Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd cyllid ychwanegol gwerth £145 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn GIG Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r cyllid, sy’n rhan o Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026 I 2027, yn cynnwys cyllid refeniw gwerth £100 miliwn i gefnogi nodau Llywodraeth Cymru o leihau amseroedd aros y GIG.

Bydd cyllid cyfalaf gwerth £25 miliwn yn cael ei fuddsoddi er mwyn sefydlu canolfannau llawfeddygol a diagnostig newydd, i ddarparu triniaeth gyfaint uchel i sicrhau y gellir gweld cleifion yn gyflymach. Yn ystod y pedair blynedd nesaf, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sefydlu hyd at ddeg canolfan lawfeddygol a diagnostig.

Bydd cyllid cyfalaf gwerth £20 miliwn hefyd yn cael ei wario ar waith cynnal a chadw hanfodol ar draws ystad y GIG.

Bydd Cyllideb Atodol gyntaf Llywodraeth Cymru yn cael ei chyhoeddi ar 23 Mehefin 2026.  Mae’n nodi blaenoriaethau gwario cynnar y Llywodraeth hon, gan dargedu’r buddsoddi lle bydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth:

Rydym yn benderfynol o sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yn gweithio i gleifion a staff – ac rydym yn gweithredu nawr. Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn anfon arwydd clir bod mynd i’r afael â rhestrau aros yn flaenoriaeth frys i’r Llywodraeth newydd hon.

Ond dydyn ni ddim am leihau amseroedd aros yn y tymor byr yn unig – ry’n ni am eu cadw nhw lawr, fel nad oes rhaid i gleifion aros mewn poen neu anghysur. Drwy fuddsoddi mewn canolfannau llawfeddygol a diagnostig newydd, a fydd yn trawsnewid triniaethau arbenigol, ry’n ni’n rhoi’r seilwaith yn ei le fel bod ein gwasanaeth iechyd yn gallu trin mwy o gleifion rŵan ac yn y dyfodol.

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal 2 uwchgynhadledd a’u nod yw cryfhau gofal sylfaenol a chefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol sydd newydd gymhwyso. Bydd yr Uwchgynhadledd Graddedigion yn adolygu cyfleoedd gwaith i’r rhai sy’n graddio yr haf hwn ym maes nyrsio, bydwreigiaeth a pharafeddygaeth. Bydd yr Uwchgynhadledd Gofal Sylfaenol yn dod ag arweinwyr iechyd ynghyd i ganolbwyntio ar gynyddu gwariant byrddau iechyd ar ofal sylfaenol 0.5% yn flynyddol o 2027 i 2028 ymlaen, sef un o brif ymrwymiadau Llywodraeth newydd Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor:

Mae’r uwchgynadleddau sy’n cael eu cynnal heddiw yn dangos ein bod yn bwrw ati’n syth i wneud cynnydd cyflym o ran ein huchelgeisiau o drawsnewid gofal iechyd yng Nghymru, gan gyflawni ein hymrwymiad 100 diwrnod i wireddu newid cynaliadwy tuag at ofal sylfaenol, a hynny drwy ddod â gwasanaethau’r NHS yn agosach at ble mae pobl yn byw.

Ac yn sgil ein Huwchgynhadledd Graddedigion, ry’n ni’n gweithredu nawr i wneud yn siŵr bod y rhai a fydd yn graddio’r haf hwn ym maes nyrsio, parafeddygaeth a bydwreigiaeth yn elwa ar y cyfleoedd gyrfa maen nhw wedi gweithio mor galed amdanyn nhw.