Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (LCA) a ddyfarnwyd yng Nghymru: Medi 2023 to Awst 2024 (canlyniadau pennawd)
Data yn cynnwys gwybodaeth fesul math o ganolfan dysgu, rhyw a gwerth yr LCA a ddyfarnwyd ar gyfer Medi 2023 to Awst 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Lwfans wythnosol yw’r lwfans cynhaliaeth addysg sy’n gysylltiedig â phresenoldeb boddhaol ac sy’n cael ei dalu bob pythefnos i fyfyrwyr sy’n gymwys rhwng 16 a 18 oed.
Mae’r data, sy’n seiliedig ar geisiadau a dderbyniwyd erbyn 31 Awst 2024, yn gywir ar Medi 2024.
Prif bwyntiau
- Mae nifer y ceisiadau a’r nifer a gymeradwywyd wedi cynyddu eleni ar ôl tuedd i lawr ers y flwyddyn academaidd 2010/11.
- Yn 2023/24, roedd 16,355 (86%) o’r ceisiadau a dderbyniwyd yn llwyddiannus, gwrthodwyd 1,850 (10%) ac roedd 910 cais (5%) yn anghyflawn.
- O’r ceisiadau llwyddiannus, roedd 8,620 (53%) gan hawlwyr blwyddyn gyntaf.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Dhilia Chiwara
E-bost: addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099