Neidio i'r prif gynnwy

Rhestr byrfoddau

ACLl - Awdurdod Cynllunio Lleol

CDLl - Cynllun Datblygu Lleol

'Cymru’r Dyfodol’ – Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol: Cymru’r Dyfodol - Y Cynllun Cenedlaethol 2040

FC / FFC – Newidiadau â Ffocws / Newidiadau Pellach â Ffocws

HRA - Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

ISA – Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig

LVIA – Asesiad o’r Effaith ar y Dirwedd a’r Effaith Weledol

MAC - Newidiadau Materion sy’n Codi

MIQs – Materion, Ystyriaethau a Chwestiynau

PHM - Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad

PCC - Polisi Cynllunio Cymru

PO - Swyddog Rhaglen

PQ - Cwestiynau Rhagarweiniol

SA / SEA - Arfarniad Cynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol

SoCG - Datganiad Tir Cyffredin

TAN - Nodyn Cyngor Technegol

Adran 1. Cyflwyniad a throsolwg o’r archwiliad

1.1.    Mae’r canllaw hwn yn ymwneud â’r agweddau gweithdrefnol ar archwiliadau Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl). Mae wedi’i fwriadu ar gyfer pawb sy’n ymwneud â’r broses o archwilio Cynllun, gan gynnwys Arolygwyr Cynllunio a’r holl bartïon â buddiant.

1.2.    Darperir y sail statudol ar gyfer archwiliadau Cynlluniau yn adran 64 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Deddf 2004) ac yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005 (fel y’u diwygiwyd) [‘y Rheoliadau CDLl’]. Mae Llawlyfr Cynlluniau Datblygu Argraffiad 3 (Mawrth 2020) Llywodraeth Cymru yn nodi egwyddorion cyffredinol ar gyfer archwilio CDLlau.

1.3.    Nid oes unrhyw ddeddfwriaeth na chanllawiau gan Lywodraeth Cymru yn ymdrin ag agweddau gweithdrefnol manwl yr archwiliadau Cynlluniau. Mae hyn yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd o ran gweinyddu’r broses archwilio er mwyn bodloni anghenion y rheiny sy’n gysylltiedig. Fodd bynnag, er mwyn cynorthwyo cyfranogwyr a sicrhau cysondeb o ran ymagwedd, fel arfer bydd archwiliadau yn cael eu cynnal o fewn y paramedrau a bennir yn yr arweiniad hwn. Bydd Arolygwyr yn sicrhau hefyd bod pawb yn cael eu trin yn deg mewn materion megis dosbarthu papurau’n amserol a rhoi rhybudd rhesymol cyn gwrandawiadau. 

1.4.    Dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLlau) drefnu ar gyfer ymweliad cynghori gan PCAC ar gyflwyno’r Cynllun a’r broses archwilio yn dilyn ymgynghoriad ar y cynigion adneuo. Bydd dilyn cyngor a ddarperir gan PCAC cyn cyflwyno yn sicrhau lleihau graddfeydd amser a chostau archwiliad i’r ACLl gymaint ag y bo modd.

1.5.    Caiff archwiliadau cynlluniau ganolbwyntio ar gynllun hollol newydd neu gynllun sy’n disodli’r un blaenorol; neu gallant ymwneud â diwygiadau arfaethedig i gynllun mabwysiedig. Mae cyfeiriadau at ‘Cynllun’ yn yr arweiniad hwn yn cyfeirio naill ai at:

  • Y CDLl fel y’i cyflwynwyd ar gyfer ei archwilio (ar gyfer cynlluniau newydd neu gynlluniau sy’n disodli’r rhai blaenorol), neu
  • Y CDLl mabwysiedig fel y’u cynigiwyd i’w ddiwygio (ar gyfer diwygiadau i gynllun).

Egwyddorion y broses archwilio

1.6.    Rôl yr arolygydd a benodir yw cynnal asesiad annibynnol o gadernid cyffredinol y cynllun a sicrhau ei fod yn bodloni’r gofynion statudol ar gyfer ei baratoi. Nid rôl yr Arolygydd yw gwella’r Cynllun, ond yn hytrach gwneud argymhellion i sicrhau ei fod yn gadarn. Mae hyn yn golygu ymdrin â’r prif faterion ac ystyriaethau sydd wrth wraidd y Cynllun a pheidio ag ymwneud â manylion polisïau a dyraniadau unigol oni bai bod hyn yn angenrheidiol i ddod i gasgliad ynglŷn â chadernid y Cynllun. Ar yr amod nad ydynt yn methu’r profion cadernid, ni fydd Arolygwyr yn ymwneud â mân gamgymeriadau drafftio neu argraffyddol.

1.7.    Mae’r archwiliad wedi’i seilio ar asesiad yr Arolygydd o faterion ac ystyriaethau yn y Cynllun, ac ni chaiff ei lywio gan sylwadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnod paratoi’r Cynllun. Bydd sesiynau gwrandawiad yn chwilysol, gyda’r Arolygydd yn holi’n fanwl ynghylch materion perthnasol. Mae’n rhaid i’r rhai hynny sydd wedi ceisio newidiadau i’r cynllun a gyflwynwyd neu ddiwygiadau i gynlluniau ac wedi dynodi yr hoffent siarad, gael gwahoddiad i’r gwrandawiadau. Ceir gwahodd partïon eraill i fynychu hefyd os yw’r Arolygydd o’r farn y byddent yn cynorthwyo yn eu dealltwriaeth o’r materion dan sylw. Rhoddir yr un pwys i sylwadau a wneir yn ysgrifenedig a sylwadau llafar mewn gwrandawiadau.

1.8.    Bydd yr Arolygydd yn rheoli’r broses archwilio o’r dechrau i’r diwedd. Bydd yn rhagweithiol o’r adeg y’i penodir, a bydd yn ceisio nodi unrhyw broblemau gyda’r cynllun ar gam cynnar. Gallai hyn olygu bod angen cynnal cyfarfod archwiliadol (gweler Pennod 7 i gael rhagor o fanylion).

1.9.    Nod adroddiadau Arolygwyr yw ceisio bod yn gryno, gan osgoi cyfeirio’n uniongyrchol at sylwadau cyn belled ag y bo modd. Byddant yn rhoi casgliadau ac argymhellion eglur ynglŷn â chynnwys y Cynllun, gan gynnwys unrhyw newidiadau a argymhellir mewn perthynas â’r profion cadernid. Bydd adroddiadau Arolygwyr yn destun adolygu gan gymheiriaid er mwyn cyflawni’r lefel uchaf bosibl o gysondeb.

1.10.    Mae Adran 65 Deddf 2004 yn datgan pwerau ymyrryd trwy gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, lle yr ystyrir bod argymhellion adroddiad rhwymol yn codi materion o bwysigrwydd cenedlaethol neu’n ymestyn y tu hwnt i ardal yr awdurdod sy’n llunio’r cynllun. Mae paragraff 7.16 y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu yn datgan yn eglur y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio pwerau o’r fath mewn ystod gyfyngedig o amgylchiadau yn unig, ac fel dewis olaf. Bydd PCAC yn darparu copi o adroddiad drafft yr archwiliad i’r Gyfarwyddiaeth Gynllunio yn Llywodraeth Cymru pan fydd yn cael ei anfon at yr ACLl i wirio ffeithiau.

Adnoddau a graddfeydd amser

1.11.    Mae PCAC yn ymrwymedig i gyflwyno Adroddiad yr Arolygydd i Wirio Ffeithiau o fewn 11 mis o ddechrau’r archwiliad. Er mwyn cyflawni hyn, mae’n hanfodol bod ACLlau yn gallu symud yn gyflym i’r broses archwilio ar ôl cyflwyno cynllun. Mae hyn yn golygu sicrhau bod y cynllun yn gadarn, bod yr holl ddogfennau cyflwyno gofynnol yn dod gydag ef (gan gynnwys sylwadau) ac y caiff ei gefnogi gan sylfaen dystiolaeth gyflawn. Ni fydd y cloc yn dechrau troi, ac ni fydd yr archwiliad yn dechrau, hyd nes bod PCAC wedi cadarnhau gyda’r ACLl ei fod wedi gwneud cyflwyniad dilys.

1.12.    Gan ddibynnu ar gymhlethdod y cynllun, gallai’r Arolygydd arweiniol gael ei gynorthwyo gan Arolygwyr eraill, ymgynghorwyr arbenigol neu swyddogion cynllunio. Dyrennir amser yn unol â chymhlethdod y Cynllun.

1.13.    Bydd hyd cyffredinol yr archwiliad yn dibynnu ar gymhlethdod a chwmpas materion sy’n cael eu harchwilio. Yn aml, bydd archwiliad Cynllun llawn yn para am yr 11 mis cyfan, ond mae ffrâm amser byrrach yn debygol lle mae’r archwiliad yn ymwneud â diwygiadau i gynllun mabwysiedig yn unig. 

1.14.    O dan y Rheoliadau 2005 a ddiwygiwyd, gall ACLlau ddewis dilyn gweithdrefn ‘ffurf fer’ ar gyfer diwygiadau rhannol na fyddai’n effeithio ar strategaeth y cynllun (gweler y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu para. 8.21). Beth bynnag yw’r materion a godir, mewn sefyllfaoedd o’r fath, ni fydd angen Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad (PHM), ac mewn rhai achosion efallai y bydd yr archwiliad yn gallu mynd yn ei flaen trwy sylwadau ysgrifenedig. 

1.15.    Isod, amlinellir prif gamau a thasgau allweddol archwiliad Cynllun. Dynodir tair graddfa amser gan ddibynnu ar y math o archwiliad a graddfa’r archwiliad:

  • Cynllun sy’n disodli’r un blaenorol neu ddiwygiad llawn i Gynllun: sesiynau gwrandawiad sy’n para 4 wythnos ac archwiliad 10 mis
  • Diwygio strategaeth Cynllun presennol (lle mae materion strategol yn cael eu codi ond nid yw’r holl bolisïau yn destun diwygio): sesiynau gwrandawiad sy’n para 2 wythnos ac archwiliad 7 mis; a
  • Diwygiad rhannol i Gynllun presennol (proses ffurf fer, gyda nifer gyfyngedig o bolisïau anstrategol yn destun diwygio): sesiynau gwrandawiad yn para 1 wythnos ac archwiliad 5 mis.

Tasgau Allweddol yn yr Archwiliad

Cam 1: Tasgau cychwynnol (adran 3)

Tasgau allweddol i’w cyflawni yn ystod wythnosau 1 i 3 o Gynllun Llawn; Wythnosau 1 i 3 o Ddiwygiad i Gynllun (strategaeth); ac Wythnosau 1 i 2 o Ddiwygiad i Gynllun (rhannol).

  • Mae’r ACLl yn cyflwyno’r Cynllun a dogfennau ategol.
  • Mae’r ACLl yn cyflwyno ymateb i’r Cwestiynau Rhagarweiniol (PQs)
  • Os caiff y dogfennau cyflwyno eu dilysu, penodir yr Arolygydd.
  • Mae swyddogion cynllunio PCAC yn dechrau’r adolygiad o’r Cynllun a gwiriadau gweithdrefnol
  • Mae swyddogion cynllunio PCAC yn cwblhau’r adolygiad o’r Cynllun a gwiriadau gweithdrefnol
  • Mae’r Swyddog Rhaglen (PO) mewn ymgynghoriad â’r Arolygydd, yn drafftio Nodiadau Cyfarwyddyd, sy’n cynnwys amserlen ddangosol yr archwiliad, a llythyr cychwynnol at y rhai a gyflwynodd sylwadau.
  • Mae’r Swyddog Rhaglen yn trefnu cyfieithiad o’r Nodiadau Cyfarwyddyd

Ar yr adeg hon, os yw’n ymddangos bod y Cynllun yn cynnwys diffygion sylfaenol neu  gronnus, bydd yr amserlen arferol yn cael ei hatal tra bod yr Arolygydd yn penderfynu pa gamau gweithredu i’w cymryd (e.e. ysgrifennu at yr ACLl / cyfarfod archwiliadol).

Tasgau allweddol i’w cyflawni yn ystod wythnosau 4 i 8 o Gynllun Llawn; Wythnosau 4 i 8 o Ddiwygiad i Gynllun (strategaeth); ac Wythnosau 3 i 5 o Ddiwygiad i Gynllun (rhannol).

  • Mae’r Arolygydd yn darllen y sylwadau ac Adroddiad Ymgynghori’r ACLl er mwyn nodi’r prif faterion a’r cynrychiolwyr sydd wedi gwneud sylwadau, gan gynnwys a) y rheiny sy’n dymuno cael eu gwrando neu b) y rheiny sy’n gymwys i gael eu gwrando.
  • Mae’r Arolygydd yn darllen ymateb yr ACLl i’r Cwestiynau Rhagarweiniol.
  • Mae’r Arolygydd a’r Swyddog Rhaglen yn cyfarfod i drafod gweithdrefnau, graddfeydd amser a dogfennau drafft (gweinyddu’r archwiliad, rhaglen gwrandawiadau, ystafelloedd, cyfieithu, niferoedd cyfranogwyr ac ati)
  • Mae’r Arolygydd yn penderfynu p’un a yw Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad yn angenrheidiol (e.e. os oes niferoedd sylweddol o gynrychiolwyr wedi cyflwyno sylwadau a / neu bartïon sy’n anghyfarwydd â’r broses). Os oes angen cynnal Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad, caiff dyddiad ei bennu ac mae’r ACLl yn ei hysbysebu, gan roi rhybudd o 4 wythnos man lleiaf. 
  • Mae Swyddog y Rhaglen yn trefnu i gyfieithu dogfennau archwilio’r Arolygydd.
  • Mae’r Arolygydd, ar y cyd â swyddogion cynllunio PCAC, yn adolygu’r Polisïau Rheoli Datblygu yn y Cynllun a gyflwynwyd.
  • Mae’r Swyddog Rhaglen yn cyhoeddi rhaglen ddrafft y gwrandawiadau gan gynnwys rhestr ‘amlinellol’ o faterion trafod a chyfranogwyr y gwrandawiad sydd wedi’u neilltuo neu sy’n gymwys.
  • Mae’r Arolygydd yn ysgrifennu at yr ACLl yn amlinellu unrhyw gwestiynau cychwynnol i’r ACLl ar faterion / ystyriaethau penodol, gan gynnwys y rheiny sy’n codi o’r adolygiad o Bolisïau Rheoli Datblygu.
  • Mae’r ACLl yn hysbysebu dyddiad dechrau sesiynau gwrandawiad (o leiaf 6 wythnos ymlaen llaw).
  • Mae’r Swyddog Rhaglen yn delio ag ymholiadau gan y rhai a gyflwynodd sylwadau / yr ACLl mewn ymgynghoriad â’r Arolygydd, gan fireinio’r rhestr cyfranogwyr ar y rhaglen gwrandawiadau ddrafft.
  • Mae’r Arolygydd yn rhoi ymateb i gwestiynau cychwynnol yr Arolygydd.
  • Mae’r Arolygydd yn drafftio rhestr fanwl o faterion, ystyriaethau a chwestiynau.

Cam 2: Cyn-Gwrandawiad (adran 4)

Tasgau allweddol i’w cyflawni yn ystod wythnosau 9 i 14 o Gynllun Llawn; Wythnosau 9 i 14 o Ddiwygiad i Gynllun (strategaeth); ac Wythnosau 6 i 10 o Ddiwygiad i Gynllun (rhannol).

  • Mae’r Swyddog Rhaglen yn hysbysu’r Arolygydd ynglŷn â chyfranogwyr y gwrandawiadau terfynol a gadarnhawyd.
  • Mae’r Arolygydd yn rhoi’r wedd derfynol ar faterion, ystyriaethau a chwestiynau.
  • Mae’r Swyddog Rhaglen yn trefnu i gyfieithu’r materion, ystyriaethau a chwestiynau.
  • Caiff y Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad ei gynnal (os oes angen). Yn dilyn y cyfarfod, mae’r Swyddog Rhaglen yn cylchredeg nodyn o’r cyfarfod (yn ddwyieithog). Os na chynhelir Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad, yna bydd nodiadau cyfarwyddyd ysgrifenedig yn cael eu cyhoeddi i gyfranogwyr.
  • Mae’r Swyddog Rhaglen yn cyhoeddi’r materion, ystyriaethau a chwestiynau a rhaglen derfynol y gwrandawiadau (yn ddwyieithog).
  • Mae’r ACLl a’r cyfranogwyr yn dechrau gweithio ar unrhyw ddatganiadau ysgrifenedig y gofynnwyd amdanynt gan yr Arolygydd (caniateir cyfnod o 4 wythnos fel arfer. Sicrhewch fod amser wedi’i gynnwys ar gyfer cyfieithu’r materion, ystyriaethau a chwestiynau).
  • Mae datganiadau ysgrifenedig gan yr ACLl a chyfranogwyr yn ddyledus.
  • Mae’r Swyddog Rhaglen yn cylchredeg datganiadau ysgrifenedig 2 wythnos cyn bod y gwrandawiadau’n dechrau.
  • Mae’r Arolygydd a chyfranogwyr yn darllen datganiadau ac yn paratoi ar gyfer y gwrandawiadau.
  • Gallai’r Arolygydd ddarparu ar gyfer datganiadau gwrthbrofi os yw’n angenrheidiol.
  • Mae’r Swyddog Rhaglen yn cylchredeg agendâu’r gwrandawiadau (h.y. materion, ystyriaethau a chwestiynau, wedi’u diwygio gan yr Arolygydd os oes angen, yn ddwyieithog), ac yn gwneud paratoadau terfynol ar gyfer y gwrandawiadau.

Cam 3: Gwrandawiadau (adran 5)

Tasgau allweddol i’w cyflawni yn ystod wythnosau 15 i 19 o Gynllun Llawn; Wythnosau 17 i 31 o Ddiwygiad i Gynllun (strategaeth); ac Wythnosau 12 i 22 o Ddiwygiad i Gynllun (rhannol).

  • Amcanu i gynnal gwrandawiadau 3 neu 4 diwrnod yr wythnos, mewn blociau 2-wythnos.
  • Os oes angen, cytunir pwyntiau gweithredu rhwng yr Arolygydd a’r ACLl yn ystod / ar ôl pob gwrandawiad a’u cyhoeddi ar wefan yr archwiliad gan y Swyddog Rhaglen.
  • Mae’r ACLl yn dechrau gwaith ar unrhyw Faterion Newidiadau sy’n Codi, diwygiadau i’r Adroddiad Arfarniad Cynaliadwyedd ac ati.
  • Yn y sesiynau gwrandawiad cau wedi’u hamserlennu, mae’r Arolygydd yn gwirio bod yr holl bwyntiau gweithredu wedi’u cwblhau neu ar waith; ac mae’n cadarnhau’r dyddiad cyflawni amcangyfrifedig ar gyfer yr adroddiad i Wirio Ffeithiau.

Cam 4: Ymgynghori ac adrodd (adran 6)

Tasgau allweddol i’w cyflawni yn ystod wythnosau 20 i 43 o Gynllun Llawn; Wythnosau 15 i 16 o Ddiwygiad i Gynllun (strategaeth); ac Wythnos 11 o Ddiwygiad i Gynllun (rhannol).

  • Pan fydd y gwrandawiadau wedi dod i ben, caiff atodlen(ni) materion, ystyriaethau a chwestiynau arfaethedig yr ACLl (ac unrhyw Newidiadau gan yr Arolygydd, os oes angen) eu cwblhau.
  • Mae’r ACLl yn cymeradwyo’r atodlen at ddibenion ymgynghori ac yn ymgynghori arni am gyfnod o 6 wythnos.
  • Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori, mae’r ACLl yn anfon ymatebion a wnaed yn briodol ymlaen at yr Arolygydd i’w hystyried.
  • Mae’r Arolygydd yn ysgrifennu’r adroddiad.
  • Os nad oes angen unrhyw dystiolaeth bellach, mae’r Arolygydd yn anfon adroddiad drafft cyfrinachol ymlaen at yr ACLl i ‘wirio ffeithiau’.
  • Mae gan yr ACLl 2 wythnos (neu 1 wythnos os oes diwygiadau rhannol i Gynllun) i gyflawni’r gwiriad ffeithiau.
  • Mae’r Arolygydd yn gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol.
  • Caiff yr adroddiad ei gyfieithu a’i gyhoeddi.

Adran 2. Cyflwyniad

2.1.    Ni fydd y broses archwilio’n dechrau hyd nes y cyflwynir y Cynllun neu ddiwygiadau’r cynllun i Lywodraeth Cymru a PCAC, gan gynnwys sylfaen dystiolaeth lawn a chyflawn a dogfennaeth ategol. Mae’n rhaid i’r Swyddog Rhaglen fod wedi’i sefydlu yn ei swydd a bod mewn sefyllfa i weithredu fel cyswllt rhwng yr Arolygydd a’r ACLl cyn gynted ag y cyflwynir y Cynllun.

2.2.    Cyn belled ag y bo’r ACLl wedi bodloni’r gofynion gweithdrefnol ar yr adeg cyflwyno, a bod Swyddog Rhaglen hyfforddedig priodol yn ei le, bydd yr Arolygydd yn cael ei benodi. Bydd angen i PCAC fod wedi neilltuo’r Arolygydd ar gyfer y gwaith hwn fisoedd lawer ymlaen llaw. Mae’n hanfodol, felly, bod yr ACLl yn cadw mewn cysylltiad agos â PCAC ar ôl y cam adneuo er mwyn rhoi’r rhybudd mwyaf am unrhyw newid i’r dyddiad cyflwyno disgwyliedig.   

2.3.    Ynghyd â chyflwyno dogfennau, bydd yn ofynnol i ACLlau gynhyrchu a chyflwyno datganiad sy’n rhoi ymateb manwl i’r cwestiynau rhagarweiniol a gynhwysir yn Atodiad 2. Mae’r Cwestiynau Rhagarweiniol yn mynd i’r afael â materion gweithdrefnol a materion yn ymwneud â pholisi sy’n gyffredin o’r holl CDLlau. Mae’n rhaid i ddatganiad yr ACLlau gynnwys ymateb i bob un o’r Cwestiynau Rhagarweiniol. Rhaid i’r ymateb roi eglurhad manwl o’r ymagwedd polisi a fabwysiadwyd yn y Cynllun, sut mae’r ymagwedd yn ymwneud yn benodol â’r dystiolaeth ategol; a chyfeirio’n gywir at ble gellir gweld y wybodaeth berthnasol yn y sylfaen dystiolaeth a gyflwynwyd. Pan fo’r ymagwedd polisi yn gwyro oddi wrth hynny a gefnogir gan y dystiolaeth, rhaid esbonio’n glir y rhesymau dros wneud hynny, a’r ymagwedd a fabwysiadwyd. Ni ddylai’r datganiad fod yn fwy na 12,000 o eiriau. 

Adolygiad cynnar

2.4.    O fewn y pythefnos cyntaf, bydd swyddogion cynllunio PCAC yn cynnal gwiriadau cynnar o’r Cynllun o ran gweithdrefn a chynnwys. Os caiff materion technegol cymhleth eu codi, gallai trefniadau gael eu gwneud i roi cymorth i’r Arolygydd, a allai gynnwys defnyddio Arolygydd Cynorthwyol neu gynghorydd arbenigol allanol. Gallai swyddogion cynllunio PCAC roi cymorth yn y sesiynau gwrandawiad hefyd a helpu i baratoi drafftiau cychwynnol o rannau o adroddiad yr Arolygydd. Fodd bynnag, yr Arolygydd fydd yn gyfrifol am yr adroddiad cyfan yn y pen draw.

2.5.    Mae’r broses archwilio yn hyblyg. Gall Arolygwyr gynnal cyfarfodydd gweithdrefnol cyn i’r gwrandawiadau ddechrau, neu sesiynau gwrandawiad ychwanegol os bydd eu hangen ar unrhyw gam yn ystod yr archwiliad. O ystyried hyn, bydd yr Arolygydd yn cadw mewn cysylltiad agos â’r Swyddog Rhaglen er mwyn sicrhau bod yr holl bartïon yn cael gwybod am unrhyw amrywio angenrheidiol o’r rhaglen gytunedig.

Newidiadau ‘â ffocws’ cyn cyflwyno  

2.6.    Pe bai ACLl yn dewis gwneud ‘newidiadau â ffocws’ i’w gynllun wedi’i adneuo cyn cyflwyno (er enghraifft, i ystyried sylwadau a wnaed yn y cam adneuo), gellir gwneud hyn mewn amgylchiadau eithriadol lle mae’r diwygiad yn amlwg yn ymwneud â chadernid y cynllun. Lle mae’r cynllun sydd i’w archwilio yn destun newidiadau â ffocws, nid yw’r broses cyflwyno’r cynllun yn gyflawn hyd nes bod yr ACLl wedi cyflwyno’r sylwadau newidiadau â ffocws ac adroddiad Ymgynghori cysylltiedig i PCAC.

2.7.    Yn yr achosion hyn, bydd angen i’r Arolygydd egluro statws unrhyw newidiadau â ffocws arfaethedig gan yr ACLl mewn Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad a / neu yn y Nodiadau Cyfarwyddyd. Dylai’r ACLl ymgorffori’r newidiadau â ffocws mewn fersiwn ddiweddaredig, wedi ei marcio o’r Cynllun (neu ddiwygiadau i’r cynllun) a chyflwyno hon ochr yn ochr â’r cynigion adneuo. Cyn belled ag y bo’r newidiadau â ffocws wedi bod yn destun ymgynghoriad, prosesau Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ISA) neu Arfarniad Cynaliadwyedd (SA) ar wahân, Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA) ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) (os oes angen), byddai’r fersiwn o’r Cynllun (neu ddiwygiadau i’r cynllun) sy’n ymgorffori’r newidiadau â ffocws yn fan cychwyn ar gyfer yr archwiliad wedyn.

Mân newidiadau arfaethedig i gynllun (ymgynghoriad ar ôl Adneuo) 

2.8.    Os yw ACLl eisiau gwneud mân newidiadau golygu, fel cywiro camgymeriadau argraffyddol, dylid amlinellu’r rhain mewn atodlen ar wahân a gyflwynir gyda dogfennau’r Cynllun. Pe bai’r Arolygydd o’r farn nad yw unrhyw gyfryw newidiadau yn rhai dibwys, rhaid iddo hysbysu’r ACLl ar y cyfle cynharaf. Mae’n debygol y bydd angen i unrhyw fân newidiadau o natur sylweddol gael eu trin fel newidiadau ôl-gyflwyno, ac ymgynghori arnynt yn dilyn y gwrandawiadau.

Diwygio neu ddisodli Cynllun

2.9.    Pan fydd archwiliad yn ymwneud â diwygio neu ddisodli Cynllun mabwysiedig, bydd yr ACLl wedi paratoi Adroddiad Adolygu er mwyn nodi pa rannau o’r cynllun mabwysiedig sydd angen eu diwygio, a, lle bo’n briodol, pa weithdrefn ddiwygio sydd i’w dilyn. Mae paragraff 8.38 y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu yn datgan y bydd yr archwiliad o ddiwygiadau arfaethedig yng nghyd-destun y cynllun mabwysiedig. O ganlyniad, ni fydd Arolygydd fel arfer yn archwilio rhannau ‘eraill’ o’r cynllun mabwysiedig (h.y. y rhannau hynny nas cynigiwyd ar gyfer eu newid) oni bai:

  • Bod y dystiolaeth yn nodi y gallai rhannau ‘eraill’ y cynllun fod yn ansicr, neu
  • Y bydd y diwygiadau arfaethedig yn cael effeithiau canlyniadol amlwg ar rannau ‘eraill’ y cynllun a allai beryglu cadernid y cynllun yn ei gyfanrwydd.

2.10.    Pan fydd Cynllun mabwysiedig i’w ddiwygio’n rhannol, bydd yr archwiliad fel arfer yn canolbwyntio ar fersiwn wedi ei marcio o’r cynllun mabwysiedig yn ymgorffori diwygiadau (h.y. yn dangos y newidiadau i’r testun wedi’u hamlygu’n fras/wedi’u croesi allan). Pan fydd diwygiadau’n gymharol hunangynhwysol, caiff y ddogfen archwilio ond gynnwys y rhan(nau) hynny o’r cynllun sy’n destun newid (mae hyn yn gymwys yn benodol i gynlluniau a fu’n destun gweithdrefn ddiwygio ‘ffurf fer’).

2.11.    Os yw Cynllun mabwysiedig i’w ddiwygio’n llawn (h.y. cynigir strategaeth newydd, gyda goblygiadau ar gyfer holl bolisïau/dyraniadau’r polisi), neu os yw cynllun disodli wedi ei adneuo, dylid cyflwyno’r Cynllun mabwysiedig cyfredol ochr yn ochr â’r Cynllun disodli arfaethedig.

Adran 3. Tasgau cychwynnol

3.1.    Erbyn wythnos 4, bydd yr Arolygydd wedi dechrau arfarniad cynnar o’r Cynllun neu ddiwygiadau i’r cynllun ac wedi cysylltu â’r Swyddog Rhaglen i sefydlu trefniadau gweithio. Ar ran yr Arolygydd, bydd y Swyddog Rhaglen yn ysgrifennu at y rhai a gyflwynodd sylwadau i gadarnhau dechrau’r archwiliad, dyddiad unrhyw Gyfarfod Cyn-Gwrandawiad a dyddiadau dangosol ar gyfer sesiynau’r gwrandawiad. Bydd yr Arolygydd yn darparu Nodiadau Cyfarwyddyd i’r cyfranogwyr, yn amlinellu gweithdrefnau’r archwiliad / gwrandawiad a therfynau amser ar gyfer cyflwyno unrhyw ddeunydd ychwanegol. 

3.2.    Yn ystod y cyfnod hwn, bydd yr Arolygydd yn amcanu i wneud y canlynol hefyd:

  • Nodi unrhyw ddiffygion sylfaenol neu gronnus a allai awgrymu bod angen cyfarfod archwiliadol,
  • Sefydlu strwythur gwrandawiadau’r archwiliad, gan gynnwys y materion, ystyriaethau a chwestiynau,
  • Neilltuo partïon â buddiant i sesiynau gwrandawiad perthnasol, a
  • Phenderfynu pa ddeunydd ychwanegol sydd ei angen gan y cyfranogwyr.

Nodi materion, ystyriaethau a chwestiynau

3.3.    Bydd yr archwiliad yn cael ei strwythuro o amgylch y materion ac ystyriaethau a nodwyd gan yr Arolygydd fel rhai sy’n hollbwysig i gadernid y cynllun. Un o dasgau cyntaf yr Arolygydd, felly, yw sefydlu rhestr o faterion, ystyriaethau a chwestiynau i’w harchwilio. Mae ‘materion’ yn tueddu bod â fframwaith strategol, ond mae ‘ystyriaethau’ yn canolbwyntio ar bryderon penodol a godir gan y Cynllun neu ei dystiolaeth. Mae ‘cwestiynau’ yr Arolygydd yn fanwl ac yn amlinellu’r hyn sy’n weddill i’w ddatrys trwy dystiolaeth ysgrifenedig neu lafar ychwanegol yn ystod proses yr archwiliad.

3.4.    Mae datganiad yr ACLl ynghylch y prif faterion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad adneuo; sut yr ymdriniwyd â’r materion hyn yn y Cynllun a’i argymhellion ynglŷn â’r sylwadau a gynhwyswyd yn ei Adroddiad Ymgynghori (sy’n ofynnol o dan reoliad 22(2)(c)), o gymorth arbennig i’r Arolygydd. Ni fydd y prif faterion a nodir yn Adroddiad Ymgynghori’r ACLl yn pennu strwythur yr archwiliad, gan nad yw absenoldeb sylwadau ar fater yn warant o gadernid (ac fel arall). Yn hytrach, bydd yr archwiliad yn deillio o ymagwedd ragweithiol a chwilysol yr Arolygydd at ystyried cadernid. 

3.5.    Fel arfer, bydd yr Arolygydd yn paratoi rhestr ddrafft o faterion, ystyriaethau a chwestiynau i’w trafod yn y Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad, os caiff un ei gynnal. Yna bydd y rhestr derfynol yn ffurfio’r sail ar gyfer unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig neu lafar a ddarperir gan gyfranogwyr, ac fel arfer bydd yn pennu’r agendau ar gyfer y gwrandawiadau arfaethedig. 

3.6.    Ar gyfer diwygiadau i’r cynllun, bydd yr Arolygydd yn ystyried yr holl sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad adneuo ond bydd yn ffurfio materion, ystyriaethau a chwestiynau dim ond i’r graddau eu bod yn ymwneud â diwygiadau’r cynllun a gynigir gan yr ACLl, yn ogystal ag unrhyw rannau eraill o’r cynllun y mae’r Arolygydd yn ystyried y gellir effeithio arnynt fel canlyniad i ddiwygiadau i’r cynllun. 

Diffygion sylfaenol / cronnus

3.7.    Bydd Arolygwyr yn ceisio amlygu unrhyw ddiffygion sylfaenol neu gronnus ar y cyfle cynharaf. Bydd hyn yn osgoi gwastraffu amser ac arian os oes problemau mawr yn gysylltiedig â’r Cynllun a gyflwynwyd / a ddiwygiwyd, neu os nad yw’n ymddangos yn gadarn.

3.8.    Os yw’n ymddangos bod angen gwneud nifer o newidiadau arwahanol i’r Cynllun, bydd yr Arolygydd yn ystyried p’un a allai’r rhain, gyda’i gilydd, newid sylwedd y Cynllun i’r graddau y byddai’r ymglymiad cymunedol a phrosesau’r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig neu Arfarniad Cynaliadwyedd, Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn cael eu tanseilio. Hefyd, bydd yr Arolygydd yn ceisio amlygu unrhyw ddiffygion sylfaenol yn y Cynllun a fyddai, yn unigol, yn gwneud y Cynllun cyfan yn ansicr. Os yw’r Arolygydd yn ffurfio’r farn y ceir diffygion difrifol o’r natur hon yn y Cynllun a gyflwynwyd/a ddiwygiwyd, caiff hyn ei ddwyn i sylw’r ACLl cyn gynted ag y bo modd. Gwneir hyn yn ysgrifenedig i ddechrau ac, os na chaiff ei ddatrys wedi hynny trwy gyfnewid gohebiaeth, bydd cyfarfod archwiliadol yn cael ei drefnu.

3.9.    Mae Arolygwyr yn annhebygol o ddod i unrhyw gasgliadau pendant ar y cam hwn, ond byddant yn rhoi syniad o’u pryderon. Bydd yn anodd i’r Arolygydd wneud canfyddiad pendant o ddiffyg cadernid cyn cynnal y sesiynau gwrandawiad, oherwydd dyna lle y rhoddir prawf ar y dystiolaeth. Mewn achosion eithriadol, gallai’r Arolygydd ystyried na ellir cwblhau’r archwiliad heb wneud gwaith ychwanegol. Gallai hyn olygu bod angen atal yr archwiliad dros dro, neu mewn achosion eithafol, tynnu’r Cynllun yn ôl neu ddiwygiadau i’r cynllun.

3.10.    Rhoddir rhagor o arweiniad ar y gweithdrefnau sy’n ymwneud â chyfarfodydd archwiliadol ac atal dros dro ym Mhennod 7.

Dyrannu cyfranogwyr i wrandawiadau Archwiliad CDLl

3.11.    Bydd partïon â buddiant (a adwaenir hefyd fel unigolion sydd wedi cyflwyno sylwadau) sy’n gymwys i gael eu clywed mewn gwrandawiadau yn cael eu neilltuo gan yr Arolygydd yn erbyn materion ac ystyriaethau penodol. Bydd unigolion sydd wedi cyflwyno sylwadau sydd â buddiant mewn ystyriaethau, polisïau neu leoliadau safle tebyg yn cael eu gwahodd i’r un sesiwn gwrandawiad. Gallai’r Swyddog Rhaglen gynorthwyo’r Arolygydd â’r broses hon. 

3.12.    Bydd unrhyw un sy’n dymuno codi pryderon ynglŷn â’r cynllun, ond nad yw eu pryderon yn ymwneud â mater cadernid, fel arfer yn cael y cyfle i gael eu clywed mewn sesiwn ‘materion eraill’ a gynhelir fel rheol tua diwedd y gwrandawiadau. Dylai’r rhai a gyflwynodd sylwadau gofio y rhoddir yr un pwys i sylwadau ysgrifenedig â'r rhai a wnaed yn y gwrandawiadau.

3.13.    Pan fydd diwygiadau i gynllun presennol yn cael eu harchwilio, mae’n bosibl y bydd sylwadau wedi’u gwneud nad ydynt yn ymwneud â’r diwygiadau arfaethedig i’r cynllun. Yn y cyfryw amgylchiadau, mae gan yr Arolygydd y disgresiwn i benderfynu ar berthnasedd y sylwadau hyn ac, o ganlyniad, p’un a oes gan unigolyn a gyflwynodd sylwadau yr hawl i gael ei glywed mewn sesiwn gwrandawiad.

3.14.    Bydd y Swyddog Rhaglen yn cadarnhau presenoldeb yn y sesiynau gwrandawiad gyda chyfranogwyr cyn y Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad, os cynhelir un. Bydd yr Arolygydd yn rhoi’r wedd derfynol ar y rhaglen ar gyfer y sesiynau gwrandawiad cyn gynted ag y bo modd ar ôl y Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad.

Deunydd ysgrifenedig ychwanegol gan gyfranogwyr

3.15.    Dylai ACLlau a chyfranogwyr eraill aros am gyfarwyddiadau gan yr Arolygydd ynglŷn â pha ddeunydd ychwanegol y mae angen iddynt ei gyflwyno cyn i’r gwrandawiadau ddechrau. Ni ddylid cyflwyno deunydd ysgrifenedig os na ofynnwyd amdano gan yr Arolygydd. Mae deunydd ysgrifenedig nas gofynnwyd amdano gan unrhyw barti â buddiant, gan gynnwys yr ACLl, yn debygol o gael ei ddychwelyd.

3.16.    Wrth wneud penderfyniad ynglŷn â pha ddeunydd ychwanegol y gallai fod ei angen, bydd yr Arolygydd yn cael ei arwain gan yr hyn y mae’n ystyried yw’r materion allweddol bwysig o ran cadernid a godwyd gan y Cynllun a’r deunydd a gyflwynwyd eisoes. Gallai hyn gynnwys rhywbeth a amlygwyd gan yr Arolygydd ond na chodwyd mewn unrhyw sylwadau. Gallai’r Arolygydd roi nodyn manylach lle bo angen i esbonio unrhyw bwyntiau y mae angen eglurhad pellach arnynt. 

3.17.    Gallai’r Arolygydd wahodd cyflwyno datganiadau tir cyffredin (SoCGs), yn enwedig ynglŷn â materion sylweddol a godwyd gan unigolion allweddol a gyflwynodd sylwadau. Fodd bynnag, ni fydd y ffaith bod y partïon yn cytuno ar rai materion, o bosibl, yn atal yr Arolygydd rhag ymchwilio i’r materion hynny ymhellach os oes angen.

Safonau’r Gymraeg a chyfleusterau cyfieithu

3.18.    Gan fod y Swyddog Rhaglen yn gweithio ar ran yr Arolygydd, bydd Safonau’r Gymraeg PCAC yn berthnasol. Golyga hyn bod rhaid cysylltu ag unrhyw gyfranogwr sydd wedi nodi dewis i gyfathrebu yn Gymraeg, yn Gymraeg, ac ni ddylai ddioddef unrhyw oedi o ran cyfathrebu oherwydd ei ddewis. Felly, mae angen i lythyrau a anfonir at unigolion a gyflwynodd sylwadau fod ar gael yn ddwyieithog, a rhaid eu hanfon ar yr holl dderbynyddion ar yr un pryd. Hefyd, mae’n rhaid i wefan yr archwiliad a’r holl ddogfennau a gynhyrchir gan yr Arolygydd (gan gynnwys Nodiadau Cyfarwyddyd i Gyfranogwyr, Pwyntiau Gweithredu, ac unrhyw ohebiaeth gyda’r ACLl) gael eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg yn gydamserol.

3.19.    Er mwyn hwyluso archwiliad effeithlon, bydd yn bwysig i’r Swyddog Rhaglen gael mynediad i gyfleusterau cyfieithu cyflym. Pan nad yw cyfleusterau mewnol ar gael, gallai deunyddiau gael eu cyfieithu gan ddefnyddio contract cyfieithu allanol PCAC, gyda’r ACLl yn ysgwyddo’r gost. Yr amserau cyflawni nodweddiadol yw lleiafswm o 5 diwrnod gwaith, a dylid ystyried hyn yng ngraddfeydd amser archwiliadau.

3.20.    Bydd yr Arolygydd yn agor y Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad, a’r gwrandawiad a drefnwyd gyntaf, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dylai cyfleusterau ar gyfer cyfieithu ar y pryd gael eu darparu gan yr ACLl a’r Swyddog Rhaglen (gan ddefnyddio contract cyfieithu allanol PCAC os oes angen). Gan fod Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad yn gyfarfod cyhoeddus, dylid darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd bob amser. Mewn gwrandawiadau, dylid darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd lle mae un neu fwy o gyfranogwyr wedi mynegi dewis i gyfathrebu yn Gymraeg. Dylai’r Swyddog Rhaglen geisio cadarnhau dewisiadau iaith gyda chyfranogwyr cyn y gwrandawiadau.

Adran 4. Paratoi ar gyfer y gwrandawiadau

Cyfarfodydd Cyn-Gwrandawiad

4.1.    Os bydd un yn ofynnol, bydd dyddiad addas ar gyfer Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad yn cael ei bennu yn fuan ar ôl i’r Cynllun gael ei gyflwyno. Nid yw’r union gyfnod wedi’i bennu, ond argymhellwn y dylai’r ACLl roi o leiaf 4 wythnos o rybudd. 

4.2.    Os caiff diwygiadau syml, annadleuol i’r cynllun eu cynnig, neu os yw nifer y sesiynau gwrandawiad / cyfranogwyr yn debygol o fod yn gyfyngedig, gallai’r Arolygydd benderfynu nad yw Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad yn angenrheidiol. Yn y cyfryw amgylchiadau, bydd materion yr ymdrinnir â nhw fel arfer mewn Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad yn cael sylw yn Nodiadau Cyfarwyddyd yr Arolygydd a/neu drwy gyfnewid gohebiaeth.

4.3.    Er na fydd rhinweddau’r cynllun yn cael eu trafod yn y Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad, mae’n bwysig bod pawb sy’n dymuno cyfranogi yn y sesiynau gwrandawiad yn mynychu’r Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad lle cynhelir un. Dylai’r ACLl a’r rheiny sydd wedi gwneud sylwadau sy’n ceisio newidiadau i’r Cynllun neu ddiwygiadau arfaethedig i’r cynllun fod yn barod i chwarae rhan weithgar yn y Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad. 

4.4.    Mewn Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad, bydd yr Arolygydd:

  • Yn agor y cyfarfod yn Gymraeg ac yn cadarnhau y bydd cyfleusterau cyfieithu ar gael mewn gwrandawiadau lle mae un neu fwy o gyfranogwyr yn cadarnhau eu bod yn dymuno siarad yn Gymraeg;
  • Yn esbonio ei fod wedi’i benodi i archwilio’r Cynllun a gyflwynwyd / a ddiwygiwyd er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni’r gofynion gweithdrefnol a’i fod yn ‘gadarn’, ac i lunio adroddiad ar gyfer yr ACLl sy’n cynnwys argymhellion rhwymol; 
  • Yn esbonio y dylai’r ACLl ystyried bod y Cynllun yn gadarn fel y’i cyflwynwyd, neu fel y’i diwygiwyd gan y diwygiadau arfaethedig i’r cynllun; 
  • Yn esbonio rôl y Swyddog Rhaglen fel swyddog diduedd sy’n cynorthwyo’r Arolygydd gyda materion gweinyddol a gweithdrefnol, ac yn gweithredu fel cyfrwng cyfathrebu rhwng yr Arolygydd, yr ACLl a’r partïon â buddiant;
  • Yn amlinellu’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn yn ystod yr archwiliad, gan gynnwys yn y sesiynau gwrandawiad;
  • Yn egluro y bydd yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd yn cael ei hystyried ac y rhoddir yr un pwys i sylwadau ysgrifenedig â thystiolaeth lafar;
  • Yn esbonio rôl rhestr yr Arolygydd o faterion, ystyriaethau a chwestiynau o ran canolbwyntio’r drafodaeth yn y gwrandawiadau a phrofi cadernid y cynllun;
  • Yn pwysleisio bod rhaid i ddatganiadau ysgrifenedig pellach ymateb i’r materion, ystyriaethau a chwestiynau a ddynodwyd yn unig, ac y dylent ymwneud â sylwadau ysgrifenedig gwreiddiol y cyfranogwyr;
  • Yn trafod yr amserlen ar gyfer y sesiynau gwrandawiad a’r amserau tebygol y bydd y cyfranogwyr yn ymddangos; ac
  • Yn pwysleisio pwysigrwydd cyfranogwyr yn bodloni terfynau amser dynodedig.

4.5.    Os nad yw eisoes yn eglur o’r ddogfennaeth a gyflwynwyd, bydd yr Arolygydd hefyd yn ceisio cadarnhad gan yr ACLl bod y materion gweithdrefnol a materion eraill wedi derbyn sylw priodol, yn enwedig:

  • Y cydymffurfiwyd â gofynion cyfreithiol, gan gynnwys prosesau’r Arfarniad Cynaliadwyedd, Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, a
  • Bod dogfennau’r cyflwyniad ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd ar-lein ac ar ffurf papur.

4.6.    Bydd yr Arolygydd yn cynnig cyfle i fynychwyr ofyn cwestiynau ynglŷn â materion gweithdrefnol. Bydd hefyd yn ceisio adborth ar y rhestr ddrafft o faterion, ystyriaethau a chwestiynau a bod yn barod i dderbyn eu hamrywio os yw newidiadau rhesymol yn cael eu rhoi gerbron.

4.7.    Erbyn i’r Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad gael ei gynnal, dylai’r ACLl sicrhau ei fod wedi rhoi cyhoeddusrwydd i ddyddiad dechrau’r gwrandawiadau yn unol â’r gofyniad rheoleiddiol. Yn y Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad, bydd yr Arolygydd yn hysbysu’r mynychwyr y gallai’r rhaglen gwrandawiadau newid ac y dylai cyfranogwyr wirio’r wefan neu gysylltu â’r Swyddog Rhaglen i gael diweddariadau.

4.8.    Os yw unrhyw gyfranogwr (gan gynnwys yr ACLl) o’r farn bod angen dull mwy ffurfiol ‘ymchwiliad cyhoeddus’ o ymdrin ag unrhyw fater, rhaid iddo godi hyn yn y Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad, os nad cyn hynny. 

4.9.    Bydd y Swyddog Rhaglen yn cylchredeg nodiadau’r Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad, ynghyd â’r rhaglen ar gyfer y sesiynau gwrandawiad a’r rhestr derfynol o faterion ac ystyriaethau ar gyfer y gwrandawiadau, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad.

Datganiadau ysgrifenedig

4.10.    Dylai datganiadau gan gyfranogwyr ond cael eu cyflwyno os gofynnir amdanynt gan yr Arolygydd ac mae’n rhaid iddynt ymateb i faterion, ystyriaethau a chwestiynau diffiniedig. Dylai datganiadau fod mor gryno ag y bo modd, ac nid mwy na 3,000 o eiriau ar gyfer pob mater, yn gyffredinol.

4.11.    Dylai’r ACLl a chyfranogwyr ddechrau gweithio ar ddarparu unrhyw ddeunydd y gofynnir amdano gan yr Arolygydd cyn gynted ag y bo modd. Rhoddir terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau ysgrifenedig (2 wythnos cyn dechrau’r gwrandawiad cyntaf fel arfer). Mae’n bwysig bod pawb yn cadw at derfynau amser penodedig fel bod yr Arolygydd yn cael digon o amser i ystyried y wybodaeth a ddarparwyd. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd yr Arolygydd yn derbyn cyflwyniadau hwyr.

4.12.    Bydd y Swyddog Rhaglen yn cyfnewid a / neu’n cylchredeg datganiadau ysgrifenedig cyn gynted ag y’u derbynnir. Fel arfer, ni ddylai fod yn angenrheidiol i’r ACLl gyflwyno ei ddatganiad ar ddyddiad gwahanol (hwyrach) na chyfranogwyr eraill. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gallai’r Arolygydd benderfynu bod manteision i gael ymateb gan yr ACLl i ddatganiadau a wnaed gan unigolion a wnaeth sylwadau. Yn y cyfryw achosion, bydd yr Arolygydd yn pennu dyddiadau cyflwyno gwahanol.

Agendau ar gyfer sesiynau gwrandawiad

4.13.    Fel arfer, bydd agendau gwrandawiadau yr un fath â’r materion, ystyriaethau a chwestiynau a nodwyd gan yr Arolygydd. Fodd bynnag, os codir cwestiynau ychwanegol, neu os caiff rhai pwyntiau eu hegluro’n foddhaol yn y cyflwyniadau ysgrifenedig, gallai’r Arolygydd ddiweddaru’r agendau yn briodol cyn y gwrandawiadau.

4.14.    Bydd pob agenda yn nodi dilyniant o ystyriaethau a chwestiynau i’w trafod. Gallai’r Arolygydd ddewis cyhoeddi nodyn ar wahân hefyd, er enghraifft, i grynhoi meysydd cytundeb / anghytundeb allweddol neu i egluro unrhyw faterion technegol (fel y fethodoleg a ddefnyddir mewn astudiaeth asesu anghenion tai). Mewn rhai achosion, gellid cynnal seminar technegol cyn y sesiynau gwrandawiad, ochr yn ochr â nhw (gweler Pennod 7).

4.15.    Os yw’r Arolygydd wedi llunio nodyn ar wahân neu wedi diweddaru agenda gwrandawiad, bydd y Swyddog Rhaglen yn ceisio cylchredeg hwn i gyfranogwyr oddeutu un wythnos cyn y gwrandawiad.

Adran 5. Sesiynau gwrandawiad

5.1    Fel arfer, mae gwrandawiadau yn rhan bwysig o’r archwiliad. Bydd yr Arolygydd wedi cwblhau’r archwiliad desg o’r Cynllun, ac yn disgwyl eglurhad pellach o’r sesiynau gwrandawiad ynglŷn â’r materion sy’n weddill a fydd yn cynorthwyo â phennu cadernid. Bydd y pwyslais ar anffurfioldeb, gyda’r Arolygydd yn arwain dadl ar y materion a amlinellwyd yn yr agenda.

5.2    Mae natur a lleoliad y sesiynau gwrandawiad yn fater i’r ACLl a’r Arolygydd benderfynu arnynt (drwy’r Swyddog Rhaglen). Gellir cynnal sesiynau gwrandawiad yn bersonol neu’n rhithwir. Lle mae sesiynau i’w cynnal yn rhithwir, gallai hyn gynnwys fideo-gynadledda neu gynadledda dros y ffôn.

5.3    Ar gyfer gwrandawiadau a gynhelir yn bersonol, y drefn ystafell fwyaf priodol ar gyfer y sesiynau gwrandawiad fydd bwrdd siâp U gyda seddau ar gyfer hyd at 20 o bobl. Dylid gosod lle wrth y bwrdd i’r holl gyfranogwyr at y drafodaeth. Os nad yw hyn yn bosibl, gofynnir i unrhyw bartïon a gynrychiolir gan dîm neu grŵp sy’n rhannu’r un safbwyntiau enwebu prif siaradwr. Yn yr un modd, gallai’r ACLl ddymuno trefnu bod staff cymorth ar gael a fydd yn eistedd y tu ôl gynrychiolydd yr ACLl. 

5.4    Bydd canllawiau manwl yn ymwneud â threfnu a rheoli sesiynau gwrandawiad rhithwir yn cael eu darparu yn Nodiadau Cyfarwyddyd Arolygwyr i Gyfranogwyr a gyhoeddir ar gyfer bob archwiliad.

5.5    Bydd y rhaglen gwrandawiadau’n ddwys ac yn cynnwys ffocws. Oherwydd natur y sesiynau gwrandawiad, mae’n debygol y bydd yr Arolygydd yn eistedd am 3 neu 4 diwrnod yr wythnos i ganiatáu digon o amser paratoi rhwng sesiynau. Gall hyn amrywio gan ddibynnu ar natur y Cynllun a pha un a neilltuir mwy nag un Arolygydd i’r cynllun dan sylw. Mae’n debygol y bydd y rhaglen yn cynnwys egwyl hanner ffordd drwodd hefyd. Gallai’r ACLlau deimlo bod y gwrandawiadau yn feichus iawn a bydd angen amser arnynt i baratoi deunydd ac ymatebion i faterion a godwyd mewn sesiynau cynharach. 

5.6    Fel arfer, bydd yr Arolygydd yn cynnal sesiynau gwrandawiad sy’n ystyried materion strategol yn gyntaf. Yna gall fod egwyl yn y rhaglen cyn i faterion anstrategol gael eu hystyried. Bydd hyn yn galluogi’r Arolygydd i ystyried y strategaeth a chaniatáu i’r dystiolaeth a gasglwyd lywio’r materion a’r ystyriaethau i’w hystyried yn ddiweddarach. Mae’n bosibl y gallai ystyriaethau gael eu nodi yn ystod yr egwyl hon sy’n newid y ffordd y mae’r gwrandawiadau’n mynd rhagddynt, newid agendâu neu greu angen am sesiynau ychwanegol.

Yr hawl i gael eu clywed

5.7    I siarad mewn gwrandawiad, mae’n rhaid bod y parti â buddiant eisoes wedi gwneud sylw yn ceisio newid i’r Cynllun neu ddiwygiadau arfaethedig i’r cynllun (fel y pennwyd yn adran 64 (6) Deddf 2004). 

5.8    Bydd y rheiny sy’n gymwys i gael eu clywed yn cael eu gwahodd gan yr Arolygydd i fynychu’r sesiwn (sesiynau) gwrandawiad sy’n ymwneud â’r sylwadau a wnaethant. Hefyd, mae’r disgresiwn gan yr Arolygydd i wahodd rhai eraill i wrandawiad; er enghraifft, partïon ag arbenigedd technegol penodol a allai gynorthwyo’r archwiliad. Bydd yr Arolygydd, fodd bynnag, yn sicrhau nad unrhyw barti a wahoddir i gyfranogi yn y modd hwn yn defnyddio’r gwahoddiad hwn i gyflwyno sylwadau hwyr a wrthodwyd yn flaenorol gan yr ACLl fel sylwadau na wnaed yn briodol.

5.9    Nid oes gan bartïon nad ydynt wedi anfon sylwadau i mewn yn unol â’r ddeddfwriaeth statudol yr hawl i gael eu clywed, er y gallant arsylwi unrhyw sesiwn gwrandawiad. Bydd Arolygwyr yn gweithredu mewn ffordd gadarn ac ni fyddant yn ystyried sylwadau hwyr nas derbyniwyd yn ffurfiol gan yr ACLl. 

5.10    Nid oes hawl gan unigolion a gyflwynodd sylwadau sy’n cefnogi’r Cynllun neu ddiwygiadau i’r cynllun a gyflwynwyd i gael eu clywed. Mae hyn oherwydd bod eu safbwynt wedi’i gynrychioli gan yr ACLl yn y gwrandawiadau. Gallai’r Arolygydd ganiatáu i gefnogwr y cynllun gyfranogi os yw o’r farn y byddai’n cynorthwyo’r broses, ond gweithredir yn gadarn fel arfer mewn perthynas â cheisiadau gan gefnogwyr i ymddangos.

5.11    Bydd disgwyl i bartïon sy’n dymuno cael eu clywed fynychu’r sesiwn (sesiynau) gwrandawiad sy’n berthnasol i’w sylwadau neu i anfon cynrychiolydd os nad ydynt yn gallu mynychu ar y diwrnod hwnnw. Os nad yw hyn yn bosibl, a bod pob cam rhesymol wedi’i gymryd i geisio bod yn bresennol, bydd rhaid iddynt ddibynnu ar sylwadau ysgrifenedig.

Fformatau ar gyfer clywed tystiolaeth

5.12    Yr Arolygydd sy’n gyfrifol am bennu’r fformat ar gyfer clywed y dystiolaeth. Fel arfer, bydd yr Arolygydd yn mabwysiadu ymagwedd chwilysol at brofi cadernid a chydymffurfiaeth weithdrefnol y Cynllun. Dyma’r mecanwaith mwyaf effeithlon ar gyfer clywed tystiolaeth, a dylai fod yn bosibl ei ddefnyddio i archwilio pob Cynllun.

5.13    Ni ddylai fod angen cyflwyno tystiolaeth yn ffurfiol, a bydd croesholi ffurfiol yn cael ei ddefnyddio mewn achosion eithriadol yn unig. Er ei bod yn dderbyniol i gyfranogwyr gael bargyfreithiwr neu asiant i gyfleu eu barnau, ni chaniateir i gyfreithwyr fabwysiadu rôl ‘eirioli’ ffurfiol gan y gall hyn anesmwytho cyfranogwyr eraill a thanseilio’r egwyddor partneriaeth gydradd yn y drafodaeth.

5.14    Serch hynny, fe allai fod achlysuron lle mae angen defnyddio sgiliau cyfreithwyr / eiriolwyr. Fe allai fod yn briodol i ran o’r archwiliad gael ei gynnal mewn dull ‘ymchwiliad cyhoeddus’, h.y. cyflwyno tystiolaeth yn ffurfiol ac yna croesholi ac ail-archwilio. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd hyn yn digwydd, lle mae’r Arolygydd yn argyhoeddedig bod dull ffurfiol yn hanfodol er mwyn rhoi tystiolaeth dechnegol neu gymhleth iawn ar brawf yn ddigonol.

5.15    Mae’n rhaid i unrhyw gyfranogwr sy’n dymuno i’r Arolygydd ganiatáu croesholi gan eiriolwr mewn perthynas â phwnc penodol fod yn barod i gyflwyno achos cryf yn gynnar yn yr archwiliad. Dylid cyflwyno cyfiawnhad cadarn gyda’r cais hwn. Rhoddir gwybod i’r cyfranogwyr eraill ac, er tegwch, fe’u gwahoddir i ystyried p’un a fyddent yn dymuno cael cynrychiolaeth debyg. Wrth wneud penderfyniad ynghylch a yw dull ffurfiol yn briodol, bydd yr Arolygydd yn ystyried yr effaith ar raglen a graddfeydd amser yr archwiliad.

5.16    Yr Arolygydd fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Lle penderfynir bod angen defnyddio dull ffurfiol, bydd y cyfranogwyr yn cael gwybod cyn y sesiwn y bydd croesholi’n cael ei ganiatáu ar fater penodol.

Agor y sesiynau gwrandawiad

5.17    Cymerir y bydd pawb wedi darllen yr holl ddogfennau yn y gwrandawiad. Bydd y gwrandawiadau’n canolbwyntio ar faterion, ystyriaethau a chwestiynau’r Arolygydd, fel yr amlinellwyd yn yr agenda. Ni fydd yn fuddiol i gyfranogwyr gyflwyno tystiolaeth nas gofynnwyd amdani yn y gwrandawiadau. Bydd yr Arolygydd, felly, yn arfer ei ddisgresiwn wrth wrthod deunydd nas gofynnwyd amdano nad yw’n berthnasol i gadernid y cynllun.

5.18    Ar ddiwrnod cyntaf y gwrandawiadau, bydd yr Arolygydd:

  • Yn agor y gwrandawiad yn Gymraeg, gan gadarnhau’r trefniadau ar gyfer cyfleusterau cyfieithu yn y gwrandawiadau;
  • Yn amlinellu’n fras diben ac egwyddorion y sesiynau gwrandawiad yn ogystal ag esbonio canlyniadau posibl yr archwiliad;
  • Yn esbonio’n eglur y cwmpas sydd ganddo ar gyfer gwneud newidiadau i’r cynllun er mwyn sicrhau y mabwysiedir Cynllun cadarn; ac
  • Yn gwahodd yr ACLl i gyflwyno’r Cynllun neu’r diwygiadau i’r cynllun yn fras, a gwneud sylwadau ar ei gadernid, pe byddai’n dymuno gwneud hynny.

Clywed y cyfranogwyr

5.19    Bydd yr Arolygydd yn rheoli’r gwrandawiad. Bydd yn dechrau trwy wneud ychydig o sylwadau byr ar y materion sydd i dderbyn sylw, cyn cynnwys y cyfranogwyr yn y drafodaeth yn y fath fodd sy’n ei alluogi i gael y wybodaeth angenrheidiol i ddod i gasgliad ar y materion perthnasol. 

5.20    Ni ddylai cyfranogwyr siarad oni chânt eu gwahodd i wneud hynny gan yr Arolygydd. Fel arfer, gofynnir i fynychwyr nodi eu dymuniad i gyfranogi at y drafodaeth; mewn digwyddiad rhithwir, bydd y dull yn cael ei gadarnhau gan y Swyddog Rhaglen, ac mewn digwyddiad personol dylai cyfranogwyr osod eu platiau enw i sefyll ar ei ben. Bydd yr Arolygydd yn symud ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda pan fydd o’r farn yr ymdriniwyd yn foddhaol â’r mater neu’r cwestiwn.

5.21    Mae ymddangosiadau grŵp yn helpu i gynnal y ffocws ar agenda’r Arolygydd, yn hytrach nag ar sylwadau unigol sy’n ceisio newid i’r Cynllun. Mewn sesiwn sy’n ymwneud ag un mater unigol (e.e. darpariaeth tir ar gyfer cyflogaeth), fe allai fod yn bosibl cynnwys cyfranogwyr sydd â safbwyntiau am gadernid cyffredinol y polisi a’r rhai hynny sydd â phryderon am safleoedd penodol.

Rheoli niferoedd mawr o gyfranogwyr

5.22    Os yw niferoedd mawr o bobl (mwy nag 20) yn dymuno cael eu clywed mewn sesiwn benodol, gall Arolygydd ei chael hi’n anodd cyfeirio’r drafodaeth, arfer tegwch i bawb a chymryd nodiadau. Fel y cyfryw, mae angen bod yn bragmatig. Bydd yr arolygydd yn amcanu i leihau nifer y cyfranogwyr drwy:

  • Atgoffa’r partïon y rhoddir yr un pwys i sylwadau ysgrifenedig â thystiolaeth lafar, a gofyn iddynt ystyried p’un a oes angen iddynt fynychu;
  • Gofyn i’r rheiny sydd â safbwyntiau tebyg benodi un llefarydd; ac
  • Isrannu’r mater sydd i’w drafod.

5.23    Mewn rhai achosion, gallai fod yn angenrheidiol cynnal mwy nag un sesiwn ar yr un mater. Dylid annog cyfranogwyr mewn sesiynau ychwanegol i arsylwi’r holl wrandawiadau eraill yn y clwstwr testun hwnnw. Mae hyn er mwyn sicrhau nad yw’r Arolygydd yn clywed yr un dadleuon ddwywaith, ac fe allai arwain rhai cyfranogwyr hefyd i benderfynu yn erbyn mynychu’r sesiwn (sesiynau) gwrandawiad hwyrach. Dylai’r Swyddog Rhaglen fod wrth law i gynorthwyo cyfranogwyr pe baent yn newid eu meddyliau ynglŷn â chyfranogi.

5.24    Lle ceir sesiynau mawr, dwys, gall fod angen cymorth cofnodwr nodiadau ar Arolygwyr. Fe allent gael eu cynorthwyo felly gan Arolygydd Cynorthwyol neu swyddog cynllunio PCAC . Unig ddiben nodiadau yw bod yn gymorth cof i’r Arolygydd, ac nid ydynt yn ddogfennau archwiliad.

Newidiadau Materion sy’n Codi a Phwyntiau Gweithredu

5.25    Dylai newidiadau ar ôl cyflwyno gael eu hysgogi gan yr Arolygydd mewn ymateb i unrhyw faterion ynglŷn â chadernid sy’n codi yn ystod yr archwiliad. Cyfeirir at y rhain fel ‘Newidiadau Materion sy’n Codi’ fel arfer.

5.26    Lle mae Arolygydd yn amlygu’r angen posibl am i newid gael ei wneud i’r Cynllun, bydd hyn yn cael ei drafod yn ystod y gwrandawiad. Er na fydd yn bosibl penderfynu ar union ffurf geiriad yn ystod y gwrandawiad ei hun efallai, mae’n hanfodol fod gan y cynrychiolydd arweiniol ar gyfer yr ACLl yn y gwrandawiadau yr awdurdod angenrheidiol i gynnig newidiadau neu amlinellu camau gweithredu posibl a allai ddatrys unrhyw faterion a amlygir gan yr Arolygydd. 

5.27    Ar ddiwedd pob gwrandawiad, bydd yr Arolygydd yn cadarnhau gyda’r ACLl unrhyw gamau gweithredu y mae angen iddo eu cymryd mewn ymateb i faterion cadernid a godwyd yn ystod y drafodaeth (e.e. i ffurfio Newidiadau Materion sy’n Codi penodol i’r Cynllun neu egluro materion yn ymwneud â’r sylfaen dystiolaeth). Bydd rhestr o ‘Bwyntiau Gweithredu’ i’w cwblhau gan yr ACLl a / neu bartïon eraill yn cael ei chyhoeddi ar wefan yr archwiliad ar ôl y gwrandawiad perthnasol.

5.28    Bydd arweiniad yn ymwneud â ffurfio Newidiadau Materion sy’n Codi yn cael ei ddarparu gan yr Arolygydd yn ystod yr archwiliad.

Newidiadau gan Arolygwyr

5.29    Fel eithriad, gall Arolygydd ganfod fod angen gwneud newid i’r Cynllun am resymau cadernid nad yw’r ACLl yn barod i’w gynnig fel Newid Materion sy’n Codi. Yn y cyfryw achosion, bydd yr Arolygydd yn ceisio egluro natur unrhyw ‘Newid gan Arolygydd’ (IC) posibl, a’r rhesymau dros pam mae o’r farn fod y newid yn angenrheidiol, mewn sesiwn gwrandawiad. Gall yr Arolygydd ddosbarthu nodyn yn y gwrandawiad yn nodi natur benodol y Newid arfaethedig gan Arolygydd, a/neu ysgrifennu at yr ACLl neu bartïon eraill yn dilyn y gwrandawiad i gadarnhau hyn. Lle byddai’n cynorthwyo proses yr archwiliad, gall yr Arolygydd wahodd sylwadau ysgrifenedig gan rai partïon hefyd ar Newid arfaethedig gan Arolygydd.

5.30    Gan fod y Cynllun yn eiddo i’r ACLl, bydd Arolygwyr yn ceisio osgoi cynnig neu wneud Newidiadau gan Arolygwyr fel arfer. Caiff ACLlau eu hannog, felly, i fabwysiadu ymagwedd hyblyg a phragmatig at ffurfio eu Newidiadau Materion sy’n Codi eu hunain lle mae ystyriaeth cadernid yn cael ei hamlygu gan Arolygydd. Yn y pen draw, fodd bynnag, mae’n rhaid i’r Arolygydd wneud argymhellion rhwymol, a bydd yn argymell Newidiadau gan Arolygwyr felly lle mae’r rhain yn angenrheidiol i gyflawni Cynllun cadarn.
Dod â’r sesiynau gwrandawiad a drefnwyd i ben

5.31    Yn y sesiwn gwrandawiad olaf a drefnwyd, bydd yr Arolygydd yn nodi dyddiad disgwyliedig ar gyfer cyflwyno’r adroddiad i’r ACLl ar gyfer ‘gwirio ffeithiau’. Caiff y dyddiad ei gadarnhau yn ysgrifenedig i’r ACLl gan PCAC.

5.32    Yn y sesiwn gwrandawiad cloi, bydd yr Arolygydd yn gwirio i sicrhau bod yr holl ‘bwyntiau gweithredu’ dynodedig wedi’u cwblhau neu eu bod yn mynd rhagddynt yn dda. Hefyd, dylai atodlen ddrafft o Newidiadau Materion sy’n Codi y mae’r ACLl yn cynnig eu gwneud i’r Cynllun a gyflwynwyd neu a ddiwygiwyd, fod ar gael i’w thrafod. Dylai hon nodi rhif y dudalen, cyfeiriadau polisi / dyraniad a / neu baragraff y cynigir eu diwygio; a rhaid iddi ddangos unrhyw ddileadau neu fewnosodiadau wedi’u croesi allan/ wedi’u hamlygu’n fras.

5.33    Os yw’r Arolygydd o’r farn fod rhai neu’r cyfan o’r Newidiadau Materion sy’n Codi yn angenrheidiol i wneud y cynllun yn gadarn, gofynnir i’r ACLl gyflawni gwaith angenrheidiol Asesiad Cynaliadwyedd ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a chynnal ymgynghoriad ar yr atodlen Newidiadau Materion sy’n Codi am gyfod o 6 wythnos. Hefyd, gellid gofyn i’r ACLl i ymgynghori ar yr un pryd ar Newidiadau gan Arolygwyr nad ydynt wedi’u cynnig gan yr ACLl. Mae’n rhaid i’r ACLl allu cwblhau’r gwaith hwn heb unrhyw oedi gormodol i’r archwiliad. Gall yr Arolygydd ddewis atal yr archwiliad dros dro tra bod yr ACLl yn ymgymryd â’r gwaith hwn (gweler Pennod 7). 

5.34    Gall problem ymarferol godi os caiff y Swyddog Rhaglen ei ryddhau o’i swydd ar ddiwedd y gwrandawiadau gan na fydd cyfrwng cyfathrebu uniongyrchol ar gael â’r Arolygydd. Mae’n rhaid i ACLlau gadw’r Swyddog Rhaglen yn ei swydd felly, ar sail ran-amser o leiaf, hyd nes y darperir adroddiad gwirio ffeithiau’r Arolygydd. Os yw’n debygol na fydd y Swyddog Rhaglen ar gael am gyfnod estynedig, mae’n rhaid i’r ACLl sicrhau y bydd swyddog ar gael i ymdrin â gohebiaeth a darparu pwynt cyswllt. Mae’n rhaid rhoi gwybod i PCAC os bydd unrhyw broblemau’n codi mewn perthynas â’r Swyddog Rhaglen.

Deunydd pellach a sesiynau gwrandawiad ychwanegol

5.35    Gallai fod achlysuron lle mae Arolygydd yn amlygu diffyg yn hwyr ym mhroses yr archwiliad, neu fod rhyw newid sylweddol a allai effeithio ar y cynllun (e.e. mae polisi cenedlaethol wedi’i newid). Yn y cyfryw amgylchiadau, gall yr Arolygydd geisio datganiad ysgrifenedig ychwanegol gan rai cyfranogwyr. Fodd bynnag, bydd Arolygwyr ond yn gofyn am wybodaeth ychwanegol lle mae’n ymwneud â chadernid neu gydymffurfiaeth weithdrefnol y cynllun. Ni dderbynnir deunydd nas gofynnwyd amdani a gyflwynir ar ôl y sesiwn gwrandawiad olaf. 

5.36    Gan y bydd yr archwiliad yn dal i fod ar agor tra bod yr Arolygydd yn ysgrifennu ei adroddiad, fe allai gynnal sesiynau ychwanegol yn ystod y cyfnod adrodd. Dim ond os yw’n angenrheidiol y gweithredir yr opsiwn hwn, e.e. lle nad yw mater sylfaenol yn ymwneud â chadernid wedi’i ddatrys.

Adran 6. Yr adroddiad

Egwyddorion allweddol ar gyfer adrodd

6.1    Wrth ddrafftio’r adroddiad, bydd yr Arolygydd yn canolbwyntio ar:

  • lunio casgliadau eglur, a gefnogir gan farnau rhesymegol, ynglŷn â gofynion cydymffurfio â Deddf a Rheoliadau 2004 a bodloni’r gofyniad cyfreithiol ynghylch cadernid; ac
  • amlinellu (lle y bo’n briodol) argymhellion rhwymol manwl gywir ynghylch unrhyw newidiadau i’r polisïau, testun ategol arall, a / neu’r Map Cynigion sy’n ofynnol i oresgyn unrhyw agwedd ar ddiffyg cadernid y gellir ei chywiro a amlygwyd gan yr Arolygydd.

6.2    Bydd yr Arolygydd yn dechrau ar y gynsail y dylai’r adroddiad fod mor fyr ag y bo modd, gan sicrhau ei fod yn cynnwys rhesymeg eglur i gyfiawnhau’r casgliadau. Gan nad yw’r Arolygydd yn ymdrin â gwrthwynebiadau, ni fydd adroddiadau’n crynhoi achosion partïon unigol, byddant yn osgoi cyfeirio’n uniongyrchol at sylwadau penodol cyn belled ag y bo’n bosibl, ac ni fyddant yn disgrifio trafodaethau yn y sesiynau gwrandawiad. Bydd yr adroddiad yn esbonio pam mae’r Arolygydd, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth ac ar sail ei farn a’i arbenigedd proffesiynol, wedi llunio barn ynglŷn â sut mae’r cynllun yn bodloni’r gofynion statudol ar gyfer ei baratoi a’r profion cadernid.

Strwythur yr adroddiad

6.3    Isrennir yr adroddiad i’r adrannau allweddol a ganlyn:

  • Crynodeb, geirfa a chyflwyniad, gan gynnwys esboniad cryno o strwythur yr adroddiad. 
  • Gofynion gweithdrefnol – crynhoi’r broses paratoi cynllun a ph’un a yw wedi bodloni gofynion Deddf a Rheoliadau 2004. 
  • Penodau sy’n seiliedig ar destunau sy’n nodi’r prif faterion ac ystyriaethau, gan amlinellu rhesymeg a chasgliadau’r Arolygydd. 
  • Casgliad ynghylch p’un a yw’r cynllun (naill ai fel y’i cyflwynwyd neu fel y’i addaswyd gan ddiwygiadau i’r cynllun) yn gadarn gyda newidiadau argymelledig neu hebddynt; neu a yw heb fod yn gadarn yn sylfaenol.

6.4    Os canfyddir nad yw’r cynllun yn gadarn, isrennir yr adroddiad er mwyn (a) ymdrin â’r holl faterion ac ystyriaethau a arweiniodd at gasgliad o ddiffyg cadernid na ellir ei oresgyn gan yr Arolygydd, a (b) ymdrin â materion ac ystyriaethau eraill a fu’n ddadleuol yn yr archwiliad ond nad oeddent yn gyfystyr â diffyg cadernid neu y gellid eu hunioni. 

6.5    Lle gwnaed newidiadau â ffocws i’r cynllun cyn ei gyflwyno, bydd yr Arolygydd yn egluro statws y rhain yn gynnar yn yr adroddiad.

Newidiadau a argymhellir gan yr Arolygydd

6.6    Os canfyddir bod Cynllun yn gadarn yn amodol ar newidiadau, bydd adroddiad yr Arolygydd yn nodi argymhellion rhwymol. Gallai argymhellion gynnwys ailddrafftio testun, hepgor polisi neu ddarn o destun (neu gynnwys un newydd), neu newidiadau i’r Map Cynigion, ar yr amod bod yr hyn sy’n weddill yn gynllun cadarn o’i ddarllen fel cyfanwaith.

6.7    Bydd yr Arolygydd yn ystyried y graddau y mae unrhyw Newidiadau Materion sy’n Codi (MAC) a gynigir gan yr ACLl yn angenrheidiol er mwyn mynd i’r afael â materion cadernid a godwyd yn ystod yr archwiliad. Lle daw’r Arolygydd i’r casgliad bod rhai o’r Newidiadau Materion sy’n Codi, neu bob un ohonynt, yn angenrheidiol er mwyn canfod bod y cynllun yn gadarn, caiff yr atodlen Newidiadau Materion sy’n Codi ei hatodi i’r adroddiad. Os bydd yr Arolygydd yn dod i’r casgliad bod angen newidiadau ychwanegol er mwyn sicrhau cadernid, caiff y rhain eu nodi mewn atodiad ar wahân o ‘Newidiadau Arolygydd’ cymeradwy. Caiff unrhyw newidiadau i’r Cynllun a bennwyd gan yr Arolygydd er mwyn ei wneud yn gadarn (boed yn Newidiadau Materion sy’n Codi neu’n Newidiadau Arolygydd) eu nodi yn yr adroddiad. Gan fod yr argymhellion yn rhwymol, mae’n rhaid pennu union eiriad unrhyw newid yn yr atodiadau i’r adroddiad.

6.8    Gellir ond gwneud newidiadau rhwymol os yw’r Arolygydd yn hyderus eu bod wedi’u seilio ar dystiolaeth ac na fyddai’r Cynllun wedi’i newid yn agored i’w herio ar y sail na ddilynwyd y gweithdrefnau priodol. Bydd yn ofynnol i’r Arolygydd farnu’n ofalus gan ystyried amgylchiadau’r achos o ran a fu unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus ar ôl y gwrandawiad, proses Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig neu Arfarniad Integredig, Asesiad Amgylcheddol Strategol neu Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn ymwneud ag unrhyw Newidiadau Materion sy’n Codi neu Newidiadau Arolygydd yn ddigonol, a’i fod wedi osgoi niweidio unrhyw bartïon yn annheg neu danseilio egwyddorion y broses llunio cynllun.

6.9    Mae’n bwysig cofio mai cynllun yr ACLl yw’r Cynllun. Er y bydd yr Arolygydd yn argymell newidiadau a fyddai’n gwneud cynllun yn effeithiol, ni all ‘wella’ cynllun os yw eisoes yn gadarn. O ran pob newid arfaethedig, bydd Arolygwyr yn gofyn i’w hunain a fyddai diffyg cadernid yn y cynllun pe na bai’n cael ei wneud. Os ‘Na fyddai’ yw’r ateb, ni fydd unrhyw newid yn cael ei argymell. 

6.10    O ganlyniad, ni chyfeirir yn adroddiad yr Arolygydd at unrhyw fân newidiadau a gynigir gan yr ACLl nad ydynt yn effeithio ar gadernid y cynllun, hyd yn oed os yw’r ACLl wedi cyfeirio at y rhain fel Newidiadau Materion sy’n Codi.  Fodd bynnag, gallai ACLlau ddewis gwneud newidiadau canlyniadol i’r Cynllun er mwyn dileu unrhyw anghysondebau yn dilyn newidiadau argymelledig Arolygwyr.

Cynlluniau nad ydynt yn Gadarn

6.11    Mae casgliad ar ddiwedd proses yr archwiliad nad yw cynllun yn gadarn yn cynnwys goblygiadau pwysig o ran adnoddau, yn nhermau’r amser a dreuliwyd gan yr Arolygydd a’r buddsoddiad o ran amser ac ymrwymiad gan yr ACLl a rhanddeiliaid eraill. Mae PCAC yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod problemau sylfaenol yn cael eu hamlygu’n gynnar. Diben gwaith adolygu cynnar, defnyddio cyfarfodydd archwiliadol a threfniadau targedig atal dros dro yw lleihau’r tebygolrwydd y bydd hynny’n digwydd. 

Yr adroddiad ‘gwirio ffeithiau’

6.12    Bydd yr adroddiad gwirio ffeithiau’n cael ei anfon at yr ACLl drwy’r e-bost, ynghyd â llythyr eglurhaol. Bydd hwn yn crynhoi’r cyfarfod cyn gwrandawiad a sesiynau’r gwrandawiad a gynhaliwyd ar ddyddiadau penodol, ac yn cadarnhau bod gofynion archwiliad o dan A64(5) Deddf 2004 wedi’u bodloni. Rhoddir y casgliadau cyffredinol ynglŷn â chadernid. 

6.13    Anfonir copi o’r adroddiad at Lywodraeth Cymru. Mae Adrannau 65 a 67(4) Deddf 2004 yn amodi y caiff Llywodraeth Cymru ystyried ymyrryd trwy ‘gyfarwyddyd’ cyn mabwysiadu lle yr ystyrir bod argymhellion yr adroddiad rhwymol yn gwrthdaro â’r polisi cenedlaethol. 

6.14    Wrth ymateb i’r adroddiad gwirio ffeithiau, ni chaiff ACLlau godi amheuon ynglŷn â chasgliadau’r Arolygydd, ond cânt geisio eglurhad ynglŷn ag unrhyw gasgliadau yr ystyrir eu bod yn aneglur. Dylai ACLlau gwblhau’r gwiriad ffeithiau o fewn 2 wythnos o dderbyn yr adroddiad gwirio ffeithiau (neu 1 wythnos ar gyfer adroddiadau byrrach sy’n ymwneud â diwygiadau rhannol i’r cynllun). 

6.15    Er yr ystyrir mai’r adroddiad gwirio ffeithiau yw’r adroddiad terfynol i bob pwrpas, ni ddylai ACLlau ei gyhoeddi hyd nes bod y broses gwirio ffeithiau wedi’i chwblhau a’r adroddiad terfynol wedi’i gyhoeddi gan PCAC.

6.16    Mae ymdrechion blaenorol i ddarparu’r adroddiad gwirio ffeithiau yn ddwyieithog wedi peri dryswch a chymryd llawer o amser i’r holl bartïon. Yn lle hynny, bydd PCAC yn trefnu i gyfieithu’r adroddiad ar ôl i’r ymarferiad gwirio ffeithiau gael ei gwblhau gan yr ACLl.

Yr adroddiad terfynol

6.17    Pan fydd y gwiriad ffeithiau wedi’i gwblhau a’r Arolygydd wedi ymateb i unrhyw bwyntiau a godwyd, bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyfieithu. Bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r adroddiad terfynol yn cael eu cyflwyno i’r ACLl ar ffurf electronig wedyn. 

6.18    Ni fydd PCAC yn cyhoeddi’r adroddiad. Fe’i cynhyrchir ar gyfer yr ACLl, ac mae’n ofynnol iddo ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n ymarferol rhesymol ar ôl iddo ei dderbyn (Rheoliad 24). Yn yr un modd, ni fydd PCAC yn rhoi gwybod am ganlyniad archwiliad cynllun a gwblhawyd hyd nes bod yr adroddiad wedi’i gyhoeddi gan yr ACLl. 

6.19    Anfonebir ACLlau am yr archwiliad yn unol â’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) y cytunwyd arno rhwng PCAC a’r ACLl. Caiff ACLlau eu hanfonebu’n fisol fel arfer, oni ofynnir fel arall wrth roi’r wedd derfynol ar y CLG. Amlinellir y drefn codi tâl bresennol yn Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru).

Adran 7. Gweithdrefnau eithriadol

Cyfarfodydd archwiliadol

7.1    Bydd yr angen am gyfarfod archwiliadol yn codi fel arfer oherwydd pryderon sylweddol ynglŷn â’r  materion a’r ystyriaethau allweddol a amlygwyd yn narlleniad cychwynnol yr Arolygydd o’r Cynllun, neu ddiwygiadau arfaethedig i’r cynllun. Dim ond lle mae  ganddynt bryderon difrifol y bydd Arolygwyr yn galw cyfarfodydd archwiliadol. Felly, dylai ACLl drin cyfarfodydd archwiliadol mewn ffordd wahanol iawn i’r Cyfarfod 

Cyn-Gwrandawiad.

7.2    Bydd cyfarfod archwiliadol ond yn cael ei alw ar ôl i’r Arolygydd fethu datrys problemau tebygol yn ymwneud â chadernid a / neu gydymffurfiaeth weithdrefnol drwy ohebiaeth ysgrifenedig gyda’r ACLl. Er mai diben cyfarfod archwiliadol, yn gyffredinol, yw cynorthwyo i gynnal yr archwiliad (yn hytrach nag i’r Arolygydd lunio casgliadau terfynol ynglŷn â chadernid y cynllun), ceir rhywfaint o le i edrych ar gynnwys y Cynllun a gyflwynwyd neu a ddiwygiwyd, megis ystyried p’un a oes angen tystiolaeth ychwanegol a ph’un a ellir ei darparu mewn amser rhesymol ar fater penodol a godwyd yn y sylwadau.

7.3    Gan fod y cyfarfod archwiliadol yn fecanwaith cynnar i archwilio pryderon, ni fyddai Arolygydd yn cynnal un fel arfer ar ôl i’r sesiynau gwrandawiad ddechrau. Pe byddai pryderon difrifol yn dod i’r amlwg yn ystod sesiynau gwrandawiad, byddai’r Arolygydd yn trefnu sesiwn gwrandawiad ychwanegol i adolygu cynnydd a thrafod unrhyw bryderon. Gallai sesiwn gwrandawiad ychwanegol gael ei chynnal hefyd os yw’r Arolygydd, wrth adolygu ei gasgliadau ar ôl y sesiynau gwrandawiad, yn amlygu mater(ion) sy’n effeithio ar gadernid y mae angen ymchwilio ymhellach iddo/iddynt. 

Ymagwedd

7.4    Bydd yr Arolygydd yn esbonio pam y galwyd y cyfarfod archwiliadol a sut y bydd yn ystyried y wybodaeth a roddwyd yn ystod y cyfarfod. Y gynsail i’r cyfarfod fydd y ffaith bod gan yr Arolygydd rai pryderon ynglŷn â materion penodol, ond ni fydd wedi penderfynu nad yw’r cynllun yn gadarn ar y pwynt hwn. Bydd yr Arolygydd yn ceisio eglurhad ynghylch materion penodol er mwyn llywio’r ffordd ymlaen yn yr archwiliad.

Cyfranogwyr, rhybudd ac amseriad

7.5    Dylai cyfarfod archwiliadol gynnwys yr ACLl a Llywodraeth Cymru. Gallai’r Arolygydd hefyd wahodd unrhyw rai a gyflwynodd sylwadau sydd wedi gwneud pwyntiau pwysig am y materion sy’n achosi pryder. Mae’n rhaid i gyfarfodydd archwiliadol fod yn gyfarfodydd cyhoeddus, ac felly caiff unrhyw unigolyn fynychu ac arsylwi. Er budd tegwch, bydd yr Arolygydd yn sicrhau nad yw’r cyfarfod archwiliadol yn troi yn archwiliad o’r Cynllun, gan mai dim ond rhai partïon fydd wedi cael y cyfle i wneud sylwadau.

7.6    Trefnir y cyfarfod gan y Swyddog Rhaglen a rhoddir cyhoeddusrwydd iddo gan yr ACLl mewn modd sy’n gyson ag unrhyw ymrwymiad yng Nghynllun Cynnwys Cymunedau yr ACLl. Os oes modd, dylid rhoi 4 wythnos o rybudd o leiaf. Argymhellir hefyd fod yr ACLl yn hysbysebu’r cyfarfod ar ei wefan ar y cyfle cynharaf.

7.7    Bydd y llythyr gwahoddiad yn pwysleisio na fydd tystiolaeth ffurfiol yn cael ei chlywed ac y bydd yr Arolygydd yn penderfynu sut i symud ymlaen â’r archwiliad ar ôl y cyfarfod hwnnw.

Rôl yr Arolygydd

7.8    Bydd yr Arolygydd yn llunio agenda / rhestr o gwestiynau yn nodi’r prif bwyntiau trafod. Rhoddir cyhoeddusrwydd i hyn ymlaen llaw. 

7.9    Er na fydd tystiolaeth yn cael ei rhoi ar brawf, gall yr Arolygydd leisio pryderon ynghylch sylfaen dystiolaeth anghyflawn neu annigonol, a gallai archwilio gyda’r partïon pa ddeunydd ychwanegol sydd ei angen i lywio’r archwiliad yn briodol.

7.10    Mae’r cyfarfod archwiliadol yn rhoi cyfle i ymdrin â materion megis egluro’r:

  • sylwadau a dderbyniwyd gan randdeiliaid, gan gynnwys cyrff ymgynghori penodol; a
  • graddau/natur y dystiolaeth y mae’r ACLl wedi’i chyflwyno i’r archwiliad.

7.11    Gall hwn fod yn brofiad anodd i bawb sy’n gysylltiedig, yn enwedig yr ACLl, a fydd wedi ymroi llawer o’i amser i baratoi’r cynllun. Bydd yr Arolygydd yn arwain y cyfarfod ac yn sicrhau ei fod yn cyfleu unrhyw bryderon yn eglur mewn modd sensitif a phriodol. 

7.12    Bydd nodyn o’r cyfarfod yn cael ei baratoi gan yr Arolygydd, gan amlygu unrhyw waith pellach a fynnir gan yr ACLl i alluogi’r archwiliad fynd yn ei flaen. Bydd yr holl bapurau sy’n ymwneud â’r cyfarfod archwiliadol ar gael ar wefan yr archwiliad.

Canlyniadau posibl y cyfarfod archwiliadol

7.13    Mae canlyniadau posibl y cyfarfod fel a ganlyn:

(i)    Mae’r Arolygydd yn argymell bod y Cynllun yn cael ei dynnu’n ôl gan yr ACLl, ac nid yw’r argymhelliad hwnnw’n cael ei wrthod gan Lywodraeth Cymru.

(ii)    Mae’r materion yn cael eu datrys i fodlonrwydd yr Arolygydd ac mae’r archwiliad yn symud yn ei flaen. Rhoddir adroddiad ar y cyfarfod yn y Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad (os oes angen un) neu’r sesiwn gwrandawiad gyntaf a drefnwyd.

(iii)    Atal dros dro: gallai’r Arolygydd gytuno i atal yr archwiliad am gyfnod byr er mwyn i’r ACLl wneud mwy o waith (ymdrinnir yn fanwl ag atal dros dro ym mharagraffau 7.15-20). Gallai hyn olygu aildrefnu’r sesiynau gwrandawiad.

(iv)    Mae’r materion yn dal heb dderbyn sylw gan yr ACLl: Os yw pryderon yr Arolygydd yn parhau, bydd yn datgan hynny yn y Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad ac fe allai drefnu sesiwn gwrandawiad wedyn i ymdrin â’r mater(ion) allweddol sy’n achosi pryder yn gyntaf. Bydd y sesiwn gwrandawiad yn rhoi cyfle i gyflwyno sylwadau ar ba un a yw’r ACLl a chyfranogwyr yn cytuno â’r Arolygydd, a sut ddylid symud ymlaen â’r archwiliad. Yn seiliedig ar y sylwadau hynny, bydd yr Arolygydd yn penderfynu pa un ai parhau â’r archwiliad neu, os nad yw’r Cynllun a gyflwynwyd neu a ddiwygiwyd yn gadarn ar sail pwynt sylfaenol bwysig, argymell bod yr ACLl yn tynnu’r Cynllun yn ôl.

7.14    Mae cyfarfod archwiliadol yn elfen heb ei threfnu o’r amserlen ddangosol ar gyfer archwiliad, a bydd yn achosi oedi yn rhaglen yr archwiliad. Bydd y graddau’r oedi yn dibynnu ar ganlyniad y cyfarfod. Lle gellir datrys y materion yn hawdd, ni ddylai’r oedi fod yn fwy nag ychydig wythnosau. Fodd bynnag, pan fydd materion mwy cymhleth neu sylfaenol yn codi, gallai cyfnod atal dros dro am gyfnod hwy ddilyn.

Atal yr archwiliad dros dro

7.15    Mae rhoi mwy o bwyslais ar gamau rhagarweiniol yn egwyddor sylfaenol y broses gwneud cynlluniau. Mae atal archwiliad dros dro i alluogi ACLl ymgymryd â gwaith ychwanegol yn hwyr yn y broses yn groes i’r amcan hwn. Hefyd, gallai atal dros dro arwain at oedi a chost ychwanegol i gyfranogwyr. Os oes angen gwneud llawer iawn o waith / ymgynghori ychwanegol, mae’n annhebygol y gellir dod i’r casgliad yn sicr bod y Cynllun yn gadarn, ac fe allai’r Arolygydd argymell yn lle hynny bod y Cynllun neu ddiwygiadau i’r cynllun yn cael eu tynnu’n ôl.

7.16    Gall Arolygydd, fodd bynnag, ystyried atal archwiliad dros dro lle gallai alluogi mynd i’r afael yn foddhaol â mater penodol o fewn ffrâm amser rhesymol. Gallai achos o atal dros dro ddeillio o:

  • gwestiynau ysgrifenedig / gohebiaeth gynnar rhwng yr Arolygydd a’r ACLl;
  • cyfarfod archwiliadol;
  • pryderon a amlygwyd gan yr Arolygydd yn y Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad; neu
  • dystiolaeth a gyflwynwyd mewn sesiynau gwrandawiad.

7.17    Mae'n bosibl y gallai cyfnod atal dros dro gael ei ystyried yn dderbyniol gan Arolygydd lle mae gan y gwaith ychwanegol obaith rhesymol o gael ei gwblhau o fewn cyfnod o lai na 6 mis, ac mewn amgylchiadau lle:

  • Mae angen tystiolaeth ategol (i atgyfnerthu, yn hytrach nag ailystyried, tystiolaeth a gyflwynwyd eisoes a’r polisïau mewn cynllun)
  • Mae angen ymgynghori ychwanegol (er enghraifft, mewn perthynas ag unrhyw Newidiadau Materion sy’n Codi a gynigir gan yr ACLl), neu
  • Mae’n ymddangos y gallai ymgysylltu pellach rhwng yr ACLl a rhanddeiliaid allweddol ddatrys rhai meysydd dadlau sy’n atal yr archwiliad rhag mynd yn ei flaen.

7.18    Bydd yr Arolygydd yn ymgysylltu â’r ACLl i bennu cwmpas y gwaith sydd i’w wneud yn ystod y cyfnod atal dros dro. Bydd angen i’r ACLl amlinellu atodlen sy’n cwmpasu graddfa, natur ac amserlen y gwaith a nodwyd. Dylai ACLlau fod yn realistig wrth wneud eu hamcangyfrifon amseru.

7.19    Fel arfer, mae atal archwiliad dros dro yn dynodi na all yr Arolygydd weithio’n ystyrlon ar yr archwiliad CDLl. Nid yw cyfnodau o atal dros dro, felly, yn cyfrif tuag at y targed 11 mis ar gyfer cwblhau’r archwiliad, a hysbysir yr ACLl o’r dyddiad targed diwygiedig. Bydd yr Arolygydd yn gofyn am ddiweddariadau rheolaidd ar gynnydd yn ystod y cyfnod atal dros dro, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw lithro’n ôl. 

7.20    Pan fydd yr archwiliad yn ailddechrau, bydd angen i’r Arolygydd ystyried:

  • P’un a ddylai unrhyw unigolion â buddiant gael y cyfle i wneud sylwadau ynglŷn ag unrhyw newidiadau a gynigiwyd gan yr ACLl neu dystiolaeth newydd 
  • Os yw graddau newid cronnol i’r cynllun yn sylweddol, p’un a all yr archwiliad barhau, ac
  • Effaith unrhyw dystiolaeth newydd neu newidiadau i’r cynllun ar faterion gweithdrefnol a thystiolaeth (yn enwedig ar brosesau’r Arfarniad Cynaliadwyedd ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, a chydymffurfiaeth â chynlluniau lefel uwch).

Tynnu’n Ôl

7.21    O dan adran 66 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, ar ôl ei gyflwyno, gellir ond tynnu Cynllun yn ôl 

a)    os yw Arolygydd yn argymell y dylid ei dynnu’n ôl ac nid yw Llywodraeth Cymru yn gwrthod yr argymhelliad hwnnw, neu
b)    os yw Llywodraeth Cymru yn cyfarwyddo bod Cynllun yn cael ei dynnu’n ôl.

Seminarau technegol

7.22    Gallai’r Arolygydd geisio cynnal seminar lle gellir esbonio’r fethodoleg a sail y dystiolaeth gymhleth neu dechnegol a gyflwynir i’r archwiliad. Ni fydd y seminar yn rhoi prawf ar y dystiolaeth, ond fe’i cynhelir er mwyn sicrhau bod yr holl bartïon yn deall y dystiolaeth dechnegol yn well. Y bwriad yw arbed amser yn ystod y sesiynau gwrandawiad a rhoi dealltwriaeth eglur i’r holl bartïon o unrhyw fethodolegau a ddefnyddiwyd. Gall materion fel priodoldeb methodoleg gael eu harchwilio yn y sesiynau gwrandawiad.

7.23    Os oes angen cynnal seminar, gofynnir i’r partïon a gyflwynodd y dystiolaeth dechnegol baratoi deunydd esboniadol. Bydd hwn yn cael ei ddosbarthu i’r holl bartïon a wahoddwyd i fynychu’r sesiynau gwrandawiad lle bydd y deunydd hwnnw’n cael ei ystyried. Gall unrhyw barti fynychu seminar technegol, ond rhaid peidio â defnyddio’r sesiwn i brofi’r fethodoleg, y tybiaethau a ddefnyddiwyd na’r casgliadau a luniwyd, gan fod y rhain yn faterion a ddylai gael eu hystyried yn y sesiynau gwrandawiad. Dylai’r gweithdrefnau hysbysu ar gyfer sesiynau technegol fod yr un fath ag ar gyfer cyfarfodydd archwiliadol.

Atodiad 1: Gofynion gweithdrefnol a’r profion cadernid: cwestiynau allweddol/tystiolaeth

Mae Adran 64 (5) y Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol yn nodi dau ddiben archwiliad annibynnol. Y cyntaf yw sicrhau bod y Cynllun neu ddiwygiadau i’r cynllun wedi cael eu paratoi yn unol â gofynion gweithdrefnol; yr ail yw penderfynu p’un a yw’r cynllun yn gadarn.

Gofynion gweithdrefnol

Bydd PCAC yn sgrinio pob Cynllun a gyflwynir (neu ddiwygiadau arfaethedig i’r cynllun) ar gam cynnar er mwyn sicrhau’r canlynol:

  • Mae’r cynllun wedi’i baratoi yn unol â’r Cytundeb Darparu, gan gynnwys y Cynllun Cynnwys Cymunedau;
  • Mae’r cynllun a’i bolisïau wedi bod yn destun arfarniad cynaliadwyedd, gan gynnwys asesiad amgylcheddol strategol;
  • Mae Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd wedi’i gynnal; ac
  • Mae’r cynllun yn cydymffurfio’n gyffredinol â’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a / neu y Cynllun Datblygu Strategol (os yw’n gymwys).

Profion cadernid

Y tri ‘phrawf cadernid’ a fydd yn cael eu harchwilio gan yr Arolygydd yw: p’un a yw’r cynllun yn gweddu, a yw’r cynllun yn briodol a ph’un a fydd y cynllun yn cyflawni. Mae’r adran isod yn amlinellu’r cwestiynau allweddol a’r dystiolaeth ofynnol ar gyfer pob un o’r profion hyn. 

Prawf 1: A yw’r cynllun yn gweddu? 

Gallai ystod o ddogfennau fod yn berthnasol, yn enwedig y dogfennau polisi â goblygiadau defnydd tir a gynhyrchwyd gan sefydliadau eraill. Ni ddylai’r Cynllun restru’r holl strategaethau a dogfennau a ystyriwyd wrth ei baratoi; yn lle hynny, gellir cyfeirio at y rhain mewn papurau cefndir a ddefnyddir gan yr ACLl i ddangos y cydymffurfiwyd â’r profion cadernid. 

Dylai’r ACLl:

  • Esbonio sut mae polisïau strategol a dyraniadau yn gyson â’r polisi cenedlaethol, Cymru’r Dyfodol – Y Cynllun Cenedlaethol 2040, nodau llesiant a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru (os yw’n gymwys);
  • Osgoi ailadrodd polisïau rheoli datblygiad cenedlaethol yn wastraffus/diangen;
  • Esbonio sut mae’r cynllun yn rhoi ystyriaeth i gynlluniau/strategaethau eraill, er enghraifft, cyrff trafnidiaeth, cwmnïau cyfleustodau ac asiantaethau sy’n darparu gwasanaethau yn yr ardal, gan gynnwys eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol ac unrhyw ofynion ar gyfer tir a safleoedd;
  • Esbonio sut mae’r cynllun yn ymwneud â’r Cynllun Llesiant neu’r Cynllun Rheoli Parciau Cenedlaethol (os yw’n gymwys), gan nodi polisïau a chynigion sy’n cyflawni elfennau allweddol o’r strategaeth honno, sy’n ymwneud â defnyddio a datblygu tir; a
  • Dangos sut mae’r cynllun yn gyson â chynlluniau ACLlau cyfagos.

Prawf 2: A yw’r cynllun yn briodol? 

Er mwyn asesu’r prawf hwn, bydd angen darparu ystod o dystiolaeth sy’n benodol i’r ardal leol. Dylai’r dystiolaeth ategu strategaeth a pholisïau’r cynllun yn eglur. Mae’n rhaid i’r dystiolaeth leol fod yn gymesur, yn gadarn ac yn gredadwy, ac wedi’i pharatoi yn unol â’r polisi cynllunio cenedlaethol a chanllawiau ymarfer. 

Mae’r Adroddiad yr Arfarniad Cynaliadwyedd yn rhan sylfaenol o’r sylfaen dystiolaeth. Dylai’r adroddiad amlinellu’r opsiynau a’r broses a ddefnyddiwyd i’w hasesu’n wrthrychol. Dylai’r adroddiad esbonio sut mae’r ACLl wedi ystyried dewisiadau amgen rhesymol a chredadwy wrth baratoi’r cynllun. Ni ddisgwylir i ACLlau ymdrin â phob dewis amgen neu opsiwn posibl, ond disgwylir iddynt ystyried y rhai hynny a gynigir iddynt yn ystod y broses paratoi ac ymgysylltu. Lle y cafwyd cydbwysedd wrth wneud penderfyniadau rhwng dewisiadau amgen sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, dylai fod yn eglur sut y gwnaed y penderfyniadau hynny.

Gallai sylfaen dystiolaeth nodweddiadol ar gyfer Cynllun gynnwys y canlynol (enghreifftiau awgrymedig yn unig): 

  • Tystiolaeth weithdrefnol:
    • Adroddiad yr Arfarniad Cynaliadwyedd (gan ymgorffori Asesiad Amgylcheddol Strategol, asesiad o Safleoedd Ymgeisiol / Amgen, cysondeb â’r ddyletswydd llesiant, ac asesiad o’r Iaith Gymraeg)
    • Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd: dylai’r adroddiad amlinellu canlyniadau proses arfarnu’r Cynllun fel sy’n ofynnol gan y Rheoliadau Cynefinoedd ac fel yr eglurir yn Nodyn Cyngor Technegol 5, Cadwraeth Natur a Chynllunio (yn enwedig Atodiad 6)
    • Yr Adroddiad(au) Ymgynghori
    • Yr Adroddiad Adolygu (ar gyfer diwygio neu ddisodli’r cynllun)
    • Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb.
       
  • Tystiolaeth y strategaeth ofodol:
    • Hierarchaeth aneddiadau ac asesiad o ffiniau
    • Astudiaeth o’r Llain las / lletem las
    • Astudiaeth o gapasiti tai (neu drefol)
       
  • Tystiolaeth o anghenion defnydd tir:
    • Asesiad o Anghenion Tai
    • Asesiad o’r Farchnad Tai Leol (gan gynnwys safleoedd Sipsiwn a Theithwyr)
    • Taflwybr tai
    • Asesiad o Dir Cyflogaeth
    • Asesiad o anghenion/capasiti manwerthu
    • Asesiad/Cynllun Seilwaith
    • Asesiad(au) Trafnidiaeth
    • Asesiad o Fannau Agored a Hamdden.
       
  • Tystiolaeth o gapasiti amgylcheddol:
    • Asesiadau Strategol o Ganlyniadau Llifogydd
    • Tystiolaeth o ansawdd tir amaethyddol
    • Asesiad o fioamrywiaeth / cadwraeth natur
    • Asesiad o dirwedd
    • Arolygon treftadaeth/archaeolegol
    • Asesiad o ynni adnewyddadwy
    • Astudiaethau o fwynau / astudiaethau daearegol
    • Astudiaethau o wastraff.
       
  • Tystiolaeth o allu i gyflawni:
    • Astudiaeth hyfywedd (tai fforddiadwy, safleoedd strategol, ac ati)
    • Datganiadau hyrwyddwyr safleoedd neu ddarparwyr isadeiledd
    • Asesiadau risg a dadansoddiadau profi sensitifrwydd.

Prawf 3: A fydd y cynllun yn cyflawni? 

O ran dyraniadau safle, neu safleoedd amgen, gallai’r dystiolaeth ar gyflawni gynnwys adroddiadau sy’n benodol i safle neu wybodaeth a ddarperir gan gyrff darparu’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, darparwyr seilwaith neu hyrwyddwyr safle perthnasol ynglŷn ag ystyriaethau/materion yn ymwneud â’r gallu i gyflawni. Gall Datganiadau Tir Cyffredin gyda thirfeddianwyr, datblygwyr a darparwyr seilwaith fod yn arbennig o ddefnyddiol o ran dangos ymrwymiadau ar y cyd i gyflawni safleoedd penodol.

Dylai’r cynllun gael ei ategu gan dystiolaeth hyfywedd sy’n dangos y gellir cyflawni’r cynigion, a’r safleoedd dyranedig yn benodol, yn unol â pholisïau’r cynllun, ynghyd â gofynion eraill (e.e. taliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol, rheoliadau adeiladu a gofynion draenio cynaliadwy).

Gall tystiolaeth sy’n asesu risgiau i gyflawni fod yn ddefnyddiol o ran cyfiawnhau darpariaethau wrth gefn priodol (e.e. y ‘lwfans hyblygrwydd’ a gynhwyswyd yn y targed tai). Yn ogystal, gall cynnal profion sensitifrwydd o bolisïau neu gynigion y Cynllun nodi risgiau eraill o ran peidio â chyflawni. Er enghraifft, os yw’r strategaeth yn dibynnu ar adeiladu ffordd benodol, dylai’r ACLl gynnal asesiad o’r risg na fydd y darn hwnnw o seilwaith yn cael ei gyflawni, a chanlyniadau’r methiant hwn i’r cynllun yn ei gyfanrwydd.

Gall fod angen i bapurau cefndir ymhelaethu ar y mecanweithiau darparu a’r graddfeydd amser ar gyfer gweithredu sy’n ymwneud â’r targedau a’r cerrig milltir a gynhwysir yn fframwaith monitro’r Cynllun. Dylai fod yn eglur sut y caiff dangosyddion a thargedau eu mesur. Dylid nodi sbardunau ar gyfer adolygu’r cynllun yn eglur.

Yn olaf, er mwyn i gynllun fod yn effeithiol, mae’n rhaid i bolisïau rheoli datblygu ddarparu fframwaith cadarn, clir, cyson a rhesymegol ar gyfer ystyried ceisiadau cynllunio.

Atodiad 2: Cwestiynau rhagarweiniol

Mae’n rhaid i holl elfennau’r CDLl fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn, credadwy a chymesur. Byddai’n ddefnyddiol pe bai’r atebion i’r cwestiynau canlynol yn cynnwys cyfeiriadau at y rhannau perthnasol o’r sylfaen dystiolaeth ac unrhyw asesiadau eraill y dibynnwyd arnynt. 

  1. A yw’r CDLl wedi’i baratoi yn unol â gofynion:
    a)    Y Cytundeb Darparu cymeradwy, gan gynnwys y Cynllun Cynnwys Cymunedau?
    b)    Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015)? a
    c)    Y Ddeddf Cydraddoldeb (2010)?
  2. A yw’r CDLl wedi bod yn destun Arfarniad Cynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol cadarn? A yw holl ‘effeithiau amgylcheddol arwyddocaol tebygol’ y Cynllun, a’r holl ‘ddewisiadau amgen rhesymol’ wedi’u nodi, eu disgrifio a’u gwerthuso?
  3. A yw’r CDLl wedi bod yn destun Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd cadarn? Lle mae ‘effeithiau amgylcheddol arwyddocaol tebygol’ wedi’u nodi, a oes Asesiad Priodol digonol wedi’i gynnal?
  4. A fu unrhyw newidiadau sylweddol mewn polisi cenedlaethol neu amgylchiadau lleol ers i’r CDLl gael ei roi ar adnau? Os bu, beth yw goblygiadau’r newidiadau hyn i’r Cynllun? A oes angen mynd i’r afael â nhw trwy baratoi tystiolaeth newydd a/neu ddiwygiadau i’r Cynllun? Beth yw’r raddfa amser fwriadedig ar gyfer y gwaith hwn?
  5. A yw strategaeth y CDLl yn gyson/yn gydnaws/yn cydymffurfio â:
    a)    Pholisi cenedlaethol, canllawiau a Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040?
    b)    Y Nodau Llesiant?
    c)    Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru?
    ch)  Y Datganiad Ardal perthnasol?
    d)    Os mai CDLl ydyw, y cynllun datblygu strategol perthnasol (pa bryd y cafodd ei fabwysiadu)?
    dd)  Cynlluniau/strategaethau rhanbarthol a rhaglenni darparwyr cyfleustodau?
    e)    Cynlluniau/strategaethau awdurdodau cynllunio lleol cyfagos? a
    f)    Y Cynllun Llesiant perthnasol neu’r Cynllun Rheoli Parciau Cenedlaethol?
  6. A yw’r ACLl wedi manteisio ar bob cyfle ar gyfer cydweithio a chydweithredu ar baratoi’r CDLl a’i sylfaen dystiolaeth?
  7. Beth yw strategaeth ofodol y CDLl? Sut mae elfennau allweddol y strategaeth yn rhyngweithio? A yw’n ymagwedd briodol at gyflawni, rheoli a dosbarthu twf dros gyfnod y Cynllun?
  8. Sut mae hierarchaeth y CDLl wedi’i ddiffinio? A yw’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i ddiffinio’r hierarchaeth yn eglur a rhesymegol?
  9. Beth yw’r sail resymegol ar gyfer dosbarthu datblygiad newydd? A yw’r ymagwedd yn gyson â’r Canlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy?
  10. Beth oedd y fethodoleg a oedd yn sail i’r broses dewis safle? A yw’r safleoedd dyranedig canlyniadol:
    a)    Mewn lleoliadau cynaliadwy, ac yn rhydd rhag cyfyngiadau ffisegol yn gyffredinol, fel perchnogaeth tir, seilwaith, mynediad, cyflwr y ddaear, materion yn ymwneud â pherygl llifogydd, llygredd, tirwedd, bioamrywiaeth a dynodiadau treftadaeth? a
    b)    Yn ddeniadol i’r farchnad (y sector preifat a/neu’r sector cyhoeddus) ar gyfer datblygu, yn gallu cyflawni’r gofynion polisi a seilwaith a bennwyd yn y Cynllun, yn hyfyw, ac yn gallu cael ei gyflawni yn ystod cyfnod y Cynllun?
  11. A fydd y CDLl yn cael ei ategu gan ganllawiau cynllunio atodol? Os bydd, pa bynciau yr eir i’r afael â nhw? Beth yw’r graddfeydd amser ar gyfer mabwysiadu’r canllawiau? Sut fyddant yn cynorthwyo gyda chyflawni’r Cynllun?
  12. Beth yw strategaeth y CDLl ar gyfer darparu tai? A yw’n briodol i fodloni anghenion yr ardal dros gyfnod y Cynllun?
  13. Beth yw ffigur gofynion tai (HRF) y CDLl? Sut y cafodd ei gyfrifo? 
  14. Wrth ddiffinio’r ffigur gofynion tai, a roddwyd ystyriaeth ddigonol i amcanestyniadau diweddaraf aelwydydd a phoblogaeth? A roddwyd ystyriaeth i’r prif ddylanwadau lleol ar y galw am dai yn yr ardal (gan gynnwys cyfraddau ffurfio aelwydydd, lefelau mudo, a chymarebau trosi aelwydydd ac ati)?
  15. A ystyriwyd senarios twf tai amgen? Os do, pa senarios amgen oedden nhw, pam y cawsant eu diystyried, a pham y dewiswyd yr opsiwn a ffefrir?
  16. Beth yw ffigur y cyflenwad tir ar gyfer tai yn y CDLl, a sut y cafodd ei gyfrifo?
  17. A yw’r taflwybr tai a bennwyd yn y CDLl yn realistig? 
  18. Beth yw strategaeth y CDLl ar gyfer darparu tai fforddiadwy? A yw wedi’i lywio gan asesiad dibynadwy a diweddar o’r farchnad dai leol (LHMA)? Pa raddfa, deiliadaeth a math o angen am dai a nodwyd, a sut fydd yr angen hwn yn cael ei fodloni dros gyfnod y Cynllun? 
  19. Beth yw targed y CDLl ar gyfer tai fforddiadwy? Sut y cafodd ei gyfrifo? A yw’n hyrwyddo’r cyfleoedd ar gyfer cyflawni i’r eithaf?
  20. A fydd targed y CDLl ar gyfer tai fforddiadwy yn bodloni’r angen am lety rhent cymdeithasol a llety canolradd a amlygwyd yn yr LHMA? Os na fydd, sut fydd yr angen hwn yn cael ei fodloni dros gyfnod y Cynllun?
  21. Sut mae targed(au) tai fforddiadwy penodol i safle y CDLl wedi’i ddiffinio? Ym mha leoliadau daearyddol fydd y targed(au) yn gymwys? 
  22. Sut y diffiniwyd trothwyau safleoedd tai fforddiadwy? A ydynt wedi’u llywio gan dystiolaeth gadarn, gymesur a chredadwy?
  23. Sut fydd cyfraniadau oddi ar y safle yn cael eu defnyddio i ddarparu tai fforddiadwy? 
  24. Beth yw strategaeth y CDLl ar gyfer darparu llety i Sipsiwn a Theithwyr? A yw wedi’i llywio gan Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA)? A yw’r GTAA yn nodi angen am leiniau newydd (parhaol neu dramwy) dros gyfnod y Cynllun? Sut fydd yr angen yn cael ei fodloni? 
  25. Beth yw strategaeth y CDLl ar gyfer cyflogaeth? A yw wedi’i llywio gan adolygiad o dir cyflogaeth? A yw’n gyson â gofynion polisi cenedlaethol? Ac a yw wedi rhoi ystyriaeth i sbardunwyr allweddol ar gyfer newid yn y farchnad gyflogaeth?
  26. A yw’r CDLl yn dyrannu tir ar gyfer datblygiadau cyflogaeth newydd? Os ydyw, sut mae’r gofyniad wedi’i ddiffinio? A yw’r safleoedd a ddyrannwyd wedi bod yn destun chwiliad dilyniannol?
  27. A fydd y CDLl yn darparu gwarchodaeth ar gyfer safleoedd cyflogaeth presennol? Os bydd, pa warchodaeth fydd yn cael ei roi, a sut y dewiswyd y safleoedd?
  28. Beth yw strategaeth y CDLl ar gyfer datblygiadau manwerthu? A yw’n ystyried y twf a ragwelir mewn sectorau eraill, yn enwedig tai a chyflogaeth, dros gyfnod y Cynllun?
  29. Beth yw strategaeth/fframwaith polisi’r CDLl ar gyfer y meysydd canlynol: 
    a)    Y Gymraeg
    b)    Ansawdd yr aer
    c)    Bioamrywiaeth a rhwydweithiau ecolegol
    ch)  Yr amgylchedd hanesyddol 
    d)    Mwynau
    dd)  Rheoli gwastraff
    e)    Ynni adnewyddadwy a charbon isel
    f)    Trafnidiaeth, a
    ff)   Rhwymedigaethau cynllunio.
  30. A yw’r CDLl yn darparu fframwaith monitro a fydd yn galluogi’r ACLl i olrhain gweithredu’r strategaeth a pholisïau yn flynyddol, ac os oes angen, sbarduno adolygiad?

Atodiad 3: Rhestr termau

Mabwysiadu - mae’n nodi cwblhau proses llunio’r cynllun. Bydd y CDLl yn cael ei fabwysiadu’n ffurfiol gan yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol ddim hwyrach nag 8 wythnos ar ôl cyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd. Daw’r datblygiad yn weithredol adeg y cam mabwysiadu.

Adneuo / Cyfnod Adneuo - mae’n cyfeirio at y cyfnod ymgynghori 6 wythnos statudol a gynhaliwyd mewn perthynas â CDLl drafft.

Archwiliad - mae’n ceisio cynnal prawf trwyadl ar y CDLl a gyflwynwyd er mwyn sicrhau ei fod yn gadarn, ei fod yn addas i’r diben, yn briodol, ac y bydd yn cyflawni. Mae’n rhedeg am gyfnod o 11 mis o’r cam pan fydd y CDLl yn cael ei gyflwyno hyd nes yr anfonir Adroddiad yr Arolygydd at yr awdurdod cynllunio lleol.

Sylfaen Dystiolaeth - y wybodaeth a’r data a gasglwyd gan awdurdodau cynllunio lleol i gefnogi’r ymagwedd polisi a amlinellwyd yn y CDLl. Yn nodweddiadol, mae hyn yn cynnwys tystiolaeth mewn perthynas â nodweddion ffisegol, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ardal.

Newidiadau â Ffocws / Newidiadau Pellach â Ffocws - newidiadau gweadol neu eglurhaol a wnaed i’r CDLl ar ôl cwblhau cyfnod ymgynghori’r cynllun adnau a chyn bod y cynllun yn cael ei gyflwyno ar gyfer archwiliad. Mae Newidiadau â Ffocws, neu Newidiadau Pellach â Ffocws os oes eu hangen, yn destun cyfnod ymgynghori 6 wythnos.

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd - proses ffurfiol ar gyfer nodi a gwerthuso effeithiau polisïau a chynigion a geir mewn datblygiad ar safleoedd dynodedig a rhywogaethau a warchodir gan y Cyfarwyddebau Cynefinoedd.

Sesiynau Gwrandawiad - Fforwm lle gall pobl sydd wedi gwneud sylwadau priodol mewn perthynas â pholisïau a chynigion a geir mewn CDLl egluro eu safbwyntiau gerbron arolygydd penodedig.

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig – mae’n cyfuno gofynion elfennau statudol ac allweddol deddfwriaeth fel gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, y Ddeddf Cydraddoldeb, y Gymraeg, Asesiad o’r Effaith ar Iechyd, a Deddf yr Amgylchedd (adran 6) (lle bo’n berthnasol) mewn un arfarniad sengl. Bwriedir i’r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ddarparu asesiad mwy tryloyw, holistaidd, a chyflawn o oblygiadau cynaliadwyedd opsiynau twf, amcanion, polisïau a chynigion.

Newidiadau Materion sy’n Codi - newidiadau gweadol neu eglurhaol a wneir i’r cynlluniau datblygu sy’n deillio o drafodaethau a gynhaliwyd yn y sesiynau gwrandawiad. Mae’r Newidiadau Materion sy’n Codi yn destun cyfnod ymgynghori 6 wythnos.

Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad – fe’i cynhelir, yn gyffredinol, i egluro gofynion gweithdrefnol a gweinyddol y sesiynau gwrandawiad i’r ACLl, unigolion a gyflwynodd sylwadau a phartïon â buddiant.

Swyddog Rhaglen - swyddog sydd, dan gyfarwyddyd yr Arolygydd penodedig, yn rheoli elfennau gweinyddol yr archwiliad, gan gynnwys cysylltu gyda’r ACLl ac unigolion a gyflwynodd sylwadau, trefnu sesiynau gwrandawiad a rheoli gwefan yr archwiliad.

Sylw (A Wnaed yn Briodol) - sylw a wnaed, naill ai’n cefnogi neu’n gwrthwynebu’r polisïau neu’r cynigion a gynhwysir mewn CDLl sy’n destun ymgynghoriad cyhoeddus. Er mwyn iddynt fod yn sylwadau a wnaed yn briodol, rhaid i sylwadau gael eu derbyn yn ystod y cyfnod ymgynghori penodedig.

Rhai a gyflwynodd sylwadau – unigolion neu sefydliadau sydd wedi cyflwyno sylw a wnaed yn briodol. 

Datganiad Gwrandawiad – dogfen a gyflwynwyd gan yr ACLl neu unigolion sydd wedi gwneud sylwadau mewn ymateb i’r Materion, Ystyriaethau a Chwestiynau gan yr Arolygydd Penodedig.

Asesiad Amgylcheddol Strategol – gweithdrefn (a amlinellwyd yn Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni 2004) sy’n mynnu cynnal asesiad amgylcheddol ffurfiol o rai cynlluniau a rhaglenni, gan gynnwys CDLlau, sy’n debygol o gael effeithiau ar arwyddocaol ar yr amgylchedd. Yn gyffredinol, cynhelir y broses hon ar y cyd ag Arfarniad Cynaliadwyedd.

Dogfennau Cyflwyno - dogfennau a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru i’w harchwilio’n annibynnol gan arolygydd cynllunio penodedig.

Canllawiau Cynllunio Atodol – nodiadau cyfarwyddyd ychwanegol sy’n darparu cyngor manylach mewn perthynas â materion thematig a materion penodol i safle yn y polisïau a’r cynigion mewn CDLl.

Arfarniad Cynaliadwyedd – arfarniad o effeithiau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol cynllun a gynhelir trwy gydol proses paratoi’r cynllun er mwyn sicrhau bod yr holl benderfyniadau a wneir mewn perthynas â pholisïau a chynigion y cynllun yn gydnaws ag egwyddorion datblygu cynaliadwy.