Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog wedi ymateb i'r ystadegau diweddaraf y Farchnad Lafur.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones:

“Mae ein cyfradd cyflogaeth gwell yn parhau i fod yn uwch na rhannau eraill Prydain.

“Mae Cymru yn well na’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon gyda chyfradd gyflogaeth sy’n tyfu gyflymaf a chyfradd ddiweithdra sy’n gostwng gyflymaf dros y 12 mis diwethaf.

"Ar 4.8%, mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn is na chyfartaledd Prydain y trydydd mis yn olynol, a chyflogaeth bron ar y gyfradd uchaf erioed. Mae buddsoddi mewnol i Gymru yn parhau i fod ar y lefelau uchaf erioed.

“Eisoes yn 2016, mae cwmnïau fel Aston Martin, MotoNovo, TVR, Essentra, EE a BT wedi dewis Cymru fel y lle i fod ac i ehangu, creu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i filoedd o weithwyr Cymru."