Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Mae’n ymwneud â gwaith cyrff llywodraethol mewn ysgolion cynradd a gynhelir, ysgolion uwchradd, ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig. Canolbwyntiom ar sut beth yw corff llywodraethol effeithiol.

Mae’r adroddiad wedi’i fwriadu ar gyfer Llywodraeth Cymru, llywodraethwyr a phenaethiaid mewn ysgolion, awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion.

Crynodeb o'r prif gasgliadau

  • Canfu Estyn fod y rhan fwyaf o lywodraethwyr yn frwdfrydig ac yn deall eu rôl, yn cydweithio ag uwch arweinwyr ysgolion ac yn gefnogol i’w gwaith. Fodd bynnag, nid yw nifer ohonynt yn dwyn eu huwch arweinwyr i gyfrif yn ddigon da. Er bod y rhan fwyaf o lywodraethwyr yn deall eu rôl o ran herio uwch arweinwyr, nid yw nifer ohonynt yn eu dwyn i gyfrif am berfformiad addysgol nac yn helpu i ysgogi gwaith gwella ysgolion. Ar ben hynny, mae angen i lywodraethwyr gasglu mwy o dystiolaeth eu hunain am berfformiad eu hysgol, yn hytrach na gor-ddibynnu ar adroddiadau’r pennaeth.
  • Canfu Estyn fod y mwyafrif o’r llywodraethwyr yn cael eu cynnwys wrth sefydlu gweledigaeth eu hysgol, ond nad yw’r mwyafrif yn deall yn llawn fod angen i’w gwaith adlewyrchu hyn.
  • Canfu Estyn fod ansawdd y cymorth a’r hyfforddiant a ddarperir i lywodraethwyr gan yr awdurdod lleol a gwasanaethau cymorth rhanbarthol yn amrywio gormod ar draws Cymru. Mae presenoldeb da iawn yn yr hyfforddiant ymsefydlu gorfodol ar gyfer yr holl lywodraethwyr newydd ond mae rhywfaint o’r cynnwys yn amherthnasol i rai llywodraethwyr gan ddibynnu ar amgylchiadau penodol yr ysgol.
  • Canfu Estyn nad yw nifer o gyrff llywodraethu yn hunanwerthuso eu perfformiad yn effeithiol yn erbyn targedau a gweledigaeth eu hysgol. Nid ydynt chwaith yn gwerthuso effeithiolrwydd yr hyfforddiant nac yn edrych ar sgiliau eu haelodau er mwyn nodi cryfderau a bylchau o ran sgiliau ar y corff llywodraethu.
  • Canfu Estyn fod problemau recriwtio llywodraethwyr yn arbennig o amlwg mewn rhai ardaloedd gwledig, y rhai sy’n cael eu heffeithio gan annhegwch ariannol neu dlodi, a darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Yn benodol, nid yw nifer o gyrff llywodraethol yn adlewyrchu cyfansoddiad amrywiol eu cymunedau lleol yn llawn, ac mae angen gwneud mwy i sicrhau bod llywodraethwyr o bob cefndir yn cael eu denu i ymgeisio.

Argymhellion ar gyfer cyrff llywodraethu ac ysgolion

  1. Gwella gallu llywodraethwyr i herio uwch arweinwyr am bob agwedd ar waith yr ysgol.
  2. Sicrhau bod llywodraethwyr yn cael cyfleoedd rheolaidd a gwerthfawr i arsylwi’n uniongyrchol y cynnydd y mae eu hysgol yn ei wneud tuag at gyflawni ei blaenoriaethau.
  3. Cynnal hunanwerthusiad rheolaidd o waith y corff llywodraethol i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella.
  4. Gwerthuso effaith hyfforddiant i lywodraethwyr ar eu rôl fel arweinwyr strategol effeithiol a nodi gofynion hyfforddi yn y dyfodol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ei 'chynnig' ar gyfer llywodraethwyr, gan gynnwys canllawiau a ddarperir, gan gymryd cyngor gan y gwasanaethau cymorth i lywodraethwyr mewn awdurdodau lleol a rhanbarthau ar sut y gallwn gefnogi cyrff llywodraethu orau.

Argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion

  1. Gwerthuso ansawdd eu hyfforddiant i lywodraethwyr yn fwy trylwyr i wneud gwelliannau lle mae angen.
  2. Cydweithio i sicrhau cydlyniant a chysondeb gwell mewn cyfleoedd hyfforddi o ansawdd uchel rhwng gwahanol rannau o’r wlad.
  3. Darparu cymorth a chyngor mwy effeithiol i gyrff llywodraethol i’w helpu yn eu rôl fel arweinwyr strategol effeithiol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda gwasanaethau cefnogi llywodraethwyr mewn awdurdodau lleol a rhanbarthau i'w cefnogi i ddarparu gwasanaethau effeithiol o ansawdd uchel i'w cyrff llywodraethu. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â grŵp Swyddogion Cefnogi Llywodraethwyr CCAC yn rheolaidd i sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt gan Lywodraeth Cymru, ac i glywed ac ystyried eu hawgrymiadau ar gyfer gwelliannau, gan gyfeirio at sefydliadau allanol a phartneriaid am eu harbenigedd lle bo angen.

Argymhelliad 8 ar gyfer Llywodraeth Cymru

  1. Diweddaru’r arweiniad i awdurdodau lleol ar beth i’w gynnwys mewn hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr ysgol ar ddeall rôl data mewn cefnogi hunanwerthuso a gwelliant mewn ysgolion, yn unol â newidiadau cenedlaethol i arferion asesu.

Ymateb Llywodraeth Cymru: derbyn

Ym mis Mehefin 2022, fe wnaethom gyhoeddi canllawiau gwella ysgolion a gyflwynodd ffordd newydd i'r system addysg gydweithio i gefnogi ysgolion i wella, magu hyder yn y system a chadw ffocws clir ar gefnogi pob dysgwr i symud ymlaen trwy eu haddysg.

Ym mis Ionawr 2023, cyhoeddwyd adroddiad 'Datblygu ecosystem data a gwybodaeth newydd sy'n cefnogi'r system ysgolion diwygiedig yng Nghymru', sy'n nodi argymhellion ar gyfer dulliau o ddefnyddio data a gwybodaeth, mewn ffordd a fydd yn caniatáu i bartneriaid ar draws y system gydweithio i gefnogi ein holl ddysgwyr, waeth beth fo'u cefndir, i gyflawni eu potensial.

Gan adeiladu ar ganfyddiadau'r adroddiad hwn, byddwn yn gweithio gydag ysgolion, gan gynnwys llywodraethwyr, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, Estyn a'n cynghorwyr arbenigol i ddatblygu tirwedd gwybodaeth a gwella ysgolion newydd sy'n cefnogi ac yn galluogi ysgolion i gyflwyno'r cwricwlwm newydd. 

Bydd y canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ar beth i'w gynnwys wrth hyfforddi llywodraethwyr ysgolion yn cael eu diweddaru yn unol â chanlyniadau'r gwaith hwn.

Argymhelliad 9 ar gyfer Llywodraeth Cymru

  1. Cynhyrchu gwybodaeth am rôl bwysig rhiant-lywodraethwyr i helpu annog rhieni, yn enwedig y rhai o gefndiroedd ethnig lleiafrifol gwahanol, i wneud cais i fod yn rhiant-lywodraethwr.

Ymateb Llywodraeth Cymru: derbyn

Mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld cyrff llywodraethu'n adlewyrchu amrywiaeth eu cymunedau ac yn annog rhieni o bob cefndir i chwarae rhan yn eu hysgol leol. Gan weithio gyda phartneriaid allweddol, byddwn yn ymgysylltu â rhieni a chymunedau ac yn cynhyrchu gwybodaeth i annog cyrff llywodraethu mwy amrywiol a chynrychioliadol.

Argymhelliad 10 ar gyfer Llywodraeth Cymru

  1. Creu fframwaith cymwyseddau i gynorthwyo cyrff llywodraethol i wella’u heffeithiolrwydd.

Ymateb Llywodraeth Cymru: derbyn mewn egwyddor

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanbarthau i weld i ba raddau y mae eu hadnodd hunanwerthuso cenedlaethol newydd yn helpu i asesu cryfderau a bylchau o ran cymhwysedd mewn cyrff llywodraethu. Os bydd angen, bydd canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru yn cael eu hystyried.