Neidio i'r prif gynnwy

Gellir galw ar glinigwyr MEDSERVE Cymru unrhyw amser o'r dydd neu'r nos i helpu pobl y De.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ôl prynu'r cyfarpar ychwanegol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, bydd MEDSERVE Cymru yn cynyddu nifer ei hymatebwyr a'r cymorth y mae'n gallu ei darparu yn y digwyddiadau y mae'n ymateb iddynt.

Gellir galw ar glinigwyr MEDSERVE Cymru unrhyw amser o'r dydd neu'r nos i helpu pobl y De. Maent yn darparu gofal lefel uwch i gleifion cyn iddynt fynd i'r ysbyty, er mwyn helpu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.  MEDSERVE yw'r unig ased gofal lefel uwch sydd ar gael fel mater o arfer i helpu'r Gwasanaethau Ambiwlans i ymateb i alwadau brys dros nos (2000-0800hrs) yn y De.

Mae clinigwyr MEDSERVE Cymru yn dod ag amrywiaeth o arbenigeddau Ysbyty a Gofal Sylfaenol gyda nhw. Maent wedi cael hyfforddiant ychwanegol ac mae ganddynt flynyddoedd o brofiad o weithredu mewn amgylchiadau trin cleifion cyn iddynt fynd i'r ysbyty. Mae llawer ohonynt hefyd yn meddu ar gymwysterau uwch ym maes Meddygaeth Frys Cyn Mynd i'r Ysbyty. 

Ar hyn o bryd, mae gan yr elusen glinigwyr ar draws y De, sy'n gallu ymateb i ddigwyddiadau ar ran Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fel y bo angen; gan gynnwys ymateb i ddigwyddiadau difrifol neu ddigwyddiadau lle mae llawer iawn o bobl wedi eu hanafu, er mwyn cynnig cymorth ar lefel weithredol a thactegol. 

Yn 2017, ymatebodd clinigwyr gwirfoddol MEDSERVE Cymru i dros 500 o alwadau brys ar ran yr Ymddiriedolaeth. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething:

“Mae'r galw ar Wasanaethau Ambiwlans Cymru yn parhau i gynyddu bob blwyddyn, ac mae sicrhau ymateb brys i'r digwyddiadau mwyaf argyfyngus yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.

“Mae gwirfoddolwyr MEDSERVE Cymru yn adnodd amhrisiadwy ac yn grŵp arbennig iawn o glinigwyr sy'n rhoi o'u hamser i wneud gwahaniaeth tyngedfennol i bobl sy'n ddifrifol wael neu sydd wedi eu hanafu'n ddrwg. Bydd y cyllid hwn yn sicrhau eu bod yn gallu parhau i wasanaethau ardal y De a chefnogi Gwasanaethau Ambiwlans Cymru hyd eithaf eu gallu.” 

Dywedodd Dr Ian Bowler, Cadeirydd MEDSERVE Cymru:

“Rwy'n falch iawn o bob aelod o'n tîm ymroddgar ar draws y De, sy'n gwirfoddoli i ddarparu gwasanaeth gofal lefel uwch, er mwyn cefnogi Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 24 awr y dydd.

“Mae'n dda bod yr Ysgrifennydd Iechyd yn gweld sut rydyn ni'n gwella'r gofal sydd ar gael i'r grŵp hwn o gleifion, ac rydyn ni am ddiolch iddo am ei gefnogaeth i’r prosiect cyfarpar hwn. Bydd y buddsoddiad yn ein helpu i barhau i dyfu ac i ddarparu gofal o'r ansawdd gorau i'n cleifion; yn ogystal â helpu ein cydweithwyr yn y Gwasanaethau Ambiwlans a'r gwasanaethau statudol a gwirfoddol eraill yr ydyn ni'n gweithio gyda nhw.”

Dywedodd Richard Lee, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru:

“Mae'r gallu i alw am gymorth gan ddarparwyr gofal lefel uwch fel MEDSERVE yn rhan allweddol o'n hymateb i'r digwyddiadau mwyaf difrifol. Bydd datblygu capasiti timau MEDSERVE fel hyn yn golygu y gallwn ddarparu gwasanaeth sydd hyd yn oed yn fwy effeithiol i'r cleifion y mae angen eu sgiliau arnyn nhw."