Neidio i'r prif gynnwy

‘Mae nwyddau mislif yn eitemau hanfodol a dylen nhw fod ar gael i ragor o bobl sy’n ei chael hi’n anodd yn ystod yr argyfwng costau byw’ – dyna adduned Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Un o gonglfeini cynllun ‘Cymru sy’n falch o’r mislif’, sydd newydd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, yw ei gwneud hi’n haws cael gafael ar nwyddau mislif.

Mae’r cynllun yn amlinellu sut y dylai pawb allu cael gafael ar nwyddau mislif, pryd bynnag y bo’u hangen. Mae’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd fforddio nwyddau mislif yn cael eu hannog i ofyn am y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Daw hyn ar adeg pan fo nwyddau mislif am ddim ar gael mewn mwy o leoedd nag erioed o’r blaen.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

Mae nwyddau mislif yn eitemau hanfodol a dylen nhw fod ar gael i bawb sydd eu hangen. Mae hyn yn bwysicach nag erioed wrth i lawer ei chael hi’n anodd yn ystod yr argyfwng costau byw.

Ry’n ni eisiau sicrhau nad yw cael mislif yn arwain at golli addysg, absenoldeb o’r gwaith neu dynnu’n ôl o chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol oherwydd tlodi mislif.

Mae dros £12 miliwn wedi’i fuddsoddi i wella mynediad at nwyddau mislif am ddim i blant, pobl ifanc a’r rhai sydd ar incwm isel yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae nwyddau mislif am ddim ar gael ym mhob ysgol yng Nghymru ac ar draws ystod o leoliadau cymunedol gan gynnwys y canlynol, ymysg eraill: banciau bwyd, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, canolfannau i deuluoedd, hybiau cymunedol a gwasanaethau ieuenctid. Mae lleoliadau chwaraeon, lleoliadau diwylliannol a chyflogwyr hefyd yn cael eu hannog i ddarparu nwyddau am ddim i staff ac ymwelwyr.

Y gobaith yw y bydd hyn yn dod â thlodi mislif i ben ac yn sicrhau bod y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn gallu cael gafael ar nwyddau mislif.

Roedd Dee Dickens yn ei chael hi’n anodd fforddio nwyddau mislif pan oedd hi’n tyfu i fyny ac yn teimlo cywilydd ohoni ei hun pan oedd hi ar ei mislif, gan boeni drwy’r amser y byddai pobl yn sylwi.

Byddwn yn defnyddio papur tŷ bach yn nhoiled yr ysgol,

meddai.

Nes imi adael cartref, ro’n i’n treulio pob mislif yn poeni y gallai pobl fy arogli a dyna oedd yn gwneud imi deimlo cywilydd. Dyna un o’r rhesymau pam rwy’n siarad amdano fe nawr, gan nad ydw i eisiau i neb arall fynd drwy hyn.

Ychwanegodd:

Pan wnes i adael cartref, ro’n i’n gyfrifol am fy arian fy hun, ond hyd yn oed wedyn byddwn yn rhedeg allan ac yn peidio â phrynu rhagor gan fod gen i’r euogrwydd yma, a byddwn yn dal i roi papur tŷ bach yn fy nicyrs. Mae wedi cymryd blynyddoedd o therapi imi sylweddoli fy mod i’n haeddu pethau neis ac na ddylwn i fod yn meddwl am nwyddau mislif fel pethau neis.

Mae normaleiddio cael mislif a chael gwared ar unrhyw gywilydd neu stigma yn ei gylch yn un o brif flaenoriaethau’r cynllun.

Nod y cynllun hefyd yw gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r cylch mislif a’r menopos, fel bod gan bobl yr hyder i siarad yn agored amdanyn nhw, a hynny fel nad ydyn nhw’n cael effaith negyddol ar eu bywydau.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

Mae ‘Cymru sy’n falch o’r mislif’ yn nodi ein huchelgeisiau i ddod â thlodi mislif i ben a sicrhau urddas mislif i fenywod, merched a phobl sy’n cael mislif.

Er mwyn gwneud hyn, mae angen inni wella mynediad at nwyddau mislif, chwalu’r stigma neu’r tabŵ sy’n gysylltiedig â siarad am y mislif a gwella dealltwriaeth o’i effaith ar fywydau pobl.

Ychwanegodd:

Ry’n ni’n gwybod y bydd ffactorau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol ehangach yn effeithio ar ein gallu i gyflawni’r weledigaeth hon, ond ry’n ni’n ymdrechu i ddechrau’r sgwrs a dechrau newid y diwylliant a fydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol.