Neidio i'r prif gynnwy

Hwb o £82 miliwn i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru diolch i Brosiect HELIX.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gydag ychydig ddyddiau i fynd tan i ddigwyddiad bwyd a diod rhyngwladol mwyaf Blas Cymru ddychwelyd, mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn datgan bod arloesi yn ganolog i lwyddiant y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos, bron i ddwy flynedd ers ei lansio yn nigwyddiad cyntaf Blas Cymru, bod menter o'r enw Prosiect HELIX, i hybu arloesi ac effeithlonrwydd yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru eisoes wedi cael effaith o dros £82 miliwn.

Gan ddefnyddio'r cyfleusterau gweithgynhyrchu diweddaraf, mae'r cynllun wedi darparu cymorth technegol a hyfforddiant pwrpasol, sydd wedi helpu i ddatblygu cannoedd o gynnyrch newydd, wedi helpu busnesau i arloesi, i fod yn fwy cynhyrchiol, i wella sgiliau a lleihau gwastraff yn y gadwyn gyflenwi.

Hanner ffordd drwy'r cynllun, mae Prosiect HELIX ar y llwybr iawn i gyrraedd ei dargedau'n gynnar.  Hyd yn hyn, mae'r cynllun wedi sicrhau manteision clir i'r sector gan gynnwys:

  • creu 225 o swyddi newydd a 1150 o swyddi eraill wedi'u diogelu
  • cynorthwyo 234 o fusnesau
  • sefydlu 129 o fusnesau newydd
  • mynediad i 203 o farchnadoedd newydd, a
  • datblygu 273 o gynnyrch newydd.

Caiff y cynllun arloesi ei ddarparu mewn partneriaeth â thri o ganolfannau bwyd yng Nghaerdydd, Ceredigion ac Ynys Môn, fel rhan o Arloesi Bwyd Cymru.

Daw y ffigurau diweddaraf wrth i Arloesi Bwyd Cymru ddod yn bartner rhwydwaith i'r Sefydliad Arloesi a Thechnoleg Bwyd Ewropeaidd (EIT), prif fenter arloesi bwyd Ewrop. Gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd hyn yn sefydlu presenoldeb arbennig i EIT Food yng Nghymru, gan gysylltu'r diwydiant yng Nghymru gyda chonsortiwm ehangach o brif gwmnïau yn y diwydiant, busnesau newydd, canolfannau ymchwil a phrifysgolion ledled Ewrop. 

Mae EIT Food yn anelu at gydweithio'n agos â defnyddwyr i ddatblygu gwybodaeth newydd a chynnyrch a gwasanaethau yn seiliedig ar dechnoleg, gan yn y pen draw ddarparu dull o fyw iachach a mwy cynaliadwy i bob dinesydd Ewropeaidd. Bydd bod yn aelod o EIT Food yn galluogi Arloesi Bwyd Cymru i fod yn flaenllaw ym maes technoleg ac ymchwil, ac i greu partneriaethau rhyngwladol i hybu'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru a thu hwnt.

Wythnos nesaf, bydd Blas Cymru hefyd yn dychwelyd i'r Celtic Manor i ddod â dros 100 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru at ei gilydd, a 200 o brynwyr - un rhan o dair ohonynt yn rhyngwladol.  Wrth i'r DU baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd y digwyddiad yn gyfle gwych i arddangos bwyd a diod gorau Cymru ac yn dod â phosibiliadau newydd o ran marchnadoedd byd-eang.

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:  

"Mae llwyddiant Prosiect HELIX yn dangos sut y gall gydweithio rhwng y byd academaidd, arbenigwyr o fewn y diwydiant a chynhyrchwyr ar lawr gwlad wneud gwahaniaeth mor fawr.

"Wedi'i gefnogi gan gyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig, mae'r cynllun eisoes yn cyflenwi ac yn hyrwyddo'r sector.  Hwb o £82 miliwn, creu swyddi newydd ac eraill wedi'u diogelu, cynnyrch newydd, lansio busnesau newydd, gweithlu mwy dawnus - mae popeth yn helpu i greu enw da Cymru yn y diwydiant bwyd a diod rhyngwladol.  

"Wrth inni baratoi ar gyfer yr heriau a ddaw gyda Brexit, mae arloesi yn sicrhau bod bwyd a diod yn gallu gwrthsefyll hyn ac yn chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant yng Nghymru.  Dwi felly wrth fy modd bod Arloesi Bwyd Cymru wedi dod yn aelod o'r Sefydliad Arloesi a Thechnoleg Bwyd Ewropeaidd (EIT). 

"I gefnogi hyn, bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn creu sylfaen newydd i gryfhau y cysylltiadau Ewropeaidd cydweithredol hollbwysig drwy EIT Food.  Bydd yn golygu ein bod yn flaenllaw ym maes yr ymchwil diweddaraf ac yn galluogi inni lunio partneriaethau newydd yn enwedig yn ystod yr amseroedd heriol hyn.  Mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn cryfhau ein partneriaethau gyda gwledydd a rhanbarthau ledled Ewrop, a bydd digwyddiad Blas Cymru yr wythnos nesaf yn gyfle perffaith i ddangos bod ein huchelgais i gydweithredu yn rhyngwladol yn gryfach nag erioed." 

Meddai Andrew Carlin, Cyfarwyddwr canolfan arloesi gogledd-orllewin Ewrop EIT Food: 

"Rydyn ni wrth ein boddau gweld Arloesi Bwyd Cymru yn ymuno â chymuned EIT Food. Maent yn rhan hanfodol o'n hymrwymiad i arloesi bwyd yn y rhanbarth a ledled Ewrop, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â hwy yn eu hymgyrch i ddatblygu dyfodol y sector bwyd yng Nghymru."

Ar ran Arloesi Bwyd Cymru, meddai yr Athro David Lloyd: 

"Yn ddiweddar, rydyn ni wedi canolbwyntio llawer ar ddarparu cymorth technegol a gweithredol i'r sector bwyd yng Nghymru sydd wedi arwain at dwf sylweddol i gwmnïau. Fodd bynnag, rydyn ni wedi bod yn datblygu mwy a mwy o gysylltiadau gyda sefydliadau a busnesau eraill ledled y byd, ac felly'n falch iawn o ddod yn bartneriaid gydag EIT Food. Bydd y bartneriaeth newydd hon yn gwneud mwy i alluogi'r ecosystem bwyd a diod yng Nghymru i gysylltu ar draws ffiniau rhyngwladol ac i elwa o'r arbenigedd technegol, gwyddonol a gweithredol o safon ryngwladol."