Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Llythyr yn gofyn i Grant Shapps fuddsoddi yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau drwy gronfa Restoring Your Railways Llywodraeth y DU, nid yn unig i wella cysylltiadau rheilffordd, ond hefyd i roi hwb i adferiad Cymru yn dilyn COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnaeth adroddiad a gynhaliwyd ar ran y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates, gan Drafnidiaeth Cymru, nodi pedair gorsaf newydd. Gronfa Gorsafoedd Newydd 3 a fyddai’n talu am y datblygiadau, a byddent yn barod yn gynnar yn 2024.

Rhoddid yr un flaenoriaeth i bob gorsaf, a byddent fel a ganlyn:

  • Parcffordd Glannau Dyfrdwy, ar Linell y Gororau yn y Gogledd
  • Carno, ar Brif Linell y Cambrian yn y Canolbarth
  • Sanclêr, ar Brif Linell y Great Western yn y Gorllewin
  • Melin Trelái, ar Linell y Ddinas yn y De

Yn ei lythyr, mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, yn ysgrifennu:

Nid wyf wedi eu trefnu yn ôl blaenoriaeth, am fod adroddiad Trafnidiaeth Cymru yn dangos bod achos cryf dros ddatblygu pob un o’r pedair gorsaf fel rhan o raglen integredig i wella mynediad at y rhwydwaith rheilffyrdd ledled Cymru. Bydd y pecyn hwn yn gwneud cyfraniad mawr at y gwaith o wella cysylltiadau rheilffyrdd, yn rhoi hwb i’n hadferiad yn dilyn COVID-19, ac yn datblygu ein trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y dyfodol. Bydd agor y gorsafoedd newydd hyn yn allweddol er mwyn Adeiladu Nôl yn Well.

Bydd Parcffordd Glannau Dyfrdwy a Melin Trelái yn elfennau allweddol o’u gwahanol ddatblygiadau Metro, ac yn gwneud cyfraniadau mawr at gysylltiadau trefol, rhagor o swyddi/twf economaidd a llai o geir yn cael eu defnyddio.

Byddai’r gorsafoedd newydd yn Sanclêr a Charno yn ategu cyflogaeth gref a thwf economaidd drwy wella cysylltiadau rhanbarthol. Maent yn cael eu cefnogi’n helaeth gan y gymuned a thrydydd partïon o fewn cymunedau gwledig, lle mae’r drafnidiaeth gyhoeddus yn gyfyngedig, sydd wedi cael eu hanwybyddu yn y gorffennol, yn enwedig ers cau’r gorsafoedd a fu yn y cymunedau hyn, a ffatri Enwog Laura Ashley yng Ngharno.

Gwnaeth y Gweinidog Trafnidiaeth hefyd wahodd yr Ysgrifennydd dros Drafnidiaeth i drafod blaenoriaethau eraill ar gyfer buddsoddi yn y rheilffyrdd, gan gynnwys gorsafoedd newydd ym Maesglas a Magwyr. Gwnaeth e awgrymiadau ar gyfer y Gronfa Syniadau Newydd, fel adfer gwasanaethau i deithwyr ar y llinell rhwng Gaerwen ac Amlwch ar Ynys Môn, a datganodd ddiddordeb mewn defnyddio’r gronfa Accelerating Existing Proposals i adfer y llinell a’r gwasanaethau i Abertyleri yn Ne Cymru. Achubodd hefyd ar y cyfle i dynnu sylw unwaith eto at gynlluniau eraill, gan gynnwys ailagor y llinellau rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin a rhwng Bangor a Chaernarfon.