn a gwella bywydau pobl yng Nghymru.
"Rydym yn pwyso am Fil Cymru newydd i sicrhau bod gan Gymru yr un pwerau â'r Alban.
"Cawsom ein hethol gyda mandad clir i ailosod y berthynas â San Steffan, ac mae'r Llywodraeth Newydd hon yn gwneud hynny."
Nododd y gweinidog hefyd bwysigrwydd gweithio ar y cyd ar draws llywodraethau, gan ddweud:
"Mae costau byw - a wnaed hyd yn oed yn fwy heriol gan yr argyfwng yn y Dwyrain Canol - yn effeithio ar bob un ohonom, ac rwy'n croesawu'r cyfle i rannu yr hyn rydyn ni'n ei ddysgu gyda chydweithwyr ledled y DU i sicrhau ein bod yn gweithio'n galetach, yn ddoethach ac yn fwy effeithiol i'r rhai rydyn ni'n eu cynrychioli."
Yn gynharach yr wythnos hon, nododd y Gweinidog ei flaenoriaethau i'r Senedd, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer ysgol lywodraethu genedlaethol, Comisiwn Cenedlaethol sefydlog newydd ar y Cyfansoddiad, a Swyddfa'r Cabinet wedi'i chryfhau, wedi'i galluogi'n ddigidol i sicrhau bod y Llywodraeth hon yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru.
