Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ar Gytundeb fesul Cam gyda Wolf Studios Wales i rentu lle gwag yn Stiwdio Pinewood am y deuddeg mis nesaf, gyda'r opsiwn o gytundeb am 2 flynedd arall.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cwmni o Gaerdydd, Bad Wolf, yn dechrau ar yr ail dymor o'r gyfres boblogaidd ar Sky, A Discovery of Witches, yn ogystal â'u cyfres newydd Industry, sy'n cael ei gwneud ar gyfer HBO ac wedi'i gosod yn y cyfnod yn dilyn yr argyfwng ariannol yn 2008.

Mae Stiwdio Pinewood Cymru yn stiwdio ffilm a theledu y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arni ym Mae Caerdydd, gyda 70,000 troedfedd sgwâr o lwyfannau, 50,000 troedfedd sgwâr o lot cefn, swyddfa gynhyrchu ac unedau cymorth.

Bydd y gytundeb yn cynnwys gwelliannau i seilwaith y stiwdio fydd â'r manteision canlynol:

  • Gwneud gwelliannau strwythurol sylweddol i farchnata parhaus Stiwdio Pinewood Cymru
  • Gwella gwerth y stiwdio fel ased
  • Cynyddu llif refeniw y stiwdio
  • Sicrhau bod mwy o leoedd stiwdio safonol ar gael o fewn y diwydiant yng Nghymru

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

"Nid oes amheuaeth bod ein dull proactif o ddenu diwydiant yn llwyddo i ddod â chynyrchiadau rhyngwladol o safon uchel i Gymru, ac yn datblygu'r sector creadigol.

"Mae'r prosiect hwn yn gyfle mawr i sicrhau cytundeb rhentu hirdymor ar gyfer Pinewood, gan gadw dau gynhyrchiad pwysig yng Nghymru, a gwella y stiwdio ar yr un pryd."

Meddai Natasha Hale, Prif Swyddog Gweithrediadau Bad Wolf:

"Mewn ychydig flynyddoedd mae Bad Wolf wedi dod â thri o gynyrchiadau teledu rhyngwladol mawr i Gymru, a bellach rydym yn ehangu i ail safle stiwdio yn Pinewood. Mae'n brawf o weledigaeth Llywodraeth Cymru ein bod wedi gallu cefnogi cynyrchiadau mor fawr o stiwdio yng Nghaerdydd, ac yn falch o fod yn rhan o ddiwydiant teledu rhyngwladol sy'n ffynnu yng nghanol prifddinas Cymru.