Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r farchnad lafur yng Nghymru yn dal i berfformio’n gadarn iawn wrth i’n ffigurau diweithdra, sy’n syrthio, ragori ar weddill y DU am y chweched mis yn olynol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones, wrth wneud sylwadau ar yr Ystadegau’r Farchnad Lafur diweddaraf a gafodd eu cyhoeddi heddiw:

“Mae’r ffigurau calonogol heddiw yn dangos bod y farchnad lafur yng Nghymru yn dal i berfformio’n gadarn iawn wrth i’n ffigurau diweithdra, sy’n syrthio, ragori ar weddill y DU am y chweched mis yn olynol.  

“Mae cyflogaeth yng Nghymru yn cynyddu’n gyflymach na chyfartaledd y DU ac mae nawr wedi cyrraedd lefel uchel na welwyd erioed o’r blaen, gyda 34,000 yn fwy o bobl mewn gwaith erbyn hyn nag yn y 12 mis blaenorol. Mae’r cwymp sydyn hwn mewn diweithdra yng Nghymru wedi rhagori unwaith eto at bob ardal o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. 4.1% yw’r lefel diweithdra yma erbyn hyn, sef 2.3% yn is na’r flwyddyn flaenorol a 0.8% yn is na chyfartaledd y DU. Yn ogystal â hynny, mae lefelau anweithgarwch economaidd hefyd wedi syrthio yng Nghymru.

“Mae hyn yn newyddion gwych i economi Cymru, ond nid nawr yw’r amser inni orffwys ar ein rhwyfau. Byddwn ni’n dal i weithio’n galed i gefnogi busnesau a chreu’r amodau economaidd priodol i greu a diogelu swyddi cynaliadwy ym mhob cwr o Gymru. Rydyn ni’n dal i fod yn uchelgeisiol iawn dros Gymru a’i heconomi ac rydyn ni’n benderfynol o gyflawni ar ran pobl Cymru.”