Neidio i'r prif gynnwy

Bydd rhwystr sŵn newydd ar yr A55 tua'r gorllewin ger Pont Sea Road yn lliniaru effaith llygredd sŵn ar bobl sy'n byw gerllaw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd contract yn cael ei roi ar dendr cyn hir, a bwriedir i'r gwaith ar y rhwystr arfaethedig ddechrau ym mis Ionawr. Bydd y rhwystr yn gostegu sŵn ar gyfer eiddo sy'n profi lefelau sŵn sy'n uwch na therfyn penodol ac y nodwyd yng Nghynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ynghylch Sŵn eu bod mewn ardal flaenoriaeth.

Yn 2015, buddsoddodd Llywodraeth Cymru mewn rhwystr gostegu sŵn tebyg yn Abergele ac mae wedi ymrwymo bellach i'r mesur annibynnol ychwanegol hwn.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates:

"Mae miloedd o gerbydau'n defnyddio'r A55 bob dydd a gwyddwn fod hynny'n creu lefelau uwch o sŵn ar y ffordd strategol allweddol hon.

"Mae lefel uchel o sŵn yn fater difrifol ac rydyn ni'n deall yn iawn sut mae hynny'n gallu effeithio ar bobl sy'n byw ac yn gweithio gerllaw. Dyna pam ein bod ni, fel llywodraeth gyfrifol, yn gweithredu i helpu i liniaru effaith sŵn o'r A55 ar yr ardal.

"Er nad yw holl fanylion y gwaith wedi'u cadarnhau, dw i'n awyddus i sicrhau bod y gwaith o adeiladu'r rhwystr yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar bobl sy'n teithio.

"Mae'r prosiect hwn yn enghraifft arall eto o'n hymrwymiad i'r A55 ac i gymunedau yn y Gogledd."