Neidio i'r prif gynnwy

Llywodraeth Cymru'n Helpu Cwmni Cyfreithwyr i Ddyblu Maint ei Swyddfa yn Abertawe

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ogystal â'i fuddsoddiad ei hun, bydd grant o £293,500 trwy Gynllun Cyllid Busnes Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cynllun JCP i ehangu ei swyddfa yn Abertawe yn cael mynd yn ei flaen, hynny yn lle agor swyddfa newydd y tu allan i Gymru - sef un o'r opsiynau a fu o dan ystyriaeth. 

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 

"Mae'r prosiect hwn yn ategu'n hymdrechion i sicrhau bod pob rhan o Gymru'n cael elwa ar fanteision economaidd ac i wneud pob rhanbarth yn fwy cystadleuol, gan greu swyddi gwell, yn nes adref. 

 

"Y sector gwasanaethau cyfreithiol yw un o flaenoriaethau'r strategaeth gwasanaethau proffesiynol ac ariannol ac rwy'n falch bod help ariannol gan Lywodraeth Cymru'n golygu bod y cwmni'n cael ehangu yn Abertawe gan helpu i gryfhau a lledaenu'r sylfaen sgiliau cyfreithiol yn Rhanbarth Dinas Abertawe. 

 

"Yn ogystal â chreu 50 o swyddi newydd a chynnig cyfleoedd i raddedigion yn y gyfraith i ddatblygu'u gyrfa, bydd yn diogelu 20 o swyddi gweinyddol cyfreithiol yn y ddinas, ac mae hynny'n bwysig." 

 

Cafodd JCP ei sefydlu ym 1990 ac mae'n cyflogi 210 o bobl mewn swyddfeydd yn Abertawe, Caerfyrddin a ledled Sir Benfro. 

 

Unodd y cwmni â Glamorgan Law yn ddiweddar gan ehangu ei dalgylch i'r De-Ddwyrain, gan gael defnydd ar swyddfeydd yng Nghaerffili, Caerdydd, y Bont-faen a Phontypridd. 

 

Er mwyn gallu darparu mwy o wasanaethau i gleientiaid y tu allan i Gymru - ym Mhrydain a thu hwnt - mae JCP Solicitors am ehangu i adeilad drws nesaf ym Mharc Busnes Waterside yn Abertawe. 

 

Dywedodd Hayley Davies, Cyfarwyddwr a Phennaeth JCP Solicitors: 

"Mae'r 5 mlynedd diwethaf wedi bod yn gyfnod cyffrous o dwf yn JCP Solicitors, ac roedd uno â Glamorgan Law yn ddiweddar yn rhan o'n strategaeth hefyd. Ein cam nesaf yw ehangu trwy dwf organig, ond rydym wedi bod yn ystyried ers tro ble fyddai'r lle gorau i hynny ddigwydd, a ninnau wedi hen dyfu'n rhy fawr i'n hadeilad presennol yn Abertawe. 

 

"Bydd y buddsoddiad hwn yn ein helpu i ddatblygu'n gwasanaethau ymhellach trwy recriwtio aelodau newydd i'r tîm. Trwy benodi rolau arbenigol ac ategol, bydd gennym yr arbenigedd i allu helpu busnesau sy'n ffynnu yn rhanbarth Bae Abertawe. 

 

"Rwy'n falch iawn y bydd ein busnes yn gallu cadw'r buddsoddiad hwn a'r swyddi ychwanegol yma yn rhanbarth Bae Abertawe. Hefyd, trwy allu ehangu heb orfod symud, byddwn yn gallu para i gynnig gwasanaeth i'n cleientiaid presennol a ffyddlon heb darfu arnyn nhw nac ar ein staff."