Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw ymunodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, â disgyblion Ysgol Bro Pedr yn Llambed wrth iddynt gymryd rhan yn y wers ‘E-sgol’ gyntaf erioed yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ‘E-sgol’ yn seiliedig ar fenter ‘E-Sgoil’ lwyddiannus a gyflwynwyd gan Lywodraeth yr Alban yn Ynysoedd Heledd, a bydd yn defnyddio technoleg fideo i gysylltu ystafelloedd dosbarth. Mae hyn yn golygu y gall disgyblion o un ysgol ymuno o bell â dosbarthiadau mewn ysgolion eraill a gallant gael mynediad at ystod fwy amrywiol o bynciau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Nod y prosiect yw sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn rhan o’r oes ddigidol drwy gyflwyno technegau addysgu arloesol. Dim ond un o fesurau’r Cynllun Gweithredu Addysg Wledig yw hwn, sydd hefyd yn cynnwys cyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, grant newydd ar gyfer Ysgolion Bach a Gwledig, a chydweithio law yn llaw â BT er mwyn gwella cysylltiad ysgolion mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd. Bydd rhaglen buddsoddi cyfalaf Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain yn ceisio creu cymunedau addysg modern a chynaliadwy ledled cefn gwlad Cymru a bydd ganddi ran bwysig yn y gwaith o gyflawni hyn.

Mae’r cynllun gweithredu hefyd yn nodi cyfleoedd hyfforddi a chymorth ychwanegol ar gyfer athrawon a phenaethiaid mewn ardaloedd gwledig drwy gynllun Peilot ar gyfer Rheolwyr Busnes a’r rhaglen Academi Arweinyddiaeth Addysg Genedlaethol (NAEL); bydd yn darparu gwell cymorth ar gyfer iechyd meddwl ac emosiynol drwy’r prosiect mewn-gymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed a’r nod yw sicrhau bod gan ysgolion ran fwy canolog yn eu cymunedau.

Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:

“Mae’r wers E-sgol heddiw wedi bod yn llawer o hwyl ac wedi dangos sut gall technoleg gynnig atebion i rai o’r materion y mae ysgolion gwledig yn eu hwynebu. Rydw i wrth fy modd yn lansio’r prosiect ac yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth yr Alban am eu cymorth yn cael y dechnoleg i Gymru.

“Bydd y prosiect hwn yn cysylltu disgyblion mewn ysgolion yng Nghymru ag ysgolion eraill ar hyd a lled y wlad, a bydd yn sicrhau eu bod yn cael y profiad dysgu gorau hyd yn oed yn ardaloedd mwyaf gwledig y DU.

“Os ydym yn sicrhau bod gan ddisgyblion ac ysgolion yng nghefn gwlad Cymru y cymorth iawn i lwyddo, yna gallwn sicrhau bod ein cymunedau gwledig a’n heconomi yn mynd o nerth i nerth.”

Dywedodd John Sweeney, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Addysg yr Alban:

“Mae ein hieithoedd a’n diwylliant yn bwysig i’n dwy genedl ac mae gennym ni weledigaeth gref ar gyfer twf y Gymraeg a’r Aeleg wrth edrych tua’r dyfodol. Rydw i’n arbennig o falch o weld y model e-Sgoil arloesol ar gyfer dysgu digidol, sydd wedi’i gynllunio ac yn cael ei hyrwyddo gan Comhairle nan Eilean Siar, gyda chymorth Llywodraeth yr Alban, yn cael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi eu pobl ifanc i ddysgu’r iaith.

“Yn yr oes ansicr sydd ohoni, mae’n bwysig ein bod yn parhau i weithio ar draws ein Llywodraethau gwahanol er mwyn nodi rhagor o brosiectau posibl a allai ein helpu i ffynnu.”

Dywedodd Cynghorydd Angus McCormack, Cadeirydd Addysg, Chwaraeon a Gwasanaethau Plant yn Comhairle nan Eilean Siar:

“Gyda chymorth Llywodraeth yr Alban, rydyn ni’n dod o hyd i ddulliau newydd drwy’r amser y gall dysgu digidol e-Sgoil ein helpu i ddarparu addysg mewn ffyrdd na fu’n bosib i ni cyn hyn.

“Ein gweledigaeth yw sicrhau y gall pob dysgwr gael profiad o addysg sy’n cael ei chyfoethogi gan dechnoleg ddigidol. O gofio’r dyheadau sydd gennym ynglŷn â’n hieithoedd, rydyn ni wrth ein bodd yn cael gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru er mwyn helpu eu pobl ifanc i ddysgu’r iaith.”