Neidio i'r prif gynnwy

"Mae mynd i'r afael â thlodi plant yn ganolog i bopeth rydyn ni'n ei wneud." Dyna y mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip Jane Hutt wedi ymrwymo iddo.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nod Strategaeth Tlodi Plant newydd Llywodraeth Cymru yw mynd i'r afael ag effeithiau niweidiol byw mewn tlodi a gwella cyfleoedd i blant sy'n byw mewn tlodi.

Wrth lansio'r strategaeth newydd, dywedodd Ms Hutt y byddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob pŵer sydd ganddi wrth weithio gyda sefydliadau eraill i wneud tlodi plant yn flaenoriaeth wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru dros y degawd nesaf.

Mae mwy na 3,000 o blant, pobl ifanc, teuluoedd a sefydliadau wedi helpu i greu'r Strategaeth Tlodi Plant, sy'n seiliedig ar ymrwymiad i hawliau plant wrth fynd i'r afael â phla tlodi plant.

Mae 5 amcan hirdymor i'r strategaeth:

  • Lleihau costau a gwneud y gorau o incwm teuluoedd.
  • Creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial.
  • Cefnogi llesiant plant a'u teuluoedd a gwneud yn siŵr bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi.
  • Sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobl a'r gwasanaethau sy'n rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi, a herio'r stigma sy'n gysylltiedig â thlodi.
  • Sicrhau bod gwaith trawslywodraethol effeithiol ar lefel genedlaethol yn arwain at gydweithio cryf ar lefel ranbarthol a lleol.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt wedi ymweld â dau brosiect unigryw sy'n dangos y Strategaeth Tlodi Plant ar waith.

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaethon nhw ymweld â phrosiect 'banc pob dim' cyntaf Cymru - Cwtch Mawr - sydd wedi ei sefydlu yn Abertawe.  

Mae busnesau yn darparu nwyddau sydd dros ben ganddynt, gan gynnwys cynhyrchion glanhau, nwyddau cartref y gellir eu hailddefnyddio, nwyddau ymolchi, dodrefn, llenni ac ati i bobl nad ydynt yn gallu eu fforddio, yn rhad ac am ddim.

Mae'r rhain yn cael eu dosbarthu i bobl mewn angen, diolch i rwydwaith o bartneriaid cyfeirio sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol, athrawon ac elusennau.

Mae prosiect Cwtch Mawr yn arddangos egwyddor gwaith partneriaeth, ac mae'n ymateb uniongyrchol i amcanion hirdymor allweddol yn y Strategaeth Tlodi Plant i gydweithio â phartneriaid cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Ymwelodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, Jane Hutt hefyd â Chanolfan Adnoddau Blaenafon yn Nhorfaen ddoe (Ionawr 22), gydag Aelod Dynodedig y Cytundeb Cydweithio, Sian Gwenllian, i lansio Siarter Budd-daliadau Cymru.

Mae Canolfan Adnoddau Blaenafon yn cynnig cymorth uniongyrchol a gwasanaeth cyfeirio i bobl sy'n cael trafferth delio â'r argyfwng costau byw, gan roi cyngor a helpu'r bobl fwyaf anghenus i dalu am eu hynni, eu bwyd ac eitemau hanfodol ar gyfer y cartref.

Mae Siarter Budd-daliadau Cymru yn un o ymrwymiadau'r Strategaeth Tlodi Plant. Mae wedi cael ei mabwysiadu gan bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae'n cadarnhau'r cyd-ymrwymiad i'w gwneud yn haws i bobl ledled Cymru gael gafael ar gymorth ariannol.

Mae'n amlinellu'r egwyddorion sylfaenol i ddatblygu system fudd-daliadau dosturiol i Gymru, a fydd yn sicrhau ei bod yn hawdd i bobl gael gafael ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, gan helpu i roi arian yn eu pocedi, cael cymaint o incwm â phosibl, a helpu i fynd i'r afael â thlodi plant.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

"Rydyn ni'n benderfynol o fynd i'r afael ag effeithiau niweidiol tlodi a gwella cyfleoedd i blant.

"Heddiw rydyn ni'n amlinellu sut y gallwn ni fynd i'r afael â'r heriau mwyaf dybryd, gan ddefnyddio'r holl bwerau sydd gyda ni, yn enwedig ein gallu i ddod â sefydliadau a phartneriaid ynghyd i harneisio eu huchelgais a'u hymroddiad cyfunol.

"Llywodraeth y DU sydd â'r prif bwerau o ran trethi a lles. Mae angen iddyn nhw weithio gyda ni i gyflawni'r uchelgais hwn, sef rhoi pob mantais i bob plentyn yng Nghymru. Nid plant yn unig sy'n elwa wrth inni fynd i'r afael â thlodi plant - mae o fudd i bob un ohonon ni."

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, Jane Hutt: 

"Mae mynd i'r afael â thlodi plant a gweithio gydag eraill i gyflawni hyn yn ganolog i bopeth rydyn ni'n ei wneud fel llywodraeth ar bob lefel yng Nghymru.

"Drwy'r strategaeth hon, rydyn ni'n sicrhau bod tlodi plant yn flaenoriaeth wrth wneud penderfyniadau ar draws y llywodraeth.

"Mae Cwtch Mawr a Siarter Budd-daliadau Cymru yn enghreifftiau gwych o weithio mewn partneriaeth a fydd yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion.

"Dim ond drwy weithio trawslywodraethol cryf a chydweithio ar lefelau rhanbarthol a lleol, yn ogystal â helpu pobl i wneud y gorau o'u hincwm, a dod o hyd i lwybrau allan o dlodi, y gallwn ni gyda'n gilydd sicrhau hawliau holl blant a phobl ifanc Cymru."

Mae'r Strategaeth Tlodi Plant yn cynnwys 5 amcan allweddol, 5 blaenoriaeth ar gyfer gweithredu penodol i gyflawni'r amcanion hyn, ac 19 ymrwymiad pellach. Eu nod yw llywio polisi'r llywodraeth nawr ac yn y dyfodol.