Neidio i'r prif gynnwy

Llywodraeth Cymru yn lansio ymgyrch newydd wedi'i hanelu at rieni a gefnogir gan gymorth o £700,000 ar gyfer ysgolion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ymgyrch newydd i annog rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid i gymryd amser i siarad, gwrando a chwarae i helpu sgiliau cyfathrebu a datblygu iaith eu plentyn wedi'i lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw (18 Ionawr).

Mae'r ymgyrch 'Mae ‘na Amser' yn rhan o waith ehangach Llywodraeth Cymru ar lefaredd sy'n cynnwys £700,000 o gyllid ychwanegol a chymorth yn 2018-19 i ysgolion trwy’u consortia addysg rhanbarthol i helpu i wella sgiliau iaith dysgwyr.  Mae cyllid o £700,000 mewn lle’n barod ar gyfer 2017-18.

Bydd yr ymgyrch yn rhoi awgrymiadau ymarferol i rieni ar-lein ar sut i helpu plant 3 i 7 oed wella eu sgiliau iaith a pharatoi ar gyfer ysgol.

Mae ymchwil yn dangos bod plant sy'n cael y sylw hwn â mwy o gapasiti ar gyfer iaith ac, yn ddiweddarach, llythrennedd, ac felly’n hybu eu sgiliau cyfathrebu a'u siawns o lwyddo yn ddiweddarach mewn bywyd.

Lansiodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, ymgyrch 'Mae ‘na Amser' yn Ysgol Eglwysig yng Nghymru Llangatwg, Crughywel, yn gynharach heddiw lle bu dosbarth derbyn yn cymryd rhan mewn gweithdy i ddathlu Wythnos Genedlaethol Adrodd Straeon.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Rydym yn blaenoriaethu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant oherwydd dyma yw’r sylfeini ar gyfer llwyddiant, nid yn unig yn yr ysgol ond yn ddiweddarach mewn bywyd.

"Mae llafaredd yn hanfodol ar gyfer datblygu sgiliau bywyd ac rydym yn awyddus i gefnogi rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid, fel maen nhw'n pasio’r sgiliau gwerthfawr hyn ymlaen i'w plant.

"Rydym yn ymwybodol o’r pwysau gwahanol sydd yn bresennol wrth fagu plant ac  weithiau gall dod o hyd i’r amser fod yn her, ond neges yr ymgyrch hon yw y bydd pob ymdrech a wneir yn ystod y cyfnod cynnar yma yn helpu a bydd y manteision yn para am oes.

"Mae'n bwysig ein bod ni’n gwneud hyn yn hwyl ac yn broses sy’n gwobrwyo, felly mae’r ymgyrch newydd yn darparu rhai awgrymiadau defnyddiol a chyngor ymarferol i rieni, gofalwyr a gwarcheidwaid i gefnogi datblygiad sgiliau siarad, gwrando a thrafod dwyieithog eu plentyn."

Alison Stroud, Pennaeth Swyddfa Cymru y Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith:

"Mae’r gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn sgìl bywyd hanfodol ar gyfer pob plentyn oherwydd mae'n sail i ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol y plentyn. Yn arbennig, mae tair blynedd gyntaf o fywyd plentyn yn hollbwysig wrth ddatblygu oll anghenion cynyddol plentyn ifanc i gyfathrebu. Gall sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu gwael effeithio ar eu hymddygiad, iechyd meddwl, 'parodrwydd i fynd i’r ysgol' a hyd yn oed eu cyflogadwyedd fel oedolion.

"Dylid amlygu plant i gynifer o eiriau â phosibl mewn profiadau beunyddiol i'w helpu i ddatblygu eu hiaith ac i hyrwyddo eu sgiliau cyfathrebu.  Mae yna lawer o ffyrdd gwahanol y gall rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid eu cefnogi, ond y ffordd symlaf yw parhau i greu cyfleoedd i wrando a siarad gyda’ch gilydd pan fo’r teledu, ffonau clyfar a dyfeisiau symudol eraill wedi'i ddiffodd."

O heddiw ymlaen, bydd hysbysebion sy'n cynnwys llais yr awdur a'r cyflwynydd Anni Llyn yn rhedeg am bythefnos ar deledu, gorsafoedd radio lleol ac ar-lein, yn annog rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid plant 3 i 7 oed i gymryd amser i siarad, gwrando a chwarae.

Bydd yr animeiddiadau byr yn cynnwys cynghorion iddynt i helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu ac iaith eu plentyn.

Mae rhaglen Pori Drwy Stori Booktrust Cymru’n cefnogi meysydd dysgu allweddol yn y Cyfnod Sylfaen, gan gynnwys llythrennedd a rhifedd, fel y mae plant yn dechrau yn y dosbarth derbyn yn yr ysgol.

Mae'r rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn darparu deunyddiau dysgu dwyieithog i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, ac yn y cartref, a fydd yn adnodd pwysig ar gyfer yr ymgyrch llafaredd.

Rhoddir deunyddiau rhaglen Pori Drwy Stori Booktrust Cymru i bob plentyn yn y flwyddyn dderbyn ysgol.  Mae’r adnoddau tymhorol yn cefnogi rhieni a gofalwyr i gymryd rhan yn addysg eu plentyn pan maent yn dechrau yn yr ysgol ac yn canolbwyntio ar feysydd allweddol dysgu yn y Cyfnod Sylfaen, gan gynnwys llythrennedd a rhifedd.

Ychwanegodd Helen Wales o BookTrust Cymru,

"Mae Pori Drwy Stori yn caniatáu eich plentyn i fagu hyder gyda geiriau mewn ffordd hwylus. Mae'r heriau'n helpu plant i ddysgu ac adrodd rhigymau neu farddoniaeth mewn ffordd hwylus, tra bo’r cylchgrawn yn annog plant i siarad, gwrando a gwneud penderfyniadau. Byddwn yn lansio adnoddau newydd a chynllun peilot ar gyfer ysgolion yng Nghymru i helpu plant ifanc i wella eu sgiliau llafaredd a’r gobaith yw y bydd rhieni ac athrawon yn eu gweld fel offer defnyddiol ar gyfer hyrwyddo datblygu Iaith."

"Nod Pori Drwy Stori yw gwneud dysgu’n hwyl ac i gyflwyno syniadau i rieni a gofalwyr am ffyrdd y gallant gefnogi eu plant i siarad a dysgu. Mae'r adnoddau’n helpu plant a theuluoedd i gael hwyl wrth ddysgu rhigymau, mwynhau rhannu llyfrau a storïau a chwarae gemau rhif. Mae’r adnoddau yn annog plant i siarad, gwrando a gwneud penderfyniadau gan adeiladu ar ein rhaglen hir-sefydledig Dechrau Da sy'n annog teuluoedd i ddechrau siarad a rhannu llyfrau, storïau a rhigymau o oedran ifanc iawn."

Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn mae’r ymgyrch, 'Mae addysg yn dechrau yn y cartref' yn ceisio annog rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid i wneud mwy o’r pethau bychain yn y cartref a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i addysg a datblygiad eu plentyn.

Am ragor o wybodaeth am ymgyrch ‘Mae addysg yn dechrau yn y cartref' ewch i www.facebook.com/dechraucartref (https://www.facebook.com/dechraucartref/ ) ac ar Twitter (@dechraucartref)