Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn gofyn i bobl sut maen nhw’n meddwl y dylai Cymru reoli newidiadau i gyfraith trethi yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar ôl i Lywodraeth Cymru adolygu sut mae’n gwneud newidiadau i ddeddfau trethi Cymru ar hyn o bryd, gan gynnwys y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Mae’r trethi hyn, sydd wedi’u datganoli i Gymru, yn cynhyrchu refeniw pwysig sy’n helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid cael deddfwriaeth sylfaenol ar gyfer gwneud rhai newidiadau i reolau treth, ond mae’n bosibl gwneud newidiadau eraill drwy reoliadau. Mae Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i’r broses fwyaf addas ar gyfer gwneud newidiadau i sicrhau bod modd diweddaru deddfau trethi mewn ffordd effeithlon pan fydd angen, yn enwedig wrth ymateb i weithgareddau osgoi treth neu newidiadau i drethi Llywodraeth y DU tebyg.

Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid:

“Mae trethi Cymru yn chwarae rhan hanfodol i ariannu’r gwasanaethau cyhoeddus sy’n bwysig i bobl ym mhob cwr o Gymru. Mae’n bwysig bod y mecanweithiau cywir ar waith gennym i gadw ein system dreth yn deg, yn effeithiol ac i sicrhau ei bod yn ymateb i newid.  Ar yr un pryd, mae’n rhaid sicrhau bod y Senedd yn craffu’n briodol ar y mecanwaith.

“Nod yr ymgynghoriad hwn yw dod o hyd i’r ffordd orau ymlaen i Gymru – boed hynny drwy filiau treth blynyddol, drwy brosesau deddfwriaethol gwahanol, neu drwy wella ein system bresennol. Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb yn sut mae Cymru yn rheoli ei chyllid i fynegi eu barn.”

Mae’r Papur Gwyrdd ar Wneud Newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru yn archwilio sawl opsiwn, gan gynnwys cyflwyno biliau cyllid blynyddol tebyg i’r rhai sy’n cael eu defnyddio gan Senedd y DU, neu ddatblygu dulliau deddfwriaethol newydd wedi’u teilwra’n benodol i Gymru.

Bydd yr ymgynghoriad 12 wythnos ar agor tan 28 Tachwedd 2025 ac mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd y canfyddiadau yn helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch sut mae Cymru yn rheoli ei deddfau trethi a byddant yn cael eu cyhoeddi erbyn dechrau 2026.