Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi y bydd busnesau manwerthu, lletygarwch a busnesau eraill y mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio arnynt bellach yn cael eu diogelu rhag cael eu troi allan hyd ddiwedd mis Mehefin 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r gymuned fusnes, bydd y moratoriwm yn erbyn fforffedu am beidio â thalu rhent, a oedd i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth, bellach yn cael ei ymestyn hyd 30 Mehefin, 2021.

Er y dylai busnesau barhau i dalu rhent lle bynnag y bo modd, bydd y mesur diweddaraf yn sicrhau na chaiff unrhyw fusnes ei orfodi allan o'i safle os bydd yn methu taliad rhwng nawr a diwedd mis Mehefin eleni. Bydd y cam hwn yn helpu i leddfu'r baich ar wahanol sectorau, gan gynnwys manwerthu a lletygarwch, mewn cyfnod sy’n parhau i fod yn eithriadol o heriol.

Mae pecyn cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael gan Lywodraeth y DU a dyma'r pecyn mwyaf hael yn y DU. Ers dechrau'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod mwy na £1.9 biliwn wedi’i ddyrannu i fusnesau ledled Cymru ac mae mwy o arian yn cyrraedd cwmnïau bob dydd.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

"Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi rhoi pwysau di-ben-draw ar ein cwmnïau a'n pobl wrth i ni ddelio â’r coronafeirws a dyna pam rydym wedi symud yn gyflym i gefnogi'r gymuned fusnes drwy'r pandemig gyda phecyn gwerth dros £2 biliwn.

"Mae'r cyhoeddiad heddiw am ymestyn mesurau i atal fforffedu am beidio â thalu rhent yn adeiladu ar hynny ac mae'n hanfodol i ddiogelu busnesau rhag cael eu troi allan a sicrhau swyddi a bywoliaeth dros y misoedd nesaf.

"Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i'w helpu drwy'r cyfnod hynod heriol hwn."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:

"Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn parhau i ddiogelu ein busnesau yng Nghymru. Gwyddom a deallwn y straen y mae'r feirws hwn wedi'i achosi i fusnesau ledled Cymru, gyda'r rheini yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a thwristiaeth yn cael eu taro'n arbennig o galed. Gobeithio y bydd y penderfyniad i ymestyn y moratoriwm yn erbyn fforffedu am beidio â thalu rhent hyd at ddiwedd mis Mehefin yn gwneud rhywfaint i sicrhau ein bod yn parhau i helpu i gefnogi canol ein trefi ac adeiladu'n ôl yn well wrth iddynt barhau i fasnachu yn ddiogel yn ystod y pandemig hwn.

"Mae rhoi naws o le i'n trefi yn bwysicach nag erioed, ac yn unol â'n hagenda Trawsnewid Trefi byddwn yn parhau i gydweithio â phartneriaid i adeiladu canol trefi cynaliadwy ar gyfer y dyfodol lle gall busnesau ffynnu."