Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates yn cyfarfod â Chwmnïau Angori i’w sicrhau bod cymorth a chyngor ar gael.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cymru yn agored i fusnes ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu busnesau i ehangu ac i fuddsoddi – dyma fydd neges Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates, pan fydd yn cyfarfod â chwmnïau angori pwysig yr wythnos hon.


Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad â chwmnïau mewn Fforymau ar gyfer Cwmnïau Angori – y cyntaf yng Ngogledd Cymru (Wrecsam ar 2 Awst*) a’r ail yn Ne Cymru (Caerdydd ar 4 Awst*).  Bydd yn gwrando ar unrhyw bryderon sydd gan y cwmnïau yn dilyn canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ac yn trafod cyfleoedd newydd a ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru eu helpu.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

“Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaethon ni gyhoeddi cynllun hyder busnes a Chronfa Twf a Ffyniant i helpu busnesau bach a chanolig Cymru i fuddsoddi’n hyderus.  Yr wythnos hon, byddaf yn cwrdd â rhai o fusnesau pwysicaf Cymru, busnesau sy’n cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru o ran buddsoddi a chreu swyddi.

“Mae llawer o’r cwmnïau hyn yn rhan o fusnesau cenedlaethol ac rwyf am roi sicrwydd i gwmnïau Cymru a chwmnïau rhyngwladol bod Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi busnesau.  Bydd y gefnogaeth hon yn parhau wrth inni gyd-weithio’n agos â hwy i greu twf a ffyniant. 


“ER bod Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd wedi creu ansicrwydd, mae Cymru yn parhau i fod yn agored i fusnes ac mae Llywodraeth Cymru yma i helpu busnesau – dyma’r neges yr wyf am i gwmnïau ei chyfleu i aelodau eu Byrddau.”


Hefyd, cyhoeddodd Mr Skates bod Llywodraeth Cymru wedi lansio llinell gymorth Ewropeaidd i helpu busnesau ledled Cymru os oes ganddyn nhw unrhyw ansicrwydd, i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd newydd.

“Mae busnesau bach a mawr Cymru yn awyddus i gael eglurhad yn dilyn penderfyniad y wlad i adael Ewrop ond hefyd, maent yn awyddus i wybod sut i liniaru risgiau drwy dargedu allforio, bod yn fwy effeithiol a buddsoddi mwy.  Rwy’n gwrando’n ofalus ar unrhyw bryderon sydd gan fusnesau ac yn targedu cymorth fel y gallwn ni helpu busnesau Cymru i fod yn y sefyllfa orau bosibl i ymdrin ag effeithiau’r newidiadau a chyfleodd newydd.

“Rydym wedi rhoi amrywiaeth eang o becynnau cymorth ar waith er mwyn cynyddu hyder busnesau ac i’w  helpu i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael.  Bydd ein Llinell Gymorth Ewropeaidd yn rhoi help masnach i gwsmeriaid a chyflenwyr a bydd safle Busnes Cymru yn parhau i fod ag adran benodedig ynghylch yr Undeb Ewropeaidd ac sy’n cynnwys cyngor, cymorth, cwestiynau cyffredin a chysylltiadau i ffynonellau cyngor eraill.”

Dywedodd Nick Speed, Pennaeth Materion Cyhoeddus, Nwy Prydain: 

“Er bod pleidlais y DU o blaid gadael yr UE wedi creu peth ansicrwydd, credwn mai cyfyngedig yw’r effeithiau uniongyrchol yn y tymor byr. Rydym yn parhau i ymwneud mewn modd adeiladol â Llywodraeth Cymru er lles ein cwsmeriaid. Ein nod yw ehangu ein busnes yng Nghymru, gan gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni prosiectau a fydd yn ein helpu i ddefnyddio ynni’n effeithlon a hefyd brosiectau lleol ar gyfer cynhyrchu ynni.”

I drafod materion yn ymwneud â gadael yr UE, gall cwmnïau ffonio’r llinell gymorth – 03000 6 03000 neu anfon neges trwy’r wefan Busnes Cymru (dolen allanol).