Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwirfoddolwyr, elusennau a sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru sy’n hanfodol i’n hymateb i argyfwng Covid-19, gyda chyllid i helpu i fodloni eu hanghenion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip:

“Rwyf eisiau cydnabod a dathlu’r gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud gan wirfoddolwyr, elusennau a sefydliadau’r trydydd sector i ddiogelu lles Cymru, ei phobl a’i chymunedau.

“Mae digwyddiadau codi arian wedi eu hatal ar hyn o bryd oherwydd y pandemig, ac felly mae’r sefydliadau hyn yn wynebu cyfnod anodd; ond maent yn parhau i ddarparu’r cymorth a’r gefnogaeth y mae dirfawr eu hangen wrth ymateb i’r argyfwng Covid-19.

“Rwy’n cydnabod bod cyfraniad y sector yn gyfraniad gwerthfawr tu hwnt, a dyna pam rwyf am dynnu sylw at y cymorth ariannol sydd yn ei le gan Lywodraeth Cymru er mwyn rhoi help llaw.

“Mae dwy ffrwd o gyllid ar gael drwy Gronfa Ymateb Covid-19 y Trydydd Sector Llywodraeth Cymru, a gellir cael gafael ar y ddwy drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).

“Cyn cyhoeddiad y Canghellor yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid gwerth £24m i gefnogi elusennau a’r trydydd sector ledled Cymru yn ystod argyfwng Covid-19. Mae hyn yn llawer mwy nag y byddwn yn ei dderbyn fel swm canlyniadol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig (DU).

Cronfa Gwytnwch Trydydd Sector Cymru yw’r ffrwd gyllid gyntaf, a fydd yn rhoi cyllid uniongyrchol i gefnogi elusennau a sefydliadau’r trydydd sector drwy gydol argyfwng Covid-19, i helpu i dalu biliau a gwella’r llif arian.

Bydd Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol yn helpu sefydliadau’r trydydd sector yn y gymuned i gydgysylltu'r ymateb aruthrol rydym wedi’i weld ar draws Cymru i’r cais am wirfoddolwyr. Bydd y gronfa hon yn helpu sefydliadau i dalu costau gwirfoddolwyr er mwyn sicrhau nad ydynt ar eu colled. Hyd yn hyn, mae 29 o sefydliadau wedi gwneud cais am gyllid.

“Mae ceisiadau am gyllid gan Lywodraeth Cymru drwy wefan CGGC eisoes yn cael eu derbyn, ac rwyf am annog mwy o sefydliadau cymwys i wneud cais.

“Cyhoeddodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog, fanylion yn ddiweddar am y Gronfa Cadernid Economaidd gwerth £500m, a fydd yn rhoi cymorth ariannol ychwanegol i sefydliadau sydd wedi gweld gostyngiad sydyn mewn masnachu o ganlyniad i’r pandemig hwn. Bydd y gronfa hon yn helpu sefydliadau i reoli’r pwysau ar eu llif arian.

“Bydd y gronfa hon yn cyrraedd nifer sylweddol o elusennau a mentrau cymdeithasol, ond rydym yn ymwybodol na fydd pob un yn gymwys. Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu cymorth ariannol pellach i sefydliadau yng Nghymru, ac i wneud yn siŵr bod arian o gynlluniau Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd eisoes yn cael ei roi i fusnesau’n gyflym.

“Gall elusennau ddefnyddio’r Gwiriwr Cymhwysedd Cymorth Busnes COVID-19 i weld a ydynt yn gymwys.

“I gloi, hoffwn ddiolch o waelod calon i’r holl grwpiau o wirfoddolwyr ac elusennau sy’n rhoi cefnogaeth i bobl Cymru ar hyn o bryd – mae pob un ohonoch yn wych.”