Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r ddogfen hon yn darparu gwybodaeth allweddol am y lwfans DDaT ar gyfer ymgeiswyr allanol. Darperir rhagor o wybodaeth ar ôl penodiad.

Beth yw'r lwfans DDaT?

Mae'r lwfans DDaT yn ffordd o gydnabod rolau y mae galw mawr amdanynt ac sy'n anodd eu recriwtio a'u cadw (a elwir yn rolau Grŵp 1). Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am y rolau hynod dechnegol hyn o fewn ei gweithlu, a'r angen i fod yn gystadleuol wrth ddenu a chadw'r set sgiliau sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau sefydliadol a gweinidogol.

Mae'r lwfans DDaT yn lwfans proffesiynol sydd ynghlwm wrth swydd. Mae'n bensiynadwy, yn angontractiol ac yn ychwanegol at gyflog sylfaenol.

Mae gan y lwfans DDaT dair lefel hyfedredd: Datblygu, Hyfedr a Medrus Iawn. Mae gan bob lefel hyfedredd swm lwfans gwahanol ynghlwm.

Symiau lwfans DDaT

Mae'r tabl yn nodi'r symiau Lwfans DDaT a gynigir ar gyfer pob gradd a lefel hyfedredd

 TSEOHEOSEOG7G6
Datblygu£1,000£1,250£2,100£3,150£3,750£5,625
Hyfedr£1,500£1,875£3,150£4,725£5,625£8,438
Medrus Iawn£1,950£2,348£4,095£6,143£7,313£10,969

Lwfans DDaT i ymgeiswyr allanol

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn lefel hyfedredd 'Datblygu' y Lwfans DDaT ar ôl eu penodi

Ar ôl cwblhau'r cyfnod prawf yn llwyddiannus, bydd y gweithiwr newydd yn gymwys i optio i mewn i'r broses asesu ar gyfer lefel hyfedredd 'Hyfedr' neu ‘Medrus Iawn’ yn y cylch asesu nesaf