Neidio i'r prif gynnwy

Mae annog plant i ddarllen a gwella eu sgiliau llythrennedd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a heddiw, ar Ddiwrnod y Llyfr, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn dathlu llwyfan darllen digidol newydd yn y Gymraeg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Drwy ddefnyddio Darllen Co, gall plant ddarllen llyfrau Cymraeg, a gwrando arnyn nhw ar yr un pryd. Mae gwefan newydd yn cael ei datblygu hefyd, a fydd yn galluogi darllenwyr i glicio ar eiriau penodol i gael diffiniadau a gwybod sut i’w hynganu. Bydd hyn yn galluogi athrawon a rhieni nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg hyderus i ddarllen Cymraeg gyda phlant, lle nad oedd modd iddynt wneud hynny gyda llyfrau traddodiadol.

Sefydlwyd Darllen Co ar gyfer plant ysgolion cynradd, athrawon a rhieni, yn sgil Hacathon Technoleg Cymraeg a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru drwy M-Sparc. Erbyn hyn, mae dros 40,000 o bobl a 70% o ysgolion Cymru’n defnyddio’r adnodd.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

Rwy’n falch iawn o gefnogi’r adnodd yma, sy’n helpu athrawon a rhieni i ddarllen Cymraeg gyda phlant. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae’r adnodd hwn yn rhoi mynediad i ragor o bobl i lyfrau Cymraeg cyfoes, ac yn ffordd hwyliog o gyflwyno llenyddiaeth Gymraeg i blant.

Mae cael mwynhad o lyfrau o oedran ifanc yn hollbwysig er mwyn gwreiddio arferion a sgiliau llythrennedd fydd yn galluogi plant i lwyddo gydol eu bywyd.

Un ysgol sy’n cael budd o ddefnyddio’r adnodd yw Ysgol Penalltau yn Hengoed, Caerffili. Dywedodd Gwen Malson, Arweinydd Llythrennedd yr ysgol:

Mae Darllen Co yn adnodd cyfoes a chynhwysfawr sy’n llenwi gwagle darpariaeth medrau darllen da mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae'r adnodd yn rhoi'r cyfle i'r disgyblion ddatblygu ac atgyfnerthu ystod o sgiliau wrth ddarllen testunau modern a chynhwysol ar blatfform sy’n rhwydd i’w ddefnyddio.

Cafodd Darllen Co ei sefydlu gan y cyn-athro cynradd, Alex Knott. Dywedodd:

Diolch i'r cyllid gan Llywodraeth Cymru, roeddem yn medru dod â'n syniad ni'n fyw. Mae'r ymateb a'r adborth gan ysgolion wedi bod yn wych ac mae'n arbennig gweld cymaint o blant ac athrawon yn cael defnydd dyddiol o'r wefan.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansio ein llwyfan newydd ym mis Medi a fydd yn cynnwys llawer mwy nodweddion arloesol a hefyd mwy o gymorth i rieni gartref, boed nhw’n siarad Cymraeg neu beidio.

I ddysgu mwy am Darllen Co, ewch i darllenco.wales.