Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru Cynllun Rheoli’r Coronafeirws, gan nodi sut a phryd y bydd mwy o bobl a busnesau'n gallu ailddechrau eu gweithgareddau yn y ffordd fwyaf diogel sy’n bosibl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fis Rhagfyr, cyhoeddodd y Prif Weinidog y Cynllun Rheoli’r Coronafeirws: Lefelau Rhybudd i Gymru, oedd yn nodi sut y byddai'r mesurau cenedlaethol yn cael eu cyflwyno mewn ffordd fwy rhagweladwy yn seiliedig ar fframwaith o bedair lefel rhybudd.

Mae'r cynllun wedi'i ddiweddaru i ystyried rhaglen frechu Cymru sy’n mynd rhagddi’n gyflym, a hefyd ymddangosiad amrywiolyn Caint. Y ffurf heintus iawn hon yw’r ffurf fwyaf cyffredin o’r feirws drwy Cymru erbyn hyn.  Mae hefyd yn adlewyrchu'r risg y bydd amrywiolynnau coronafeirws newydd, a fydd efallai’n gallu gwrthsefyll y brechlyn, yn cael eu mewnforio i Gymru gan bobl sy'n mynd ar wyliau neu deithiau tramor.

Bydd y cynllun newydd yn helpu Llywodraeth Cymru i barhau i lacio'r cyfyngiadau tra bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn dal i fod yn gadarnhaol – mae’r cyfraddau wedi gostwng yn sylweddol ledled Cymru, diolch i holl waith caled ac aberth pobl yn ystod misoedd y gaeaf. Mae’n nodic yfres o ddangosyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn eu dadansoddi a’u hasesu, ochr yn ochr â chyngor arbenigol proffesiynol a gwybodaeth gan bartneriaid lleol, i benderfynu sut y bydd y cyfyngiadau’n cael eu llacio.

Os bydd arwyddion cryf bod y cyfraddau heintio’n cynyddu, mae'r cynllun hefyd yn nodi sut y gallai fod angen arafu’r camau llacio, eu hatal dros dro neu, yn y sefyllfa waethaf, ailgyflwyno cyfyngiadau.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae pandemig y coronafeirws wedi troi ein bywydau i gyd wyneb i waered. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pawb yng Nghymru wedi aberthu i helpu i ddiogelu eu hunain a'u teuluoedd ac i helpu i reoli’r coronafeirws.

“Mae hwn yn feirws creulon – mae llawer gormod o deuluoedd wedi colli anwyliaid, a gwaetha’r modd rydym yn gwybod y bydd llawer mwy o bobl yn mynd yn ddifrifol wael ac yn marw cyn i'r pandemig ddod i ben. Ond mae'r ffordd y mae pobl a chymunedau wedi cyd-dynnu ledled Cymru, ac wedi dilyn y rheolau, wedi achub llawer mwy o fywydau yn ddi-os.

“Rydym nawr ar ddechrau cyfnod tyngedfennol yn y pandemig. Mae llygedyn o obaith wrth inni nesáu at ddiwedd ail don hir a chaled, diolch i ymdrechion anhygoel gwyddonwyr ac ymchwilwyr ar draws y byd i ddatblygu brechlynnau effeithiol. Mae ein rhaglen frechu ragorol wedi sicrhau bod brechlynnau ar gael yn rhyfeddol o gyflym i’r bobl yn y grwpiau sydd fwyaf agored i niwed.”

Mae mwy na 1.2 miliwn o bobl yng Nghymru wedi derbyn y cynnig i gael eu brechu ac wedi cael eu dos cyntaf; mae mwy na 300,000 o bobl wedi cwblhau'r cwrs dau ddos. Y nod yw cynnig dos cyntaf erbyn canol mis Ebrill i'r naw grŵp o oedolion sy’n flaenoriaeth, a dos cyntaf i bob oedolyn cymwys arall erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Mae canlyniadau cynnar yn y dystiolaeth o effeithiolrwydd y brechlynnau yn addawol o ran eu heffaith ar atal salwch difrifol ac atal trosglwyddo. Ond, hyd nes inni gyrraedd camau pellach y rhaglen frechu, bydd cyfran helaeth o’r boblogaeth yn dal mewn perygl o ddal yr haint.

Mae’r sefyllfa ansicr ac anodd ei rhagweld o ran amrywiolyn Caint yn golygu bod Gweinidogion yn defnyddio dull mwy gofalus o lacio’r cyfyngiadau symud.

Mae'r Cynllun Rheoli’r Coronafeirws wedi’i ddiweddaru yn nodi'r camau graddol canlynol ar gyfer symud o lefel rhybudd 4 i lefel rhybudd 3:

O ddydd Llun 22 Mawrth ymlaen:

  • Manwerthu nad yw’n hanfodol yn dechrau agor – codi’r cyfyngiadau ar werthu eitemau mewn siopau sydd ar agor ar hyn o bryd
  • Canolfannau garddio yn ailagor.

O ddydd Sadwrn 27 Mawrth ymlaen:

Yr wythnos nesaf, bydd y Gweinidogion yn cadarnhau a yw'r amodau'n caniatáu i'r camau llacio canlynol ddod i rym:

  • Y gofyniad i aros yn lleol yn dod i ben, gan symud Cymru i lefel rhybudd 3
  • Dechrau ailagor y sector twristiaeth wrth i lety hunangynhwysol agor
  • Gweithgareddau awyr agored i blant yn ailddechrau
  • Hawl cyfyngedig i agor ardaloedd awyr agored mewn rhai mannau hanesyddol a gerddi
  • Llyfrgelloedd yn ailagor.

Cylch adolygu 1 Ebrill 

O 12 Ebrill ymlaen (os bydd yr amodau'n caniatáu):

  • Pob disgybl a myfyriwr i ddychwelyd i’r ysgol, coleg a lleoliadau addysg eraill
  • Pob siop yn ailagor
  • Gwasanaethau cysylltiad agos yn ailagor.

Cylch adolygu 22 Ebrill

Bydd y meysydd canlynol yn cael eu hystyried fel rhan o'r adolygiad ar 22 Ebrill, os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau'n gadarnhaol a’r cyfraddau brechu yn parhau i gynyddu:

  • Campfeydd a chyfleusterau hamdden a ffitrwydd
  • Atyniadau awyr agored
  • Lletygarwch awyr agored
  • Priodasau
  • Canolfannau cymunedol
  • Gweithgareddau wedi’u trefnu (30 yn yr awyr agored, 15 dan do)
  • Aelwydydd estynedig.

Ychwanegodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Er bod ein rhaglen frechu yn mynd rhagddi, rydym yn wynebu feirws gwahanol iawn yng Nghymru erbyn hyn. Yr amrywiolyn heintus iawn, a nodwyd gyntaf yng Nghaint, yw’r un mwyaf cyffredin ym mhob rhan o Gymru erbyn hyn.

“Mae hyn yn golygu bod y camau amddiffynnol rydym i gyd wedi dod i arfer â nhw yn bwysicach nag erioed – cael prawf a hunanynysu pan fydd gennym symptomau; cadw pellter oddi wrth eraill; peidio â chymysgu dan do; osgoi torfeydd; golchi ein dwylo'n rheolaidd a gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau lle na allwn osgoi bod yn agos at ein gilydd.

“Nid yw'r pandemig ar ben – mae'r gwanwyn a'r haf yn rhoi gobaith inni am fwy o ryddid, wrth i’r cyfraddau heintio ostwng ac wrth i fwy o bobl gael eu brechu.

“Ond mae'n rhaid inni fod yn ofalus – allwn ni ddim rhuthro'r broses o lacio’r cyfyngiadau a pheri risg o don arall o’r feirws.”

Byddwn yn ailedrych ar y cynllun hwn ar ôl i'r brechiad gael ei gynnig i bob oedolyn sy’n gymwys – sef erbyn diwedd mis Gorffennaf ar hyn o bryd – pan fydd mwy o dystiolaeth a data ar gael am ei effaith.