Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi mabwysiadu Polisi Dosbarthiadau Diogelwch 07/23 Llywodraeth y DU i’w weithredu ar unwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Polisi Dosbarthiadau Diogelwch 07/23 Llywodraeth y DU

Cafodd Polisi Dosbarthiadau Diogelwch y Llywodraeth (GSCP) ei ddiweddaru er mwyn mynd i'r afael â bylchau’r polisi blaenorol. Mae'r polisi yn berthnasol i unrhyw wybodaeth neu ddata sy'n cael ei greu, ei brosesu, ei storio neu ei reoli fel rhan o gontract gan y llywodraeth, gan gynnwys contractau Llywodraeth Cymru fel corff Llywodraeth Ganolog.

Mae'r GSCP yn defnyddio tri dosbarth:

  • Swyddogol
  • Cyfrinachol
  • Cyfrinachol iawn

Mae pob dosbarth â set o ymddygiadau a argymhellir yn ogystal â set o reolaethau amddiffynnol. Mae'r rhain yn gymesur â phroffil bygythiad y dosbarth dan sylw ac effaith bosibl unrhyw fygythiad, colled ddamweiniol neu ddatgeliad anghywir o’r wybodaeth a gedwir o fewn y dosbarth hwnnw.

Dylai cynnwys y PPN fod wedi’i weithredu erbyn Mehefin 2024. Mae'r cyfnod gweithredu 12 mis hwn yn caniatáu digon o amser i integreiddio gofynion y polisi dosbarthiadau diwygiedig o fewn gweithgareddau masnachol.

Rhaid i sefydliadau sydd o fewn y cwmpas sicrhau bod rheolaethau diogelwch amddiffynnol priodol ar waith ar gyfer contractau newydd a phresennol, yn unol â'r Polisi diwygiedig. Mae cyfres lawn o ddogfennau cyfarwyddyd ar gael ar GOV.UK, gyda chanllawiau penodol ar gyfer cyflenwyr a thimau masnachol. Mae modiwl e-ddysgu, Polisi Dosbarthiadau Diogelwch y Llywodraeth, ar gael ar wefan Dysgu’r Gwasanaeth Sifil.

Mân-ddiwygiadau yw’r rhan fwyaf o’r newidiadau i’r polisi, ac ni fyddant yn arwain at amrywio contractau presennol. Fodd bynnag, efallai bydd angen adolygu contractau penodol mewn rhai achosion.

Dylai Sefydliadau sydd o fewn y cwmpas hysbysu eu cyflenwyr presennol bod Polisi Dosbarthiadau Diogelwch y Llywodraeth wedi'i ddiwygio, gan nodi unrhyw newidiadau sydd eu hangen eu gwneud i’r contract.  

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch PPN 07/23, e-bostiwch: ICTProcurement@llyw.cymru