Neidio i'r prif gynnwy

Llywodraeth Cymru yn sefydlu partneriaeth â Social Value Portal i dreialu system adroddiadau llesiant arloesol ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Social Value Portal i gefnogi cynllun peilot ar gyfer system adroddiadau llesiant ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y cynllun peilot yn cefnogi Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 a bydd yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Mae'r bartneriaeth hon yn adeiladu ar y gwaith blaenorol a wnaeth Social Value Portal gyda Llywodraeth Leol Cymru yn 2020 i ddatblygu System Themâu, Mesurau a Chanlyniadau (TOM) Cymru, sef fframwaith pwrpasol a gynlluniwyd i helpu sefydliadau'r sector cyhoeddus i fesur ac i roi adroddiadau ar eu cyfraniad at les economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol.

Mae’r Social Value TOM System™ yn fframwaith ar gyfer mesur gwerth cymdeithasol, ac fe’i dyluniwyd i helpu sefydliadau i olrhain y gwelliannau a wnânt mewn meysydd allweddol megis swyddi, twf, cynaliadwyedd, cymuned, ac arloesedd, ac i roi adroddiadau amdanyn nhw a’u gwella. Datblygwyd y system TOM i Gymru er mwyn adlewyrchu blaenoriaethau unigryw Cymru ac i gyd-fynd ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Fel rhan o'r gwaith newydd, bydd Social Value Portal yn:

  • Treialu platfform adroddiadau canolog ar gyfer pob corff cyhoeddus yng Nghymru
  • Rhoi mynediad i'r System TOM i alluogi cysondeb a thryloywder mewn adroddiadau
  • Darparu offer ar gyfer meincnodi ac i nodi gwersi a allai lywio polisi a gyrru gwelliant parhaus.

Bydd y fenter strategol hon yn galluogi Llywodraeth Cymru i gasglu tystiolaeth o’r effaith ystyrlon y mae caffael cyhoeddus yn ei gael ar gymunedau, yn awr ac er budd cenedlaethau’r dyfodol. Trwy drwyddedu'r System TOM i gael ei defnyddio ar draws pob corff cyhoeddus, rydym wedi darparu safon unedig ar gyfer mesur effaith caffael a pholisi ar les cymunedol.

Dywedodd Amy Dietrich, Dirprwy Gyfarwyddwr Caffael a Masnachol, Llywodraeth Cymru:

Mae’r bartneriaeth hon gyda Social Value Portal yn garreg filltir yn ein taith ni i ymgorffori lles ac effaith wrth wraidd penderfyniadau cyhoeddus. Trwy fabwysiadu dull cyson a chenedlaethol o roi adroddiadau ar werth cymdeithasol, rydym yn darparu’r hyn y mae ar gyrff cyhoeddus eu hangen i wneud dewisiadau gwybodus ac effeithiol sy'n cefnogi uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus.

Ychwanegodd Guy Battle, Prif Swyddog Gweithredol Social Value Portal:

Mae Cymru'n parhau ar flaen y gad trwy roi lles wrth wraidd eu penderfyniadau. Rydym yn falch o gefnogi Llywodraeth Cymru i ddarparu dull cadarn, seiliedig ar ddata, o fesur gwerth cymdeithasol. Bydd y fenter hon yn grymuso cyrff cyhoeddus yn ogystal â sicrhau bod cymunedau ledled Cymru yn ffynnu, yn unol â nodau’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: comms@socialvalueportal.com