Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper, wedi croesawu ffigurau newydd sy'n dangos gostyngiad parhaus mewn gwrthdrawiadau ffyrdd ac anafiadau ledled Cymru, gyda gostyngiadau clir ar ffyrdd gyda therfynau cyflymder 20mya a 30mya.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ffigyrau ar gyfer Ebrill i Fehefin 2026 yn dangos 19% yn llai o wrthdrawiadau a 20% yn llai o anafiadau ar bob ffordd yng Nghymru o'i gymharu â'r un chwarter yn 2025. Ar ffyrdd 20mya a 30mya gyda'i gilydd, roedd gwrthdrawiadau i lawr 22% ac anafiadau i lawr 20% dros yr un cyfnod.

O'i gymharu â'r un chwarter yn 2023, cyn cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn 20mya, mae gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya gyda'i gilydd i lawr 37% ac mae anafiadau i lawr 35%.

Dyma'r ffigurau isaf a gofnodwyd erioed yn y modd hwn – ac eithrio data a gafwyd yn ystod pandemig Covid.

Dywedodd Mark Hooper:

Mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn hynod galonogol ac yn darparu mwy o dystiolaeth bod y terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn helpu i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel.

Mae pob un o'r ffigurau hynny yn cynrychioli rhywun sydd wedi osgoi anaf, neu farwolaeth, ar ein ffyrdd.

Rwyf am ddiolch i'r heddluoedd ledled Cymru am eu gwaith parhaus i gofnodi'r data hwn a chadw ein cymunedau'n ddiogel. Byddwn yn parhau i fonitro'r tueddiadau hyn yn agos, fel rhan o'n gwerthusiad parhaus o'r polisi, ond mae ffigurau heddiw yn arwydd cryf bod pethau'n parhau i symud i'r cyfeiriad cywir.