Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw yng nghynhadledd Procurex Cymru bydd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd dros Gyllid, yn sôn am bŵer caffael i lywio economi Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth annerch cynulleidfa o weithwyr proffesiynol bydd yn sôn am yr angen i gaffael yn fwy clyfar a chreadigol er mwyn cefnogi agendâu polisi atal a ffyniant y Llywodraeth a sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi a'i wario yn y ffordd orau posibl yn y dyfodol.

Bydd hefyd yn sôn am yr effaith y bydd ymadawiad y DU â'r UE yn ei chael ar gaffael ac economi Cymru yn ehangach.

Bydd yr Ysgrifennydd dros Gyllid yn dweud:

"Ar un adeg, proses yn unig oedd caffael, swyddogaeth ystafell gefn nad oedd yn cael ei gwerthfawrogi ond a oedd yn cyflawni gwerth am arian a llywodraethiant da o fewn sefydliadau.

“Er bod y materion hyn yr un mor bwysig ar erioed, rydym erbyn hyn yn deall y pŵer sydd gan caffael i gyflawni polisi yng Nghymru a chyfrannu at Gymru sy'n fwy llewyrchus.

"Mae'r math hwn o gaffael yn golygu bod angen datblygu sgiliau a chapasiti gweithwyr ym maes caffael yng Nghymru ymhellach. Bydd y rhaglen newydd a gyhoeddwyd gennyf ym mis Medi yn sicrhau ein bod yn rhoi mwy o broffil i'r proffesiwn a’i fod yn cael ei weld yn amlwg – sicrhau bod gennym y bobl orau sy'n deall y darllen cyflawn ac sy'n gwneud y penderfyniadau caffael gorau er lles Cymru.”

Un o'r materion mwyaf fydd yn profi pŵer caffael yw paratoadau Cymru ar gyfer Brexit. Mae ymadael â'r DU yn cyflwyno sawl her i economi, gwasanaethau cyhoeddus a phrosesau caffael Cymru, ond bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud wrth Procurex bod Brexit yn gyfle i adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes ar y gweill yng Nghymru.

Bydd yr Athro Drakeford yn dweud:

"Er bod paratoi ar gyfer Brexit yn amlwg yn flaenoriaeth, mae'n bwysig nad ydym yn colli'r cyfleoedd a allai ddeillio o ganlyniad i Brexit.

"Dyma gyfle i symleiddio rheoliadau, drwy ddatblygu fframwaith caffael; ysgogi economi Cymru gyda rhagor o fusnesau’n ennill rhagor o gontractau sector cyhoeddus Cymru a datganoli rhagor o gymwyseddau i Gymru."

A bydd yn ychwanegu:

"Mae'n rhaid i ystyried caffael fel injan cerbyd. Ni all y cerbyd symud heb injan. Ni all yr injan weithio heb danwydd. Ond, bydd injan bwerus sydd wedi'i mireinio’n drylwyr yn sicrhau bod y cerbyd yn gallu mynd ymhellach ac yn fwy effeithlon na cherbyd nad yw’n cael ei drin cystal.

"Er mwyn i ni sicrhau ffyniant i bawb yng Nghymru, mae angen pŵer caffael arnom o dan y boned."