Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Cynghorwyr Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol – y cyfeirir atynt fel VAWDASV – eu hadroddiad blynyddol, gan roi sylwadau ar yr amcanion a osodwyd y llynedd ac a gyflawnwyd yn ystod 2019-20, a nodi'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cynnydd allweddol a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys:

  • Rhoi arfer gorau o ran dioddefwyr a goroeswyr ar waith mewn strategaethau lleol - mae dysgu ar y cyd   gan arbenigwyr a rhanddeiliaid ar draws Cymru gyfan a ledled y DU wedi bod yn amhrisiadwy
  • Rhoi blaenoriaeth i leisiau plant fel dioddefwyr a thystion camdriniaeth, a  gwneud eu hanghenion yn rhan annatod o bolisïau VAWDASV
  • Dysgu gwersi o adolygiadau o ddigwyddiadau angheuol drwy bartneriaeth â swyddogion VAWDASV traws-Lywodraethol
  • Gweithio gyda phartneriaid academaidd a gwasanaethau arbenigol i gynyddu'r ddealltwriaeth gyffredin o 'beth sy'n gweithio' wrth fynd i'r afael ag ymddygiad niweidiol y rhai sy'n cyflawni VAWDASV
  • Dod o hyd i ffyrdd newydd o greu cysylltiadau â goroeswyr VAWDASV na chyrhaeddwyd hyd yma
  • Mireinio’r dangosyddion cenedlaethol
  • Sicrhau’r cyfleoedd mwyaf posibl i ddarparwyr gwasanaethau'r trydydd sector gael cyllid, drwy weithio gyda'r Grŵp Cyllido Cynaliadwy
  • Darparwyd tystiolaeth lafar ddwywaith i'r pwyllgor craffu ar gyfer Bil Cam-drin Domestig San Steffan, gan dynnu sylw at waith VAWDASV  yng Nghymru
  • Cafodd ein gwaith partneriaeth gyda Grŵp Arweinyddiaeth Cymru Gyfan ar Drais, Priodasau Dan Orfod ac Anffurfio Organau Rhywiol Merched ei ymestyn

Yn eu hadroddiad, dywedodd y Cynghorwyr Cenedlaethol:

Mae'n deg dweud bod trais domestig a cham-drin rhywiol yn parhau i fod yn epidemig yn ein hoes, ac er gwaethaf y cynnydd a wnaethom, mae llawer o waith i’w wneud.

Credwn yn ddiffuant fod yr amcanion a bennwyd gennym y llynedd yn helpu i drawsnewid y sefyllfa mewn perthynas â VAWDASV yng Nghymru.

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda gwasanaethau arbenigol VAWDASV a phartneriaid allweddol yng Nghymru. Mae VAWDASV yn fusnes i bawb – mae angen clywed lleisiau dioddefwyr a goroeswyr yn uchel ac yn glir. Rydym yn erfyn arnoch i wrando.

Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip:

Rwy'n ddiolchgar iawn i'n Cynghorwyr Cenedlaethol gwych am yr arbenigedd a'r egni y maent yn dod â nhw i'w gwaith, ac am eu cefnogaeth barhaus.

Mae eu hadroddiad yn disgrifio cynnydd yn erbyn cyfres o amcanion heriol. Rwy'n falch ei fod yn cydnabod y camu breision y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd ac yn parhau i’w cymryd.

Fodd bynnag, mae'n gwbl atgas fod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dal i fodoli heddiw yn ein cymdeithas. Mae hyn yn bla gwirioneddol ar gymunedau, unigolion a theuluoedd cyfan.

Rwy'n falch bod Cymru'n arwain y ffordd gyda'n deddfwriaeth a'r gwaith hollbwysig y mae pobl a sefydliadau yn ei wneud ledled y wlad i ddod â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ben, i bawb.