Neidio i'r prif gynnwy

Dylai safonau newydd sy'n pennu'r hyn y mae gwaith teg yn ei olygu'n ymarferol gael eu datblygu er budd i bawb yng Nghymru, ac ni ddylid ond rhoi arian cyhoeddus i'r sefydliadau sy'n bodloni'r safonau hynny, neu sy'n gwneud cynnydd at eu bodloni.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma un o gyfres o argymhellion gan y Comisiwn Gwaith Teg, sy'n cael ei gadeirio gan yr Athro Linda Dickens MBE. Roedd y Comisiwn wedi edrych yn ofalus ar amrywiaeth o fecanweithiau deddfwriaethol, economaidd a rhai eraill y gall Llywodraeth Cymru eu defnyddio i hyrwyddo ac annog gwaith teg, er mwyn gwneud Cymru'n gymdeithas fwy cyfartal, teg a chyfiawn. 

Roedd yr argymhellion eraill yn cynnwys: 

  • Dylai holl Weinidogion ac adrannau Llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am waith teg.
  • Dylai cyrff y sector cyhoeddus fod yn gyflogwyr gwaith teg bwriadol ac amlwg.
  • Dylai mewnfuddsoddwyr fod yn rhan o sefydliadau gwaith teg.
  • Dylai prosiectau seilwaith a phrosiectau buddsoddi cyfalaf mawr fod yn brosiectau Gwaith Teg Cymru.
  • Mae gweithio mewn Partneriaeth Gymdeithasol, sy’n cynnwys undebau llafur a chyflogwyr, yn ganolog i gyflawni gwaith teg, a dylai Deddf Partneriaeth Gymdeithasol arfaethedig Llywodraeth Cymru adlewyrchu argymhellion y Comisiwn.
  • Dylai Llywodraeth Cymru roi strategaeth ar waith i wella effeithiolrwydd y ffordd y mae hawliau presennol yn cael eu gorfodi yng Nghymru, a rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i roi cyfundrefn arolygu a gorfodi gwladol ar waith, sy'n gryfach ac sydd â chosbau ynghlwm wrthi, i rwystro pobl rhag mynd yn groes iddi.

Dywedodd yr Athro Dickens: 

Ein diffiniad o waith teg yw bod gweithwyr yn cael eu talu, eu clywed a'u cynrychioli yn deg, a'u bod yn ddiogel ac yn gallu gwneud cynnydd mewn amgylchedd iach a chynhwysol ac un sy'n parchu hawliau.

Mae camau pwysig, a rhai arloesol yn aml, eisoes wedi'u cymryd yng Nghymru, a'r hyn sy'n bwysig yw bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall gwaith teg helpu i gyflawni economi gryfach, mwy modern a mwy cynhwysol. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i Gymru arwain y ffordd fel lle gwych i fyw, i weithio ac i fuddsoddi ynddo.

Rwy am ddiolch i bawb a gyflwynodd dystiolaeth i'r Comisiwn, ac rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn chwarae rôl arwyddocaol wrth hyrwyddo uchelgais y Prif Weinidog i wneud Cymru’n fwy cyfartal, teg a chyfiawn.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: 

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Athro Dickens a'r panel cyfan am eu hymdrechion a'u hymrwymiad i baratoi adroddiad gwych mewn cyn lleied o amser. Mae cyfuniad y cefndiroedd helaeth sydd ganddynt mewn cysylltiadau masnachol a chydraddoldeb yn y byd gwaith wedi helpu i gynhyrchu'r adroddiad cynhwysfawr hwn. Byddaf yn ei ystyried yn ofalus iawn. Rydym wedi ymrwymo i greu dyfodol gwell i bawb sy'n gweithio yng Nghymru.

Cafodd y Comisiwn Gwaith Teg ei sefydlu gan Carwyn Jones, y cyn-Brif Weinidog, yn 2018.