Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Dair blynedd ers i Gymru ei gwneud hi'n anghyfreithlon i rieni gosbi eu plant yn gorfforol, mae adolygiad newydd yn dangos bod hynny'n amddiffyn plant ac yn hyrwyddo rhianta cadarnhaol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Daeth Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 i rym ym mis Mawrth 2022.

Mae adolygiad tystiolaeth a gyhoeddwyd heddiw yn datgelu cynnydd calonogol o ran ymwybyddiaeth dda, cefnogaeth gadarnhaol, a newid mewn agweddau.

Un llwyddiant sydd wedi bod yn allweddol yw'r cynllun cymorth rhianta ar gyfer datrysiadau y tu allan i'r llys, sy'n helpu rhieni i ddysgu technegau rhianta cadarnhaol yn hytrach nag wynebu erlyniad. Ers cyflwyno'r gyfraith mae tua 365 o deuluoedd wedi cael eu cyfeirio ar gyfer y cymorth hwn, mae 310 o rieni wedi cwblhau'r sesiynau, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn nodi canlyniadau cadarnhaol. Mae llai na phum achos wedi cael eu cyfeirio at ddibenion erlyn.

Mae hyn yn dangos bod y gyfraith yn canolbwyntio ar addysg ac atal, gan helpu teuluoedd yn hytrach na'u cosbi.

Canfu'r adolygiad hefyd fod ymwybyddiaeth gadarn o'r gyfraith ledled Cymru, gyda 95% o rieni yn dweud eu bod yn ymwybodol bod cosbi plentyn yn gorfforol yn anghyfreithlon, 87% o'r cyhoedd yn gwybod am y ddeddfwriaeth ac 87% o blant a phobl ifanc yn gwybod na chaiff eu rhieni eu cosbi'n gorfforol.

Mae agweddau'r cyhoedd hefyd yn newid, gyda'r mwyafrif o rieni (86%) yn mynegi eu bod yn gweld cosbi corfforol yn aneffeithiol.

Mae gweithwyr sy'n cefnogi plant a theuluoedd yn dweud eu bod yn fwy hyderus yn trafod disgyblaeth a hawliau plant gyda rhieni. Maent hefyd yn dweud bod y gyfraith wedi cael gwared ar ddryswch ynghylch cosbi corfforol, gan ei gwneud yn gliriach i weithwyr proffesiynol ac i rieni.

Er bod yr adolygiad yn dangos cynnydd cadarn, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi meysydd lle byddai gwaith pellach o fudd, gan gynnwys ymchwil ychwanegol a chefnogaeth i'r gweithlu.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

Mae'r adolygiad hwn yn dangos bod ein cyfraith nodedig yn gweithio ac yn gwneud cynnydd sylweddol o ran amddiffyn hawliau plant.

Drwy gefnogi teuluoedd yn hytrach na'u cosbi, rydyn ni'n helpu rhieni i ddatblygu perthynas gadarnhaol gyda'u plant.

Gyda 95% o rieni bellach yn gwybod bod cosbi corfforol yn anghyfreithlon, a'r rhan fwyaf yn ystyried hynny'n aneffeithiol, mae newid diwylliannol sylweddol wedi digwydd.

Rwy'n arbennig o falch bod ein dull gweithredu yn blaenoriaethu addysg a chymorth, gyda channoedd o deuluoedd yn elwa ar raglenni rhianta. Rydyn ni eisiau gweld Cymru lle mae pob plentyn yn ddiogel, yn cael ei werthfawrogi a'i barchu, ac mae'r gyfraith yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni hyn.