Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru’n bartner llawn yn y cais uchelgeisiol ar y cyd rhwng y DU ac Iwerddon i gynnal Pencampwriaethau UEFA EURO 2028, meddai Prif Weinidog Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cais gan bum cymdeithas pêl-droed y DU ac Iwerddon i gynnal Pencampwriaethau Ewrop UEFA wedi’i gyflwyno heddiw mewn partneriaeth â’u llywodraethau.

Cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r cais mewn llythyr at lywydd UEFA, Aleksander Čeferin.

Meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Mae’n bleser mawr i ni allu cefnogi cais y DU ac Iwerddon i gynnal Pencampwriaethau UEFA EURO 2028. Gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a’n cyfeillion a’n partneriaid yn y gwledydd eraill sy’n ymgeisio, rwy’n hyderus y gall Cymru godi ac wynebu’r her a helpu i gynnal y Pencampwriaethau Ewropeaidd gorau erioed.

“Mae gan Gymru gymaint i’w gynnig o ran cyd-gynnal UEFA EURO 2028. Rydym yn disgwyl ymlaen at weithio gyda CBDC a’n partneriaid yn y DU ac Iwerddon i droi’r weledigaeth gyffrous hon yn realiti. Pêl-droed er lles pawb. Pêl-droed er lles y byd. Pêl-droed er lles y dyfodol.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae Cymru’n lle ardderchog i gynnal digwyddiadau mawr. Mae gennym hanes hir o weithio ar y cyd â phartneriaid lleol, gan gynnwys Caerdydd, y stadiwm a’n gwasanaethau goleuadau glas, i gynnal y digwyddiadau eu hunain ac o weithio gyda phartneriaid eraill i sicrhau bod Cymru gyfan yn gallu elwa ar fanteision cymdeithasol, economaidd a thwristaidd pe bai cais y DU ac Iwerddon yn llwyddiannus.

“Gwnaethon ni ddefnyddio Cwpan y Byd FIFA 2022 i godi proffil brand Cymru trwy’r byd ac i hyrwyddo’n gwerthoedd ac rydym yn addo gwneud hyn eto pe bai’r cais i gynnal Pencampwriaethau Ewrop UEFA yn 2028 yn llwyddiannus.”

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

“Mae pêl-droed yn rhan allweddol o’n huchelgais ar gyfer chwaraeon – boed wrth gynnal Ffeinal hynod lwyddiannus Cynghrair Pencampwyr UEFA yn 2017 neu wrth i Gymru gystadlu yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA am y tro cyntaf mewn 60 mlynedd.

“Gallwn ymfalchïo hefyd yn ein cefnogaeth ddigynsail i bêl-droed menywod yng Nghymru, trwy fuddsoddi mewn pêl-droed ieuenctid ac ar lawr gwlad. Rydym yn ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i ddefnyddio UEFA EURO 2028 yn sbardun ar gyfer buddsoddi mwy.”

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau yng Nghyngor Dinas Caerdydd, y Cyng Jennifer Burke:

“Mae Caerdydd yn ddinas fyrlymus a chroesawgar gyda hanes hir a llwyddiannus o gynnal digwyddiadau mawr ym myd y campau. Os bydd cais y DU ac Iwerddon yn llwyddiannus, mae’r syniad o weld ffans pêl-droed o bob rhan o Ewrop yn cael blas ar ein hanes a’n diwylliant ac yn creu awyrgylch anhygoel, yn cyffroi’r ddinas.”

Meddai Nigel Walker, Prif Weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru:

“Testun balchder i mi yw cael cydweithio gyda’n partneriaid yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), Llywodraeth Cymru a gwledydd Prydain i gefnogi cais y DU ac Iwerddon i gynnal UEFA EURO 2028.

“Mae gennym hanes hir a llwyddiannus o gynnal digwyddiadau mawr yn Stadiwm Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys nifer o gemau pêl-droed mawr, o Ffeinals Cwpan yr FA i Ffeinal Cynghrair Pencampwyr UEFA yn 2017.

“Mae’r syniad o ychwanegu twrnament pwysicaf pêl-droed at ein gwaddol o ddigwyddiadau yn creu gwefr. Rydym yn addo profiad rhagorol ar y cae ac oddi arno os bydd y cais yn llwyddiannus.”