Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru’n ymuno â’r cynllun Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog, a fydd yn helpu cyn-filwyr o bob rhan o’r DU i ymuno â’r Gwasanaeth Sifil.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cynllun, a lansiwyd yn ddiweddar gan y Swyddfa Materion Cyn-filwyr yn Swyddfa’r Cabinet, wedi’i gynllunio i annog mwy o gyn-aelodau’r lluoedd arfog i ymuno â’r Gwasanaeth Sifil pan fyddant yn gadael y Lluoedd Arfog, gan sicrhau bod y Gwasanaeth Sifil yn manteisio ar yr amrywiaeth eang o sgiliau a thalentau sy’n bodoli yng nghymuned y lluoedd arfog.

Bydd hefyd yn hybu rhagolygon cyflogaeth pobl sydd wedi gwasanaethu, gan eu helpu i ddatblygu yn eu gyrfaoedd ar ôl gadael y lluoedd arfog.

Gan lansio’r cynllun yng Nghymru, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Yn ystod y pandemig, rydym wedi gweld cyn-aelodau’r lluoedd arfog yn cefnogi ein cymunedau wrth inni ymateb i coronafeirws gyda’n gilydd.

“Bydd Llywodraeth Cymru’n gyfoethocach o fanteisio ar sgiliau a thalentau cyn-filwyr sy’n gweithio yn ein Gwasanaeth Sifil. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog yng Nghymru i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa gyda ni.”

Dywedodd Peter Kennedy, cyfarwyddwr adnoddau dynol Llywodraeth Cymru, sydd hefyd yn gyn-aelod o’r lluoedd arfog:

“Wedi gwasanaethu fy ngwlad gyda’r RAF, mae ymuno â’r Gwasanaeth Sifil wedi bod yn debyg i’m penodiadau eraill o ran y bobl yr wyf wedi gweithio gyda nhw – mae ymdeimlad tebyg o dîm a chyfeillgarwch.

“Rwy’n gobeithio y bydd y cynllun Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog yn golygu y bydd llawer mwy o gydweithwyr yn dilyn yr un llwybr.”

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynllun Gweithle Gwych yma.