Neidio i'r prif gynnwy

Mae Mallows Bottling, cyfleuster teuluol yng Nghoedelái yn mynd o nerth i nerth ers i'r busnes agor yn 2021, ac mae'r cwmni'n canolbwyntio ar allforion er mwyn tyfu yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Derbyniodd Mallows Bottling, grant gan gynllun Cyflymu Busnes, Arloesi a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ei llinell botelu, ac mae bellach yn rhedeg 3 llinell gyda chynlluniau ar gyfer pedwaredd. Mae'r cwmni'n potelu pob math o ddiodydd alcoholig ac wedi sicrhau contractau mawr gydag archfarchnadoedd a brandiau blaenllaw yn fyd-eang.

Yn ddiweddar, maent wedi ymestyn i faes diodydd meddal. Mae hwn yn brif gategori y mae'r cwmni'n canolbwyntio arno, ac mae eu llinellau yn cynhyrchu dros 60m o boteli o ddiodydd meddal ar gyfer brandiau.

Mae gan y cwmni achrediad BRC A*, ac mae wedi'i leoli mewn safle 30,000 troedfedd sgwâr. Mae hefyd yn un o'r ychydig gwmnïau sydd â warws bond yng Nghymru ac mae'n gallu storio hyd at 2,500 o baledau ar y safle. Adeiladwyd y safle yn unol â'r safonau Ewropeaidd uchaf gan ddefnyddio cronfeydd Ewropeaidd.

Mae'r busnes, sy'n cyflogi 45 o bobl, yn gweithredu mewn 6 marchnad fyd-eang, ac mae ganddo uchelgais i fasnachu mewn mwy o farchnadoedd, gyda'i alluoedd o ran alcohol. Ar y cyd â hyn, mae diodydd meddal yn ffocws strategol i'r cwmni, gan fod defnyddwyr eisiau ffordd iachach o fyw.

Cymerodd Mallows ran hefyd yn nigwyddiadau Blas Cymru yn 2021 a 2023.

Ymwelodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths â Mallows i agor eu llinell botelu yn swyddogol.

Dywedodd: 

Rwy'n falch o fod yma heddiw ym Mallows a gweld y cynnydd a'r twf sydd wedi digwydd ers i'r busnes ddechrau yn 2021. Roedd yn dda clywed am lwyddiant allforio'r busnes a chynlluniau pellach ar gyfer twf.

Mae'n dda gweld y llwyddiant hwn, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Rhys Mallows, Cyd-Reolwr Gyfarwyddwr yn Mallows: 

Fe wnaeth fy Nhad a minnau sefydlu'r busnes yng Nghoedelái, gan ein bod yn Gymry balch ac eisiau dod â refeniw a chydnabyddiaeth i Gymru, gan greu swyddi sy'n gynaliadwy. Rydym wedi cael cefnogaeth wych gan raglenni Llywodraeth Cymru fel Cywain a'r Rhaglen Twf Carlam i sefydlu a thyfu'r busnes.