Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Gweinidog y Gogledd, Ken Skates, wedi agor rhan derfynol Ffordd Gyswllt Llangefni yn swyddogol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod yr ymweliad ag Ynys Môn heddiw, dywedodd y Gweinidog y byddai'r cynllun gorffenedig yn fanteisiol iawn i'r ardal leol ac i Ynys Môn yn ei chyfanrwydd.

Mae Ffordd Gyswllt Llangefni yn cysylltu Coleg Menai a Pharc Busnes Bryn Cefni, sy'n safleoedd allweddol yn Ardal Fenter Ynys Môn, â'r A5114 a'r A55, a bydd yn lleihau tagfeydd traffig yng nghanol y dref. Mae'n hanfodol hefyd er mwyn hwyluso Prif Gynllun Grŵp Llandrillo Menai i ddatblygu ei gampws yn Llangefni yn ganolfan o fri rhyngwladol ym maes ynni a pheirianneg. Bydd hefyd yn helpu Parc Busnes Bryn Cefni i ehangu.

Adeiladwyd y Ffordd Gyswllt mewn pedair rhan ac mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £10 miliwn yn y cynllun.

Agorodd Ken Skates ran un a rhan dau'r ffordd gyswllt yn swyddogol ym mis Mawrth 2017, cyn i ran pedwar gael ei hagor i draffig ym mis Rhagfyr 2017.

Mae'r prosiect yn ei gyfanrwydd wedi cael arian gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn, Grŵp Llandrillo Menai a'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.

Dywedodd Ken Skates:

"Mae system drafnidiaeth sydd o ansawdd uchel ac yn gysylltiedig yn hanfodol er mwyn sicrhau twf economaidd yng Ngogledd Cymru, ac rwyf wrth fy modd yn cael agor rhan derfynol Ffordd Gyswllt Llangefni, sy'n allweddol er mwyn galluogi pobl i gael at swyddi a gwasanaethau.

"Mae hwn yn brosiect pwysig a fydd yn dod â manteision i'r ardal ac i Ynys Môn. Mae hefyd yn enghraifft wych o waith partneriaeth, gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn, Grŵp Llandrillo Menai a'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear i gyd yn cyfrannu at y gwaith o gyflawni'r cynllun yn llwyddiannus.

"Rwy'n arbennig o falch bod y cynllun wedi helpu gyda'r gwaith o adeiladu unedau busnes newydd ar Ystad Diwydiannol Bryn Cefni, ac estyniad i Ganolfan Fusnes Ynys Môn, gan helpu busnesau lleol i dyfu a darparu'r cyfleoedd swyddi hynny sydd eu hangen yn fawr iawn.

"Mae'r ffordd gyswllt hefyd yn hanfodol ar gyfer y gwaith o ddatblygu Campws Pencraig Grŵp Llandrillo Menai, a fydd yn darparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel.

"Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru, ac mae Ffordd Gyswllt Llangefni yn rhan hanfodol o'n gweledigaeth ni ar gyfer darparu cysylltiadau trafnidiaeth gwell.

"Mae cwblhau'r cynllun hwn yn dangos yn glir ein hymrwymiad i Ynys Môn a'r ardal ehangach.

"Yn dilyn y newyddion diweddar am Wylfa Newydd, rydyn ni’n parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i roi sicrwydd inni eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu i ddod â'r prosiect hwn i Ynys Môn a symud pethau yn eu blaen."

Dywedodd deiliad portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Ynys Môn, y Cynghorydd Bob Parry:

"Bydd Ffordd Gyswllt Llangefni yn rhoi cyfleoedd sylweddol i Langefni ac Ynys Môn i wella'n economaidd. Bydd yn rhoi hwb allweddol i ehangu campws Grŵp Llandrillo Menai ac yn ysgogi cyfleoedd hyfforddi pellach ar gyfer ein pobl ifanc. Bydd y prosiect hefyd yn gwella mynediad i safleoedd yr Ardal Fenter a gwibffordd yr A55, ac yn helpu i oresgyn y cyfyngiadau traffig yn Llangefni.

"Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog, Ken Skates, a Llywodraeth Cymru am eu cymorth wrth wireddu'r prosiect hwn. Hoffwn ddiolch i'r ddau gontractwyr, Alun Griffiths a Jones Bros hefyd, am eu gwaith rhagorol ochr yn ochr â thîm y prosiect."

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi:

"Mae buddsoddi mewn prosiectau seilwaith fel y ffordd gyswllt yn allweddol wrth wireddu ein gweledigaeth economaidd ar gyfer Ynys Môn. Bydd y Cyngor Sir yn gweithio i sicrhau cymorth ac ymrwymiad ychwanegol i ariannu prosiectau eraill er mwyn ysgogi adfywiad economaidd ar yr Ynys. I ddechrau byddwn yn canolbwyntio ar ogledd Ynys Môn, yn sgil y cyhoeddiadau diweddar yn yr ardal, a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i gryfhau ein heconomi, i roi cymorth i fusnesau ac i ddarparu swyddi."

Dywedodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:

"Rydyn ni fel coleg yn falch iawn o weld y rhan derfynol hon yn cael ei hagor, gan y bydd yn caniatáu i'r campws yn Llangefni gael ei ddatblygu yn lleoliad strategol bwysig ar gyfer datblygu sgiliau."