Mae addewidion gan Lywodraeth y DU i barchu ymrwymiad o £14 biliwn i unioni degawdau o danariannu'r rheilffyrdd wedi derbyn ergyd arall.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw am £1 biliwn fel rhan o'r ymrwymiad hwnnw yn y gyllideb hon, ond dim ond ffracsiwn bychan (3%) sydd wedi dod i law.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper:
Mae'r ffigwr hwn yn sarhad i bobl Cymru.
Mae'n golygu bod rhagor o bobl yng Nghymru yn cael trafferth cyrraedd apwyntiadau ysbyty ac yn cymryd rhagor o amser i gyrraedd y gwaith neu weld eu teulu. Mae cyfle ar gyfer twf economaidd ac i fynd i'r afael â newid hinsawdd wedi cael ei golli.
Mae methiant parhaus Llywodraeth y DU i fuddsoddi yn eu rhwydwaith yng Nghymru yn dangos, nawr yn fwy nag erioed, yr angen am ddatganoli'r rheilffyrdd.
Rydyn ni am weld eu geiriau niferus yn troi'n arian yn y banc.
Mae'n anghywir dweud nad yw'r gorsafoedd hyn yn barod i ddechrau ar y gwaith adeiladu. Ymrwymodd Llywodraeth y DU i ddarparu'r arian hwn ym mis Chwefror ac ers hynny rydyn ni wedi cytuno â Network Rail mai Trafnidiaeth Cymru fydd yn adeiladu'r gorsafoedd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn barod i ddechrau ar y gwaith – y cyfan sydd ei angen arnon ni yw i Lywodraeth y DU gyflawni eu hymrwymiad. Fe wnes i'r pwynt hwn i'r gweinidog dros reilffyrdd pan gwrddais i ag ef heddiw.
Mae Cymru'n haeddu setliad cyllid teg a rhesymol. Er gwaethaf y ffaith ei bod yn cyfrif am 10% o rwydwaith rheilffyrdd Prydain Fawr, dim ond 1% o wariant Network Rail sy'n dod i Gymru. Mae angen rhwydwaith rheilffyrdd modern sy'n addas ar gyfer Cymru gyfan, wedi'i gefnogi â buddsoddi parhaus sy'n adlewyrchu angen a chyfleoedd economaidd.
Byddwn yn sefyll dros Gymru ac yn parhau i bwyso am gyllid rheilffyrdd tecach a llwybr clir i ddatganoli ein rheilffyrdd yn llawn.
