Neidio i'r prif gynnwy

Pa well gyfle i ddathlu’r Gymraeg mewn busnes nag ar Ddydd Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ymgysylltodd  mwy na 1,000 o fusnesau â’r Gymraeg yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun Cymraeg Byd Busnes – gwasanaeth rhad ac am ddim i fusnesau sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru – cadarnhaodd y Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol heddiw fod dros 200 o fusnesau wedi derbyn cymorth i ddatblygu cynlluniau penodol i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg. 

Nod y fenter yw cynyddu’r niferoedd o fusnesau preifat sy’n defnyddio’r Gymraeg, a thros amser, y cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Cymraeg yn lleol.  

Mae’r rhwydwaith genedlaethol o swyddogion busnes wedi eu lleoli o fewn y Mentrau Iaith ar draws Cymru, ac wedi gwreiddio yn eu cymunedau. Gan ymgysylltu â busnesau bach a chanolig eu maint, maent yn cynnig ystod eang o gymorth, o wella’r gwasanaeth Cymraeg sydd ar gael i gwsmeriaid o ddarparu nwyddau dwyieithog a chyngor ar recriwtio staff sy’n siarad Cymraeg.  Mae gwasanaeth Cyfieithu hefyd am ddim – ac fe wnaeth 140 o fusnesau fanteisio ar y gwasanaeth hwn yn ystod 12 mis cyntaf y gwaith.  

Un busnes sy'n manteisio ar Ddydd Santes Dwynwen fel cyfle masnachol yw siop No1 a High Street Deli yn y Drenewydd. Dywedodd Elizabeth Mary Evans, y perchennog: 

"Mae Dydd Santes Dwynwen yn arbennig i ni ac i'n siop am ei fod yn arbennig i'r Cymry. Rydym yn angerddol iawn am ein cynnyrch Cymraeg ac am y ffaith fod y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae Dydd Santes Dwynwen yn dod â mwy o fusnes i'r siop. Yr wythnos hon yn unig – sef wythnos Dydd Santes Dwynwen – mae tua 20% o'n cwsmeriaid wedi dod i mewn yn benodol i ofyn am gardiau a rhoddion ar gyfer Dydd Santes Dwynwen. Ac mae prosiect Cymraeg Byd Busnes yn ein helpu i integreiddio mwy o'r Gymraeg ac i hyrwyddo ein busnes."

Gyda'r cymorth hwn, mae busnesau poblogaidd fel 'Escape Rooms' yn dilyn ôl traed cwmnïau llwyddiannus eraill sy'n dyst i fanteision cofleidio'r iaith Gymraeg. Dywedodd Ellie Daniels, perchennog gêm Escape Rooms Casnewydd: 

"Rydyn ni'n credu bod yr iaith yn rhan bwysig o ddiwylliant Cymru ac rydym yn awyddus i hyrwyddo’r  defnydd bob dydd ohoni. Buon ni’n gweithio'n agos gyda swyddogion Cymraeg Byd Busnes, a oedd yn hynod gefnogol, i gynnig fersiwn Gymraeg o'n gêm wreiddiol, 'Torture Corp'.
"Mae hyn wedi creu llawer o ddiddordeb ychwanegol ac mae wedi creu 'teimlad da' ymhlith ein cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg. Roedd y cyhoeddusrwydd ychwanegol wedi ein helpu i gyrraedd cynulleidfa llawer uwch nag a ragwelwyd ac wedi achosi cynnydd aruthrol mewn cwsmeriaid, nid yn unig ar gyfer ein gêm Gymraeg."

Mae Eluned Morgan,  Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn annog busnesau i fanteisio ar wasanaeth Cymraeg Byd Busnes:

"Mae cael busnesau preifat yn hanfodol i lwyddiant Cymraeg 2050. Mae llawer o waith i'w wneud o hyd, ond mae'r gwaith mae Cymraeg Byd Busnes wedi'i wneud hyd yn hyn yn dangos bod busnesau'n barod i ymgysylltu a hoffwn ddiolch i'r swyddogion sydd wedi bod yn eu cefnogi i gynyddu eu defnydd o'r Gymraeg a dangos cariad at yr iaith yn ystod cyfnod dathlu Santes Dwynwen.

"Credwn fod y Gymraeg mewn Busnes yn dda i fusnes! Gall gweithredu'n ddwyieithog gynyddu boddhad cwsmeriaid. I mi, mae’n beth syml. Os ydych chi'n berchennog busnes sy'n teimlo'n nerfus am gynnig gwasanaethau dwyieithog, dwi am i chi wybod bod swyddogion Cymraeg Byd Busnes yma i'ch cefnogi chi."

Am ragor o wybodaeth neu i gael gwybod sut y gall eich busnes fanteisio ar y gefnogaeth hon yn rhad ac am ddim, ewch i: http://cymraeg.gov.wales/business/business/swyddogion/?lang=cy

Dilynwch #Cariad am wybodaeth am fusnesau sy'n cefnogi Dydd Santes Dwynwen