Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates, wedi cyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cymru'n cyfrannu'r un faint â Llywodraeth y DU at Fargen Twf y Gogledd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y Fargen Twf yn ychwanegol at ei hymrwymiadau presennol yn y Gogledd. 

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yn cyfrannu £120 miliwn at Fargen Twf y Gogledd yng Nghyllideb Hydref y DU ym mis Hydref.   Bydd Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, yn annog Llywodraeth y DU i fynd gam ymhellach gan ddiwallu dyheadau gwreiddiol y fargen. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi:

“Mae'n bleser gen i gyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cymru'n cyfrannu'r un faint â Llywodraeth y DU at Fargen Twf y Gogledd.   

“Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gyflawni bargen twf a fydd yn trawsnewid y sefyllfa ac rydym yn cydweithio â phartneriaid er mwyn sicrhau'r pecyn a'r arweiniad cywir ar gyfer y Gogledd.

“Ein nod o hyd fydd sicrhau bod ein cyfraniad ariannol a hefyd Lywodraeth y DU yn diwallu dyheadau'r fargen. Credwn fod angen parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i ddarparu'r hyn yr oedd y bwrdd wedi'i ddisgwyl. Os bydd cyfraniad Llywodraeth y DU yn uwch yn sgil hyn byddwn ni hefyd yn rhoi cyfraniad uwch. 

Mae cyfraniad Llywodraeth Cymru at y fargen lawer yn uwch na'r buddsoddiadau a'r ymrwymiadau presennol yn y Gogledd. 

O fewn portffolio Ysgrifennydd y Cabinet yn unig, bydd dros £600 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn gwella'r seilwaith trafnidiaeth, sy'n cynnwys ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd sydd werth £135 miliwn a gwelliannau i'r A55 a'r A494.    Mae'r cynlluniau ar gyfer creu trydedd bont y Fenai yn parhau i gael eu datblygu, ac mae manylion y llwybr a ffefrir wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar. 

Ymysg y buddsoddiadau eraill mae £20 miliwn ym Mharc Gwyddoniaeth Menai, sef y parc cyntaf o'i fath yng Nghymru, ac £20 miliwn ar gyfer yr Athrofa Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch ym Mrychdyn a fydd yn helpu i ddenu busnesau i'r Gogledd ac yn gwella sgiliau pobl.

Dywedodd Mr Skates: 

“Golyga ein cyhoeddiad heddiw, ynghyd â'n buddsoddiadau presennol, ein bod yn buddsoddi miliynau o bunnoedd yn y Gogledd. Mae hyn yn tystio i'r ffaith bod parhau i wella seilwaith ac economi'r rhanbarth yn flaenoriaeth i ni.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol a hefyd bartneriaid y sector preifat gydweithio er mwyn sicrhau bod y fargen yn llwyddiant ysgubol.