Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn dweud mewn araith bwysig heddiw (Dydd Iau 8 Medi) mai nawr yw’r amser i brifysgolion Cymru ailgysylltu â'r cymunedau sydd o'u cwmpas.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth gydnabod bod tasg debyg yn wynebu gwleidyddion a’r llywodraeth, bydd hi'n galw ar brifysgolion i ailgydio yn eu cenhadaeth ddinesig drwy wneud mwy i estyn llaw i bobl ledled Cymru yn sgil y bleidlais Brexit.

Bydd yr Ysgrifennydd Addysg hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod cyfle erbyn hyn i ddod yn fwy agored i'r byd.

Yn ei haraith ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd hi'n dweud:

“Ar lefel y Deyrnas Unedig, roedd ymgyrch y prifysgolion o blaid aros yn yr UE yn rhy hawdd i bobl ei ddiystyru fel un a oedd yn ymwneud â hunan-les, gan ganolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar incwm. Nid yw hyn yn esgusodi gwleidyddion a'r llywodraeth. Ond heb amheuaeth, mae dyletswydd ar brifysgolion i ystyried y bwlch rhwng campws a chymuned a ddaeth yn amlwg yn sgil y refferendwm. Mae'n fater o frys i ni ailgydio mewn cenhadaeth ddinesig erbyn hyn.

“Nid yw hyn yn esgusodi gwleidyddion a'r llywodraeth. Dim o gwbl. Fel y mae Anthony Barnett wedi dweud, mae dyletswydd arnom, ar draws ein pedair gwlad, i ailymgynnull fel democratiaeth ystyrlon sy’n gynhwysol yn gymdeithasol, yn gyfrifol yn nhermau rhyngwladol, yn deg yn nhermau economaidd ac yn ddyfeisgar o ran ei sefydliadau.

“Gallai'r buddugoliaethau a'n helpodd i lywio hanes tuag at gynnydd – ffeministiaeth, sicrhau mynediad i addysg, cwrteisi wrth drafod ac mewn perthynas ag eraill, hawliau sifil, datganoli hyd yn oed – fod yn llawer mwy bregus nag yr oeddem yn ei ddychmygu.

“Dangosodd y bleidlais fod pobl a chymunedau, pan fyddant o'r farn mai er lles eraill mae datblygiadau – yn hytrach nag er eu budd nhw, eu teuluoedd neu'r gymdeithas yn ei chyfanrwydd – yn teimlo nad oes ganddynt ddim byd i'w golli drwy sefyll yn erbyn y rhain.

“Ydyn ni'n hyderus nad yw'r cymunedau sy'n cynnal ein prifysgolion yn gweld y sefydliadau hyn fel rhai sy'n perthyn i bobl eraill? Pwy sydd biau prifysgolion Cymru, ac i ba raddau maent wedi'u gwreiddio yn eu hardaloedd a'u cenedl, ac yn gyfrifol iddynt? Sut y byddant yn helpu i fynd i'r afael â materion fel cydlyniant cymdeithasol, dinasyddiaeth weithredol a  thrafodaeth wybodus yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod?

“Y dasg erbyn hyn yw creu system addysg uwch yng Nghymru sydd ar gael yn hwylus ac yn berthnasol i'w chymunedau o fewn cenedl ddatganoledig, ddemocrataidd. A chyfuno hynny â bod yn agored i fyfyrwyr, ysgolheigion, cyfleoedd a datblygiadau deallusol yn Ewrop ac ar draws y Byd.

“Dangosodd y refferendwm fod ein syniadau o ran agosatrwydd a chysylltiadau rhwng cymunedau yn wannach efallai nag yr oeddem wedi dychmygu. Mae gan Brifysgolion Cymru, fel sefydliadau dinesig a rhyngwladol, gyfrifoldeb fel stiwardiaid y gymuned, y ddinas a'r wlad.

“Rwy’n gofyn i chi ailgydio yn y genhadaeth ddinesig honno a'i hailddyfeisio, er mwyn ei gwireddu a'i gwneud yn berthnasol i’r heriau cyfoes sydd yn ein hwynebu. Rwy’n hyderus yn eich dychymyg a'ch arloesedd i wynebu'r prawf, ac achub ar y cyfleoedd a'r cyfrifoldebau sydd o'ch blaenau.”

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Addysg ddatgelu hefyd ei bod wedi sefydlu Gweithgor Brexit ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru, sy'n cynnwys aelodau o'r sector cyfan, er mwyn cydlynu gwybodaeth a darparu cyngor ynghylch yr effaith a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil penderfyniad y DU i adael yr UE.