Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r cwmni yn cynhyrchu yr offer camera diweddaraf ar gyfer y diwydiant darlledu o’i ganolfan ragoriaeth lwyddiannus.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron hanner miliwn o bunnedd i gefnogi Sony, y cwmni electronig mawr ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, yn ystod y pandemig yn ogystal â grant o £3 miliwn i helpu’r cwmni ddod o hyd i swyddi lleol a buddsoddi yn ei ddyfodol hirdymor yn Ne Cymru, yn ôl cyhoeddiad gan Ken Skates, Gweinidog yr Economi.

Fel un o’r cyflogwyr mwyaf yn ne Cymru, Canolfan Technoleg Sony UK De Cymru (UK TEC) yw’r ganolfan gweithgynhyrchu a gwasanaethu cwsmeriaid Sony yn y DU, ac mae’n cynnwys 29 o gwmnïau o denantiaid cysylltiedig.

Mae Sony UK TEC wedi cynhyrchu camerâu ar gyfer grŵp Sony ers 1999, ac mae wedi cyflenwi a gwasanaethu camerâu sydd wedi eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau chwaraeon byd-eang gan gynnwys Pencampwriaeth Wimbeldon a Chwpan y Byd FIFA 2014 a 2018.

Bydd y cyllid y mae Sony wedi ei dderbyn gan Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru yn helpu i ddiogelu cannoedd o swyddi, a bydd y grant gan Gronfa Dyfodol yr Economi hefyd yn helpu i sicrhau bod prosesau gweithgynhyrchu ar y safle yn addas at y dyfodol.

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd, sy’n rhan o becyn cymorth dros £1.7 biliwn Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau, yn rhoi cymorth ariannol sylweddol i gefnogi cwmnïau meicro, BBaCh a chwmnïau mawr ledled Cymru, ac yn ategu’r cymorth a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Hyd yma, mae dros 13,000 o fusnesau wedi derbyn cymorth ariannol gwerth dros £280 miliwn, ac mae’r gronfa wedi helpu i warchod dros 100,000 o swyddi.

Meddai Steve Dalton, Rheolwr-Gyfarwyddwr Sony UK TEC:

“Rydyn ni bob amser yn hynod ddiolchgar am y cymorth parhaus yr ydym yn ei gael gan Lywodraeth Cymru. Fel cyflogwr mawr yn Ne Cymru, mae gennym gyfrifoldeb i ddarparu a gwarchod swyddi o fewn ein cymuned leol nid yn unig mewn cyfnodau o argyfwng, megis y pandemig byd-eang rydyn ni’n ei wynebu ar hyn o bryd, ond hefyd mewn cyfnodau o lewyrch.

“Mae cymorth grant Llywodraeth Cymru a gawsom yn ddiweddar wedi helpu inni gyflawni’r cyfrifoldeb hwn ac i ddiogelu swyddi ein staff. Rydym hefyd yn rhagweld y bydd y grant yn ein galluogi i barhau i greu cyfleoedd am waith yn y dyfodol wrth inni wella ein busnes ymhellach a’i ehangu.

“Mae’r cyllid yn bennaf er mwyn cefnogi twf a chynaliadwyedd canolfan Pencoed dros y 3 mlynedd nesaf, gyda Sony UK TEC yn bwriadu buddsoddi’n helaeth yn eu gweithrediadau busnes. Gyda’r cynnydd mewn cynnyrch electronig a thwf datblygiadau technolegol o ran dylunio cynnyrch a gweithgynhyrchu ac ati, bydd Sony UK TEC yn gwneud buddsoddiad sylweddol yn ei broses mowntio wyneb a’i brosesau gweithgynhyrchu awtomatig i gadw ei safle fel arweinydd brand byd-eang.

“Bydd y buddsoddiad yn helpu i gefnogi twf y cyfleoedd busnes niferus ym Mhencoed, gan gynnwys cymorth ar gyfer y twf yn y busnes Raspberry Pi (gyda Pencoed yn gwneud dros 6 miliwn uned y flwyddyn ar hyn o bryd) a datblygiad busnes prototeip Sony UK TEC eu hunain i gefnogi dyluniadau cynnyrch newydd ac i helpu i ddod â chynnyrch trydydd parti i’r farchnad.”

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Fel yr ydym wedi’i wneud drwy gydol yr argyfwng hwn, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n ddi-flino i gefnogi ein heconomi drwy’r pandemig hwn, ac i helpu i sicrhau y gall busnesau o safon uchel, sy’n ffynnu, barhau i fod yn fusnesau o safon, sy’n ffynnu yn ein dyfodol wedi’r pandemig.

“Fe wyddom fod busnesau am gael sicrwydd fel y gallant gynllunio a pharatoi, a dyna pam y bu inni ddyblu trydydd cam ein Cronfa Cadernid Economaidd yr wythnos ddiwethaf i £300 miliwn i gefnogi cwmnïau drwy’r Cyfnod Atal presennol a thu hwnt.

“Mae ein pecyn o gymorth yn mynd y tu hwnt i’r hyn sydd ar gael yn rhannau eraill y DU, ac dwi’n falch bod y Gronfa Cadernid Economaidd yn helpu miloedd o fusnesau i ddelio gyda’r problemau presennol, sy’n hanfodol er mwyn iddynt oroesi, ac mae wedi gwarchod dros 100,000 o swyddi a fyddai fel arall wedi eu colli.

“Mae Sony yn gyflogwr mawr i filoedd o bobl, a dwi’n falch ein bod wedi gallu rhoi’r cymorth hollbwysig hwn iddyn nhw, fydd yn gwarchod swyddi â sgiliau hyfedr ac yn sicrhau cyfleoedd gwaith o safon yn y dyfodol hefyd.

“Rydym wedi ymrwymo o hyd i wneud popeth y gallwn i sichrau bod ein heconomi yn ôl i’r lefelau twf cyn y pandemig.”

Mae rhagor o wybodaeth am drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd ar gael am Busnes Cymru.