Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, wedi cadarnhau y bydd £3m yn cael eu buddsoddi mewn gwella gwasanaethau cerddoriaeth mewn ysgolion ledled Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y cyllid yw gwella cyfleoedd plant a phobl ifanc yng Nghymru i ddysgu sut i chwarae offerynnau cerdd newydd ac i astudio cerddoriaeth. Bydd y cyllid yn helpu i ddatblygu mentrau fel Anthem, a bydd yn cynnig cyfleoedd i sicrhau bod addysg cerddoriaeth o ansawdd uchel ar gael i bob dysgwr. <?xml:namespace prefix = "o" ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" />

Caiff £1.5m ei wario yn 2018/19, a chaiff £1.5m ychwanegol ei neilltuo ar gyfer gwasanaethau cerddoriaeth y flwyddyn nesaf. Mae’r buddsoddiad hwnnw’n cynnwys y £1m o gyllid y flwyddyn y cytunwyd arno fel rhan o gytundeb y gyllideb ddwy flynedd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a’r £0.5m a gafodd ei gyhoeddi yn nyraniad y gyllideb derfynol ddoe.

Mae'r Awdurdodau Lleol wedi derbyn £1.4m drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a gallent ddefnyddio'r cyllid i gefnogi amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys:

  • Prynu offerynnau cerdd newydd a rhai sydd 'mewn perygl'
  • Sicrhau bod mynediad gan bob disgybl at wersi, arholiadau a chyrsiau
  • Talu costau bod yn rhan o gerddorfeydd, corau a bandiau
  • Cychwyn ensemble 'roc a phop'
  • Cefnogi addasiadau cerddorol cydweithredol

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi derbyn £100,000 i barhau â'u gwasanaethau cerddoriaeth, gan gynnwys ensembles ieuenctid.

Dywedodd Kirsty Williams:

 

“Mae cerddoriaeth yn ganolog i'n treftadaeth gyfoethog. Ac rwy wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod pob un o'n pobl ifanc, waeth beth yw eu cefndir, yn cael yr un cyfleoedd i ddatblygu eu dawn cerddorol a chyflawni eu potensial llawn.

“Bydd ysgolion eisoes wedi dechrau cyflwyno addysg cerddoriaeth fel rhan o'n cwricwlwm newydd blaengar, a bydd y cyllid ychwanegol hwn yn helpu i chwalu'r rhwystrau, fel costau arholiadau a mynediad at offerynnau cerdd.”

 

Dywedodd Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu:

 

"Rwy'n falch am y cyhoeddiad hwn. Rwy hefyd yn falch am y ffaith bod mwy o arian wedi'i ymrwymo i'r maes nad oedd wedi'i gynnig yn y lle cyntaf yng nghytundeb y gyllideb a wnaed rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

“Mae pobl ar draws y sector, ar hyd a lled Cymru, wedi bod yn galw am ragor o gymorth wedi'i dargedu. Rwy'n gobeithio y bydd y cyllid hwn yn dechrau wrthdroi'r dirywiad yr ydyn ni wedi'i weld yn y maes cerddoriaeth mewn ysgolion.

"Mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi gweithio'n ddidwyll gyda fi ac eraill, ac mae hynny'n dystiolaeth o'r hyn y gallwn ni ei gyflawni pan fydd consensws ar y mater dan sylw."