Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i Wythnos Wyddoniaeth Prydain ddirwyn i ben mae darpar athrawon STEM yn cael eu hannog i edrych ar amrywiaeth o gynlluniau cymhelliant sydd ar gael yng Nghymru gan fod y broses ymgeisio bellach yn agored.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae nifer o gynlluniau cymhelliant wedi profi'n llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf fel ffordd o baru unigolion sydd â'r awydd a'r gallu i ragori yn yr ystafell ddosbarth i'r meysydd sydd â'r angen mwyaf. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig hyd at £25,000 ar draws tri chynllun cymhelliant i bobl sydd am ddod yn athrawon:

  • Y Cynllun Cymhelliant Pynciau â Blaenoriaeth: £15,000 i bobl ag arbenigedd mewn pwnc sydd â'r angen mwyaf am bobl i'w addysgu mewn ysgolion uwchradd.
  • Iaith Athrawon Yfory £5,000 i addysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion uwchradd.
  • Y Cynllun Cymhelliant i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol: hyd at £5,000 i unigolion cymwys i sicrhau bod y gweithlu addysg yn adlewyrchu poblogaeth amrywiol Cymru.

Mae'r Cynllun Cymhelliant Pynciau â Blaenoriaeth ar gael i'r rhai sydd â chymhwyster gradd o 2:2 neu uwch yn un o'r pynciau canlynol:

  • Bioleg
  • Cemeg
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Technoleg Gwybodaeth
  • Mathemateg
  • Ieithoedd Tramor Modern
  • Ffiseg
  • Cymraeg

Mae Santhi Dosanjh yn dysgu bioleg drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Gymraeg Bro Dur. Mae hi wedi gweld bod addysgu yn yrfa werth chweil ac mae'n mwynhau cefnogi disgyblion ysgolion uwchradd wrth iddynt wneud penderfyniadau am eu dyfodol.

Wrth siarad am y mwynhad o addysgu, dywedodd:

Dwi'n meddwl bod gwir angen rhywun ar y grŵp oedran yna i roi arweiniad iddyn nhw. Dwi'n cofio pan o'n i yn yr ysgol, ro'n i angen rhywun i fod yna i mi, nid yn unig o ran dewis gyrfa neu bynciau, ond i ddysgu sgiliau bywyd i mi.

Peidiwch â gorfeddwl y peth, dyma'r math o swydd lle rydych chi'n dysgu ac yn datblygu'n gyson. Os ydych chi'n fyfyriwr gwyddoniaeth ac eisiau gyrfa werth chweil, dylech ystyried addysgu. Mae pob diwrnod yn wahanol, a phob dydd, efallai mai chi fydd yr un peth cadarnhaol sydd ei angen ar blentyn y diwrnod hwnnw.

Mae Andrew Evans yn dysgu ffiseg drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd. Ar ôl astudio yn y brifysgol yn Lloegr, bu'n gweithio fel syrfëwr am dair blynedd cyn gwneud y newid a dod i addysgu. Bu mewn gwersi i wella ei Gymraeg ysgrifenedig a gwelodd fod safon ei Gymraeg wedi gwella'n gyflym iawn.

Wrth siarad am y rheswm dros ddewis addysgu yn Gymraeg, dywedodd Andrew Evans:

Mae gwyddoniaeth yn iaith ryngwladol. Ble bynnag rydych chi yn y byd, rydych chi'n delio â'r un deddfau a phroblemau. Mae'r Gymraeg, fel unrhyw iaith arall, yn agor y pwnc hwnnw i chi.

Cefais fy ysbrydoli i fod yn athro ffiseg oherwydd mai dyma oedd fy hoff bwnc yn yr ysgol. Roedd gen i athro da hefyd, fe wnaeth fy ysbrydoli. Pan ddes i yn athro, dim ond un pwnc oedd i mi mewn gwirionedd.

Rwy'n caru addysgu ffiseg. Rwy'n dweud a dweud wrth fy myfyrwyr, mae ffiseg yn esbonio popeth, y bydysawd cyfan, o'r atomau lleiaf un.

Cyn belled â'ch bod yn mwynhau gweithio gyda phobl, yna mae'n broffesiwn gwerth chweil.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma i bobl sy'n ystyried dechrau eu gyrfa addysgu.

Mae gan athrawon cymwys yng Nghymru gyflog cychwynnol o dros £30,000 ac mae'r tri chynllun cymhelliant yn gwahodd ceisiadau nawr. Mae gan Bartneriaethau AGA ragor o wybodaeth a chefnogaeth ar gymhwystra ar gyfer y cynlluniau hyn, dylai darpar fyfyrwyr gysylltu â nhw.