Neidio i'r prif gynnwy

Gwnaeth cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ymuno â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i lofnodi Penawdau Telerau a chytuno ar y saith rhaglen y bydd y Fargen yn eu cynnwys o 2020 ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn y Penawdau Telerau mae'r ddwy lywodraeth yn buddsoddi £240 miliwn yn y rhaglenni a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar filoedd o aelwydydd, busnesau a sefydliadau ledled yr ardal.

Os yw'n cael ei chyfuno â'r cyfraniadau gan bartneriaid yn y sector preifat, mae’r Fargen yn werth dros £1 biliwn i Ogledd Cymru.

Mae'r rhaglenni sy'n rhan o'r Fargen yn cynnwys prosiectau ar ynni carbon isel, gweithgynhyrchu uwch, diwydiannau ar y tir (amaethyddiaeth a thwristiaeth), tir ac eiddo, sgiliau a chyflogaeth, cysylltedd digidol a thrafnidiaeth strategol.

Dywedodd y Cyng. Dyfrig Siencyn, Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais ac Arweinydd Cyngor Sir Gwynedd:

"Drwy lofnodi'r Penawdau Telerau rydyn ni wedi dangos ein hymrwymiad i'r ardal.

"Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'n gilydd dros bobl a busnesau Gogledd Cymru, gyda'r nod o greu swyddi, rhoi hwb i'r economi a sicrhau Bargen Twf a fydd yn cael effaith gadarnhaol a pharhaol am flynyddoedd maith.

Ychwanegodd:

"Ein camau nesaf fydd dechrau gwaith ar y prosiectau â blaenoriaeth a cheisio cyllid gan y sector preifat mewn meysydd allweddol. Bydd y flwyddyn nesaf yn hanfodol wrth osod y sylfeini ar gyfer y dyfodol a sicrhau ymrwymiad sefydliadau a busnesau wrth ddatblygu'r rhaglenni hyn.

"Mae'r gwaith caled yn dechrau nawr, ac ar ran y Bwrdd Uchelgais hoffwn i ddiolch i'r llawer o gyrff yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus sydd wedi'n cefnogi ni, yn ogystal â rhanddeiliaid, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac ein cydweithwyr o fewn awdurdodau lleol.

Mae Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns a'r Cyng. Dyfrig Siencyn wedi llofnodi'r ddogfen.

Mae pob llywodraeth wedi ymrwymo i fuddsoddi £120 miliwn yn y Fargen, gyda gweddill y cyfalaf yn dod o'r sector preifat a phartneriaid eraill.

Dywedodd Eluned Morgan, a lofnododd y ddogfen ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae gan Fargen Twf y Gogledd y potensial i drawsnewid yr ardal. Mae llofnodi'r Penawdau Telerau hyn heddiw yn dangos ein hymrwymiad i'r Bwrdd Uchelgais a'n partneriaid rhanbarthol i weithio gyda'n gilydd dros bobl a busnesau Gogledd Cymru.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd:

"Mae'r llofnodi heddiw yn gam pwysig ar gyfer y Fargen drawsnewidiol hon, a byddwn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau'r fargen gywir ar gyfer Gogledd Cymru.

"Mae gennyn i’r un nodi i greu swyddi, rhoi hwb i'r economi a sicrhau Bargen Twf a fydd yn cael effaith gadarnhaol a pharhaus am flynyddoedd maith drwy greu Cymru fwy cyfartal, Cymru fwy ffyniannus  a Chymru wyrddach.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

"Mae Llywodraeth y DU yn gweithio i ddod â rhagor o fuddsoddi, twf a chyfleoedd swyddi i gymunedau ledled Cymru, ac mae'r llofnodi heddiw yn dangos cynnydd gwirioneddol wrth gyflawni'r amcanion hynny.

"Mae Bargen Twf y Gogledd yn gyfle enfawr a chyffrous i drawsnewid yr ardal a helpu i roi cydbwysedd yn ôl i economi Cymru. Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid i ddatblygu'r Fargen Twf a sicrhau ei bod yn cael ei chyflwyno dros bobl a busnesau Gogledd Cymru.

Dywedodd Gweinidog Pwerdy Gogledd Lloegr a Thwf Lleol, y Gwir Anrh Jake Berry AS:

“Bydd y cytundeb hwn yn sicrhau buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd sydd a’r potensial i greu swyddi coler werdd yn y sectorau niwclear a charbon isel, yn ogystal a rhoi hwb i dwristiaeth a busnesau eraill ledled Gogledd Cymru, Pwerdy Gogledd Lloegr a’r tu hwnt.

“Y cyfleoedd sy’n cael eu creu gan y fargen yw’r enghraifft diweddaraf o ymrwymiad y llywodraeth i sicrhau tegwch ledled y DU a grymuso pobl leol i adeiladu cymunedau ffyniannus a llewyrchus.

Mae'r Bwrdd Uchelgais wrthi'n sefydlu Swyddfa Raglenni a fydd yn cydlynu'r gwaith o gyflawni prosiectau. Bydd y swyddfa hon yn cael ei goruchwylio gan y Bwrdd Uchelgais – sy’n cynnwys chwe chyngor Gogledd Cymru, prifysgolion, colegau a'r sector preifat.

Am ragor o wybodaeth am Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru ewch i Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru neu dilynwch y sefydliad ar y cyfryngau cymdeithasol @northwaleseab